6 minute read

Prentisiaethau

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

MAE'N TALU I DDYSGU

Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfl e i chi ennill profi ad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyfl awni cymwysterau swyddbenodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfl eoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen.

Dyma'r llwybrau: b Cyfrifeg b Amaethyddiaeth b Mecaneg Amaethyddol b Gofal b Gweinyddiaeth Busnes b Gofal Plant a Gwaith b Adeiladwaith Chwarae b Gwasanaethau Cwsmeriaid b Peirianneg b Lletygarwch ac Arlwyo b Cerbydau Modur b Manwerthu b Arwain Tîm b Atgyweirio Cyrff Cerbydau b Rheolaeth.

Hyfforddeiaethau

Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddi i fyfyrwyr 16 i 18 oed sy'n canolbwyntio ar ddarparu: b Sgiliau cyfl ogadwyedd b Cyfl e i roi cynnig ar wahanol swyddi b Mynediad i brofi ad gwaith o ansawdd uchel.

Beth yw manteision ymgymryd â hyfforddeiaeth? b Lwfans hyfforddi wythnosol b Teithio â chymhorthdal b Meithrin profi ad hanfodol gyda chyfl ogwyr lleol a chenedlaethol b Cyfl e i wella sgiliau Saesneg a Mathemateg b Adeiladu hyder b Gwella eich rhagolygon hirdymor a'ch potensial i ennill cyfl og.

Ar ddiwedd yr hyfforddeiaeth bydd modd i chi: b Symud ymlaen i hyfforddeiaeth neu brentisiaeth lefel 1 b Camu ymlaen i gwrs academaidd b Cyfl awni gwaith gwirfoddol b Dilyn dewis gyrfa amgen.

Pam dod yn Brentis?

b Ennill cyfl og wrth ddysgu - cael eich talu b Ennill sgiliau, gwybodaeth, profi ad ac wynebu heriau newydd b Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol b Cyfl eoedd rhagorol o ran dilyniant.

Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael? b Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol: b Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2 b Prentisiaeth - Lefel 3 b Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.

Prentisiaethau

Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyfl ogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio.

Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyfl og wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am brentisiaeth.

Prentisiaethau Gradd

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Grŵp Colegau NPTC wedi cael cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen Beilot Prentisiaethau Gradd newydd ar gyfer Cymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data ar gyfer y Fframwaith Prentisiaethau Gradd Digidol newydd.

Llwyddiant Prentisiaethau Newydd

Mae’r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Hyfforddiant Pathways a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ennill prif wobr yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd.

Cafodd y dathliad blynyddol o gyfl awniad eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau ei drefnu gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Roedd Hyfforddiant Pathways ac Academi Prentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Macro Gyfl ogwr y Flwyddyn (5,000 a mwy) gan guro cystadleuaeth gref i ennill y wobr.

Ers creu’r Academi Prentisiaethau ar ddiwedd 2016, penodwyd 193 o brentisiaid i’r diwydiant, gydag ymgeiswyr llwyddiannus eraill yn aros am wiriadau cyn cyfl ogaeth.

Ar hyn o bryd, mae gan y bartneriaeth brentisiaid sy’n weinyddwyr, gweithwyr cymorth gofal iechyd ar y wardiau ac mewn theatrau, a chynorthwywyr mewn labordai ac mewn meysydd megis Dysgu a Datblygu, Swyddfeydd Archebu ar gyfer Cleifi on Allanol, Ystadau a Chyfl eusterau a’r Adran Therapïau. Mae’r rhan fwyaf yn ymgymryd â phrentisiaethau mewn busnes a gweinyddiaeth a chymorth gofal iechyd clinigol (megis patholeg) ond mae’r Academi yn gobeithio ehangu’r cymwysterau prentisiaethau er mwyn eu cynnig mewn fferylliaeth, lletygarwch a TGCh yn y dyfodol.

“Mae llwyddiant yr Academi o ganlyniad i’r bartneriaeth gyda Grwp Colegau NPTC a’u partneriaid cysylltiedig yn Academi Sgiliau Cymru.” meddai Ruth Gates, Rheolwr yr Academi Prentisiaid.

“Mae darparu prentisiaethau drwy’r Academi yn sefyllfa llawn manteision o ran recriwtio ac o ran gwella sgiliau staff. Mae hefyd yn cefnogi cymunedau sy’n rhoi mwy o hygrededd i’r bartneriaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a’r darparwr hyfforddiant.”

Mae’r Academi’n unigryw ar draws Cymru ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran darparu canolfan arloesol sy’n ymateb yn effeithiol i brinder a bylchau sgiliau a nodwyd yn y sefydliad,” meddai Nicola Thornton-Scott, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Sgiliau Grŵp Colegau NPTC

Sefydlogrwydd Gyrfa gyda Phrentisiaeth i Stevie, wrth Gyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau

Mae’r Prentis Stevie Williams wedi cyfnewid ei swydd ym maes gwasanaethau cwsmeriaid i ddilyn ei gyrfa ddelfrydol mewn addysgu peirianneg.

Sicrhaodd Stevie, 36, o Goytre, Port Talbot, swydd fel technegydd a hyfforddwr peirianneg fecanyddol yng Ngrŵp NPTC ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Cyfl awni Gweithrediadau Peirianneg mewn Peirianneg Fecanyddol a Chymhwyster Cysylltiedig Galwedigaethol Lefel 2 (VRQ) chwe mis yn gynnar.

Mae hi bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth a VRQ Lefel 3, gyda chynlluniau i symud ymlaen i Dystysgrif Ol-raddedig mewn Addysg (TAR) a Phrentisiaeth Gradd yn y dyfodol er mwyn cyfl awni ei huchelgais o ddod yn ddarlithydd peirianneg.

Cyrhaeddodd Stevie hefyd restr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Yn uchafbwynt y calendr dysgu seiliedig ar waith, mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail fi lltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Openreach, busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr brwd prentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.

Ariennir y Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Stevie yn cwblhau ei phrentisiaeth gyda’r darparwr dysgu Hyfforddiant Pathways. Mae Lee Hughes, asesydd a chynghorydd peirianneg fecanyddol, yn ei disgrifi o fel “prentis delfrydol”. Dywed fod brwdfrydedd, ymroddiad ac aeddfedrwydd Stevie yn cael effaith ar brentisiaid eraill a myfyrwyr Peirianneg Grŵp Colegau NPTC.

Dywed Lee: “Mae Stevie wedi gosod y meincnod i eraill ei dilyn ac mae ei chyd-ddysgwyr yn parchu ei rôl fel hy orddwr. Mae’n hyfryd gweld ei dilyniant a sut mae’n delio â’r holl waith.”

Dywedodd Stevie, sy’n fam i ddau o blant, ei bod hi eisiau gyrfa a fydd yn cynnal ei theulu. Yn ogystal â’r brentisiaeth, mae hi’n derbyn pob cyfl e dysgu a ddaw ar ei thraws er mwyn ehangu ei gwybodaeth.

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn peirianneg ac rwy’n mwynhau bod yn ymarferol ond rydw i wedi bod eisiau mynd i addysgu erioed, felly roedd prentisiaeth gyda Grwp Colegau NPTC yn ber aith i mi,” ychwanegodd.

“Rwyf bellach mewn swydd ddiogel mewn gyrfa gyda rhagolygon anhygoel, ac na fyddai wedi bod yn bosibl heb y brentisiaeth a chefnogaeth cydweithwyr. Rwy’n gobeithio ysbrydoli fy myfyrwyr trwy fy stori lwyddiant fy hun.”

Mae Stevie wedi arbed mwy na £2,000 y fl wyddyn i’r coleg trwy gyfl wyno sawl gwelliant yn y gweithdy ac wedi helpu gydag asesiadau ymarferol myfyrwyr yn ystod y pandemig.

This article is from: