5 minute read

Academi’r 6ed Dosbarth

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

SA F ON  SAFON  SA F ON  SAFON 

Academi’r 6ed Dosbarth

Mae Academi'r Chweched Dosbarth yng

Ngholeg Castell-nedd yn lle bywiog a deinamig i astudio gyda chyfl eusterau o'r radd fl aenaf gan gynnwys ein canolfan Academi'r Chweched Dosbarth newydd arobryn. Mae Academi'r Chweched Dosbarth yn rhoi amgylchedd cefnogol, meithringar ac academaidd i'n myfyrwyr yn ogystal i sicrhau eich bod yn cael eich herio i gyfl awni eich llawn botensial. Mae Academi'r Chweched Dosbarth wedi ymrwymo i ddarparu cyfl eoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ochr yn ochr â'u prif gwrs astudio. Felly, bydd y rhan fwyaf o'n dysgwyr yn cwblhau'r Dystysgrif Her Sgiliau ochr yn ochr â'u prif gymhwyster. Byddwn yn eich paratoi ar gyfer bywyd prifysgol drwy annog dysgu annibynnol mewn amgylchedd chweched dosbarth.

Un o'r nifer fawr o fanteision o ran astudio yn Academi'r Chweched Dosbarth yw'r ystod eang o ddewisiadau pwnc. Rydym yn cynnig dros 40 o bynciau Safon Uwch ynghyd â Chyrsiau Galwedigaethol, TGAU a chyrsiau mynediad i Addysg Uwch a'r cymhwyster TBAR. Cyfl wynir ein cyrsiau Safon Uwch gan staff profi adol sy'n arbenigwyr pwnc ac sy'n sicrhau cyfraddau llwyddo sy'n gyson uchel fl wyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r cymorth y maent yn ei gynnig i fyfyrwyr heb ei ail gyda safonau uchel yn cael eu cynnal yn barhaus. Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudiaethau pellach ac yn symud i Addysg Uwch ac mae llawer ohonynt yn mynychu rhai o'r prifysgolion gorau yn y DU gan gynnwys Grŵp Russell ac Oxbridge.

2020/21 Coleg Castell-nedd Canlyniadau Safon U/UG

Gall gwneud y dewis cywir ar gyfer astudiaethau safon UG/U fod yn allweddol i'ch llwyddiant. Bydd staff Academi'r Chweched Dosbarth yn rhoi cyngor ac arweiniad cynhwysfawr i chi ynghylch y cyfuniadau o bynciau safon UG. Byddwn yn eich helpu i ddewis pynciau yr ydych yn eu mwynhau ac y mae gennych y cymhelliad i'w dysgu, a bydd hynny'n eich galluogi i symud ymlaen ar hyd eich llwybr gyrfa dewisedig.

SAFON U

Hanes yr Henfyd

Bioleg Astudiaethau Busnes

A*- C % A-E %

50 100 84.7 100 79.5 100

Cemeg

Cyfrifi adureg

Troseddeg

67.4 100 78.6 100 88.1 100 Dawns 100 100 Drama/Astudiaethau Theatr 100 100 Economeg 80 100 Saesneg Iaith/Llenyddiaeth 79.2 100 Saesneg Iaith 70 100 Saesneg Llenyddiaeth 100 100 Astudiaethau Ffi lm 66.7 100 Celfyddyd Gain 85.7 100 Ffrangeg 100 100 Daearyddiaeth 64.7 100 Almaeneg 100 100 Iechyd a Gofal Cymdeithasol 85.2 100 Cyfathrebu Graffeg 100 100 Hanes 96.9 100 TGCh 78.6 100 Y Gyfraith 81.8 100 Mathemateg 64.3 100 Mathemateg (Bellach) 100 100 Astudiaethau'r Cyfryngau 80 100 Cerddoriaeth 85.7 100 Addysg Gorfforol 91.7 100 Ffotograffi aeth 100 100 Ffi seg 76.5 100 Seicoleg 85.1 100 Astudiaethau Crefyddol 89.5 100 Cymdeithaseg 74.6 100 Sbaeneg 77.8 100 Tecstilau 87.5 100 Dylunio Tri Dimensiwn 100 100 Teithio/Twristiaeth 100 100 Cymraeg (2il Iaith) 83.3 100 CYFRADD LWYDDO 81.6% 100%

Fel aelod o Academi’r Chweched Dosbarth, gallech fod yn gymwys i wneud cais am ein Rhaglen Ragoriaeth Galluog a Thalentog (GATE). Mae hon yn rhaglen arbenigol strwythuredig o gymorth ar gyfer y dysgwyr hynny â chanlyniadau TGAU eithriadol (ar y cyfan 3A*/4A* a graddau A yn bennaf ar lefel TGAU). Bydd y rhai sy’n gwneud cais i brifysgolion cystadleuol, yn enwedig y rheini yng Ngrŵp Russell, Rhydychen a Chaergrawnt, yn derbyn cymorth personol drwy ein Rhaglen Ragoriaeth Galluog a Thalentog. Mae gwneud cais i brifysgolion cystadleuol yn golygu mwy na graddau rhagorol yn unig. Rhaid i chi wneud dewis gwybodus ynghylch y pynciau yr hoffech eu hastudio, deall y broses a’r systemau dethol cystadleuol a chyfl wyno ffurfl en gais gaboledig a rhagori yn y cyfweliad.

Pan fyddwch yn rhan o raglen GATE, byddwch yn cael eich rhoi mewn grŵp tiwtorial penodol a fydd yn ateb eich anghenion a’ch dyheadau. Y nod yw ehangu eich gorwelion y tu hwnt i’ch dewis bynciau a hyrwyddo rhesymu a thrafod dadansoddol. Mae hyn yn amhrisiadwy o ran paratoi ar gyfer cyfweliadau prifysgol. Bydd rhai o’r meysydd a gwmpesir yn ystod sesiynau tiwtorial yn cynnwys: b Prosesau a nodau gwleidyddol b Credoau, gwerthoedd a rhesymu moesol b Goblygiadau moesegol ac amgylcheddol datblygiad gwyddonol. Caiff y materion hyn eu cysylltu â digwyddiadau cyfredol.

Canlyniadau Safon U Cyfartalog Grŵp Colegau NPTC

Grŵp Colegau NPTC Gradd Cenedlaethol 91.9% A*- A 42.3% 100% A*- B 70.7%

Yn ôl Estyn, mewn dosbarthiadau Safon Uwch, mae’r athrawon yn cy wyno sesiynau bywiog sy’n ennyn diddordeb y dysgwyr yn dda. Maent yn helpu i strwythuro dealltwriaeth dysgwyr o gysyniadau, ac yn eu hannog i ddatblygu diddordebau pynciol ehangach.

Cewch gyfl e i gwblhau cymhwyster y prosiect estynedig sy’n eich galluogi i ymchwilio, dylunio a chyfl awni prosiect annibynnol a allai fod yn gysylltiedig â phwnc academaidd yr ydych yn ei astudio. Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol cwblhau eich prosiect a byddwch yn cael cymorth arbenigol y staff addysgu perthnasol. Drwy gwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch yn: b Dod yn fwy beirniadol, myfyriol ac annibynnol yn eich dysgu b Datblygu a chymhwyso sgiliau gwneud penderfyniadau a datrys problemau b Cynyddu eich sgiliau cynllunio, ymchwilio, dadansoddi, syntheseiddio, gwerthuso a chyfl wyno b Dysgu i gymhwyso technolegau newydd yn hyderus b Dangos creadigrwydd, blaengaredd a menter.

Bydd Rhaglen GATE hefyd yn rhoi cyfl e i chi wella eich sgiliau ymhellach drwy gymwysterau ychwanegol a chystadlaethau.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn rhan o rwydwaith Seren: Cefnogi Myfyrwyr Disgleiriaf Cymru sy’n anelu at gefnogi myfyrwyr disgleiriaf Cymru i gyfl awni eu potensial academaidd a chael mynediad i’r prifysgolion gorau. Yn rhan o’r ganolfan, bydd myfyrwyr yn cael mynediad i: b gwybodaeth gywir b darparu gweithgareddau allgyrsiol b grŵp cyfoedion o fyfyrwyr sy’n cyfl awni’n uchel b cysylltiadau â myfyrwyr prifysgol a graddedigion diweddar o gefndiroedd tebyg.

Drwy ganolfannau Seren, gallwn gynnig cymorth ac arweiniad ymarferol ychwanegol i fyfyrwyr sydd ei angen drwy gydol y broses ymgeisio. Bydd hyn yn fanteisiol wrth wneud cais i’r prifysgolion gorau. Mae’n cynnig cyfl e gwych i ddisgyblion fod yn rhan o rwydwaith o fyfyrwyr o’r un meddylfryd sy’n rhannu nodau tebyg.

Cyflwyniad i Safon U

Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ymbaratoi ar gyfer eich astudiaethau Safon UG neu gyrsiau Lefel 3. Mae’n gwrs academaidd a fydd yn eich galluogi i adeiladu ar eich proffi l TGAU os nad ydych wedi cwrdd â’r gofynion mynediad priodol ar gyfer rhaglen UG/U neu Lefel 3, neu fod angen i chi wella eich proffi l TGAU ar gyfer eich dewis yrfa. Gofynion Mynediad O leiaf 1 Gradd C a 3 Gradd D mewn TGAU yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg a phwnc Gwyddonol. Fel arall, gwybodaeth ddiweddar am weithio o fewn y pynciau hyn.

Y Camau Nesaf Dilyniant uniongyrchol i ddetholiad o gyrsiau Safon UG/U neu gwrs Lefel 3 sy'n canolbwyntio ar yrfa yng Ngrŵp Colegau NPTC.

This article is from: