2 minute read

Garddio a Garddwriaeth

GALWEDIGAETHOL

GAETHOL GALWEDI

Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy’n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a thirweddau a reolir.

Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy’n amrywio o ran maint o gwmnïau amlwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd llai. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyfl ogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi’u hyfforddi ym Mhrydain.

Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy’n rhoi i chi’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda’n cyfl eusterau gwych sy’n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi’u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau’r profi ad awyr agored go iawn.

Mae’r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grewyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd Fedal Aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae gwersi’n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio’r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyfl ogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profi ad gwaith, gan ennill profi ad gwaith gwerthfawr. Cewch hefyd gyfl e i ddatblygu sgiliau menter trwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y fl wyddyn! Bydd myfyrwyr hefyd yn mwynhau plannu a meithrin amrywiaeth o berlysiau a llysiau sy’n cael eu dewis yn ffres i’w gweini ym Mwyty Blasus yng Ngholeg Castell-nedd.

Rhagolygon Gyrfa

b Gwaith Planhigfa b Canolfannau garddio manwerthu b Dylunio gerddi b Cynhyrchu planhigion b Lluosogi planhigion b Gofal tir b Tirlunio b Cynnyrch organig b Gwyddoniaeth b Addysg b Meddyg coed b Hunangyfl ogaeth.

Enillion blynyddol cyfartalog

Y diwydiant garddio a garddwriaeth £30k - £60k 2384 o swyddi yng Nghymru erbyn 2024(Gyrfa Cymru)

Cyrsiau

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfa Lefel Gofynion Mynediad Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol 1 Dim cymhwyster ffurfi ol.

Hyd Lleoliad Blwyddyn Castell-nedd /Bannau

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol 2 Cymhwyster Lefel 1 mewn Garddwriaeth Blwyddyn Castell-nedd /Bannau

Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith 3 Cymhwyster lefel 2 mewn Garddwriaeth neu brofi ad priodol. Blwyddyn Castell-nedd

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed

This article is from: