Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De

Page 8

Addysgu Arobryn Yma yng Ngrŵp Colegau NPTC, cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd â

chyfoeth o wybodaeth sy'n benodol i'r

diwydiant ynghyd â chysylltiadau cadarn â'r cyflogwyr gorau, gan roi'r ansawdd addysgu a dysgu uchaf i chi. Mewn

gwirionedd, mae ein haddysgu mor dda

fel ein bod wedi cael ein henwi fel y Coleg

gorau yng Nghymru ar gyfer addysgu ac yn ddegfed yn y DU gyfan*.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi'r cymorth unigol sydd ei hangen ar bob myfyriwr i lwyddo, boed hynny'n symud ymlaen i'r prifysgolion gorau, prentisiaethau neu i'ch gyrfa ddelfrydol gyda'r cyflogwyr gorau.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Ar ba lefel bynnag y byddwch yn ymuno â ni, byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd i gefnogi eich taith addysgol, ac yn addo, pryd bynnag y byddwch yn penderfynu ein gadael, byddwch yn gadael gyda'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i ffynnu.

7

O fewn pob maes pwnc ceir rhaglen asesu a chymorth rheolaidd. Byddwch yn ymwneud â chynllunio eich dysgu unigol a gosod targedau ar gyfer gwella sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'ch tiwtoriaid. Rydym yn darparu cymorth tiwtorial yn ogystal â gwersi wedi'u hamserlennu i gynorthwyo'r gwaith o baratoi ar gyfer arholiadau, ceisiadau UCAS a chymorth bugeiliol. Mae gan ein llyfrgell adnoddau da ac mae'n darparu mynediad i'r gwasanaethau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau. Yn ogystal â chasgliadau helaeth o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a DVDs, mae ein canolfannau hefyd yn cynnig mynediad i wybodaeth ar-lein, cyngor ar ddulliau ymchwil a gallant helpu gyda chyfeirnodi. Rydym yn meithrin myfyrwyr dawnus a thalentog gyda chymorth a mentora arbenigol gan gynnwys cyngor ac arweiniad cynhwysfawr ar y broses ymgeisio UCAS gymhleth i'r prifysgolion gorau a chyrsiau cystadleuol fel Meddygaeth, Deintyddiaeth, Gwyddor Filfeddygol, a'r Gyfraith. Byddwch yn cael siaradwyr gwadd, gan gynnwys sgyrsiau blynyddol a gyflwynir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Ysgol Feddygol Caerdydd a thiwtoriaid derbyn Oxbridge ynghyd â llawer o gyfleoedd i wella eich cais drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi fel yr Her Fathemateg, yr Olympiad Bioleg, Med-link a digwyddiadau STEM’.

^


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De by NPTC Group of Colleges - Issuu