4 minute read

Gwasanaethau Cyhoeddus

GALWEDIGAETHOL

GAETHOL GALWEDI

Mae’r Sector Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cynnwys llawer o broffesiynau sy’n amddiffyn ac yn gwasanaethu’r boblogaeth ledled y byd. O achub dringwyr fel rhan o’r tîm Achub Mynydd, cael eu defnyddio yn y fyddin fel meddyg neu fynd i safl e damwain fel parafeddyg, heddwas neu ddyn tân, mae’r gweithwyr proffesiynol hyfforddedig hyn yn barod ar gyfer gwasanaeth gweithredol mewn unrhyw argyfwng.

Mae llawer o’r darlithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod ar ddyletswydd weithredol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol, eu teithiau a’u gweithgareddau i’ch ymgysylltu a sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o’r nifer fawr o gyfl eoedd gyrfa sydd ar gael.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gall myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus fwynhau’r cyfl eusterau chwaraeon sy’n arwain y sector yn Academi Chwaraeon Llandarcy sy’n cynnwys neuadd chwaraeon ryngwladol, wal ddringo, ystafell cryfder a chyfl yru, trac dan do 60m, cyfl euster amlchwaraeon ysgubor dan do, llain 4G, ac ystafelloedd addysgu gyda’r dechnoleg ddigidol fwyaf diweddar. Gall y myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ffi trwydd ochr yn ochr â’r myfyrwyr chwaraeon a pharatoi eu hunain yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer eu dewis yrfaoedd.

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae Coleg Bannau Brycheiniog wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amgylchedd anhygoel i fyfyrwyr ymwneud ag ystod eang o weithgareddau gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr â’u cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus. Cynhelir ymweliadau addysgol a theithiau er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu’r sgiliau y mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Gellir addysgu rhai modiwlau o’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle y bo’n bosibl.

Academi Chwaraeon Llandarcy

Yn ein Hacademi Chwaraeon Llandarcy cynhelir ymweliadau a theithiau addysgol er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu’r sgiliau y mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Cyfleoedd gyrfa

b Byddin b Gwylwyr y Glannau b Gwasanaethau Brys b Gwasanaeth Tân b Llynges b Swyddog yr Heddlu b Yr Awyrlu Brenhinol.

Enillion blynyddol cyfartalog Swyddog Ambiwlans Awyr £36k Swyddog y Fyddin £20k Diffoddwr Tân £21k - £36k

Swyddog yr Heddlu £25k (Cyflog Cychwynnol) Parafeddyg £36k Triniwr Cŵn yr Heddlu £16k - £25k

Llwyddiant Myfyrwyr

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi dathlu lansiad swyddogol ei Lu Cadetiaid Cyfun newydd (CCF).

Cynhaliodd Academi Chwaraeon Llandarcy orymdaith arbennig yn cynnwys yr holl gadetiaid i nodi’r achlysur, a chroesawyd teuluoedd, aelodau o’r gymuned leol a phersonél y lluoedd arfog gan gynnwys y gwestai anrhydeddus, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg. Yna gorymdeithiodd y cadetiaid CCF, yn barod i’w harchwilio gan Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mr D. Byron Lewis a benodwyd ym mis Mai 2008 gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Cafodd yr Arglwydd Raglaw hefyd y fraint o ddyfarnu medalau i’r cadetiaid cyntaf erioed i’w dyrchafu’n Is-gorporal. Mae’r ddau gadet, Cameron Brown a Kieran Ace, sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 yn Academi Chwaraeon Llandarcy wedi mynd yr ail fi lltir o ran yr hyn a ddisgwylid ganddynt yn ystod eu hamser fel cadetiaid a dod yn fodelau rôl i’r cadetiaid eraill.

Cyrsiau

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfa Lefel Gofynion Mynediad BTEC Cyfun Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

BTEC Diploma Paratoi ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus 2 Detholiad priodol o TGAU Graddau A*-E neu gymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Blwyddyn Bannau

2 Detholiad priodol o TGAU Graddau A*-E neu gymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Blwyddyn Llandarcy

Cymwysterau Cenedlaethol BTEC mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai a CBC 3 5 TGAU pwnc benodol yn unol â gofynion a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. 2 Flynedd Bannau

Cymwysterau Cenedlaethol BTEC mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai a CBC 3 5 TGAU pwnc benodol yn unol â gofynion a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. 2 Flynedd Llandarcy

Hyd Lleoliad

Llu’r Cadetiaid Cyfun

Anogir myfyrwyr i ymuno â Llu’r Cadetiaid Cyfun (CCF) yn Academi Chwaraeon Llandarcy sy’n cynnig ystod eang o weithgareddau heriol, cyffrous, anturus ac addysgol i bobl ifanc. Y nod yw datblygu sgiliau mewn cyfrifoldeb personol, arweinyddiaeth a hunanddisgyblaeth. Mae’r CCF yn bartneriaeth addysgol rhwng y Coleg a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, a gallai CCF gynnwys adrannau’r Llynges Frenhinol, y Môr-fi lwyr Brenhinol, a’r Fyddin neu’r Awyrlu Brenhinol.

This article is from: