3 minute read

Adnewyddadwy

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

GALWEDIGAETHOL

GAETHOL GALWEDI

Plymio, Astudiaethau Trydanol ac Ynni Adnewyddadwy

Adeiladu’r Dyfodol

Cafodd cyfres newydd o gymwysterau eu cyfl wyno ledled Cymru sydd wedi’u datblygu gyda chyfl ogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau’r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well.

Nod y newid yw symleiddio’r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o’r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.

Mae’r Cymhwyster Sylfaen ar gyfer Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn gymhwyster newydd sbon lle rydych chi’n astudio dau brofi ad crefft:

b Plymio a Gwresogi Domestig b Systemau ac offer electro-dechnegol (Gosodwaith Trydanol).

Mae gan y diwydiant Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy’n golygu ei fod yn un o gyfl ogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi’u hyfforddi o’r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyfl ogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â’r diwydiant gwerth chweil hwn. Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â’r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfl e i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofi ad o’r diwydiant sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau’r myfyriwr. Er y byddwch yn astudio crefft drydanol a chrefft blymio yn y lle cyntaf, byddwch yn dewis un llwybr nes ymlaen.

Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch mewn plymio a gosodwaith trydanol. Byddwch hefyd yn dysgu dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesiad

I gyfl awni’r cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn cwblhau ystod o brosiectau/tasgau, trafodaethau dan arweiniad a phrofi on amlddewis a osodir yn fewnol ac yn allanol.

Dilyniant

Gallwch symud ymlaen i raglen amser llawn ail fl wyddyn yn y ddau faes crefft neu sicrhau prentisiaeth fel plymwr neu drydanwr a datblygu’ch astudiaethau gyda ni ar hyd un llwybr penodol.

Ar gyfer pwy mae’r cymhwyster?

Mae’n addas ar gyfer: Dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio yn y sectorau gwasanaethau peirianneg adeiladu ac adeiladwaith neu’n bwriadu gweithio ynddynt. Gweithwyr safl eoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol.

Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyfl awni, neu fod yn gweithio tuag at eu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth).Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol eraill ar gyfer y cymhwyster hwn.

Cyrsiau

Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Cymhwyster Sylfaen mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu 2 TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch.

Hyd Lleoliad

1-2 fl ynedd Castell-nedd/Afan

Diploma mewn Astudiaethau Plymio (Plymio a Gwresogi)

Diploma mewn Gosodwaith Trydanol Peirianneg Gwasanaethau Trydanol (Gosodwaith a Chynnal a Chadw Trydanol) 2 TGAU mewn Saesneg / Cymraeg, Mathemateg / Rhifedd gradd A*-C. Blwyddyn Castell-nedd

2 TGAU mewn Saesneg / Cymraeg, Mathemateg / Rhifedd a Gwyddoniaeth gradd A*-D. Blwyddyn Afan

3 5 TGAU ar radd C neu uwch. 2 fl ynedd Afan

Enillion blynyddol cyfartalog (Emsi - economicmodeling.com) Plymwr £19k - £37k Trydanwr £16k - £38k Gosodwr Paneli Solar £25k - £30k

This article is from: