
4 minute read
Atgyweirio Cerbydau a Chyrff Cerbydau Therapïau Cymhwysol gan gynnwys
GALWEDIGAETHOL
GAETHOL GALWEDI


Atgyweirio Cerbydau a Chyrff Cerbydau
Mae dechrau gyrfa mewn atgyweirio mecanyddol neu gerbydau yn golygu gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirywiad yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gerbydau bob amser. Os ydych yn mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, gwneud gwaith ymarferol, gweithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, neu fod gennych lygad creadigol neu gariad at waith adfer – yna mae gyrfa yn gweithio gydag unrhyw gerbyd yn aros amdanoch chi.
Mae’r adran Academi Fodurol yng Ngholeg Pontardawe’n gartref i Academi Cerbydau Modur o’r radd fl aenaf, a noddir a hyrwyddir gan Snap-On Tools, sef Rolls Royce offer.
Mae'r gweithdy hwn o'r radd fl aenaf yn cynnwys deg ramp ceir, ramp alinio pob olwyn, bae profi ATL ar ffurf MOT a bae glanhau, ac amrywiaeth o offer diagnosteg SNAP-on a Pico.
Mae ein cyfl euster newydd sbon yng Ngholeg Pontardawe wedi’i adeiladu at y diben i fanyleb y diwydiant, ac rydym yn ddiweddar wedi lansio gweithdy atgyweirio cyrff cerbydau modur newydd yno, gyda bythau chwistrellu modern, ystafell cymysgu paent, bwth adnewyddu olwynion a bae gwresogi dwysedd uchel o’r radd fl aenaf a noddir a hyrwyddir gan gwmnïau megis offer DeVilbiss.
Mae gan yr adrannau cerbydau modur yng Ngholeg Bannau Brycheiniog hefyd weithdai â’r holl gyfarpar angenrheidiol gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a ffurf siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel a chyfl eusterau glanhau chwistrellwyr uwchsain ASNU.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd ac atgyweirio difrod i’r cerbyd ei hun a’i gorff yn gywir yn barod i’w orffennu. Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyfl awnir yn ein cyfl eusterau rhagorol.
Rhagolygon Gyrfa
Fel arfer ceir cyfl ogaeth i beirianwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ffyrdd neu sefydliadau mawr gyda ffl yd o gerbydau. Ar lefel technegydd byddwch yn cyfl awni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifi adur. Mae’r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, ac yn cynnwys llawer o waith datrys problemau. Mewn cwmnïau mwy o faint, mae fel arfer yn bosibl ennill dyrchafi ad i swyddi goruchwylio a rheoli.
Mae gyrfaoedd ar yr ochr Atgyweirio Cyrff ac Ailorffennu Cerbydau Modur fel arfer mewn garejys, busnesau cyrff cerbydau modur a’r diwydiant chwaraeon modur sy’n arbenigo mewn atgyweirio cerbydau ar ôl difrod mewn damweiniau. Mae’r sgiliau dan sylw o ran atgyweirio ac ailorffennu cerbydau modur yn amrywio o waith ar baneli i lanhau, weldio MIG ac unioni diffygion paent.



Llwyddiant Myfyrwyr
Mae Josh Jones, sy’n Brentis Ailorffennu Cerbydau Modur, wedi ennill lle ar Raglen Ddoniau WorldSkills UK cyn Rownd Derfynol WorldSkills 2021 yn Shanghai.
Ar hyn o bryd mae Josh yn ymgymryd â phrentisiaeth gyda Pathways Training (darparwr dysgu seiliedig ar waith y Coleg) ac yn treulio pedwar diwrnod yr wythnos ar leoliad gwaith yng ngweithdy cyrff ceir ‘Scuffed Up’ yn Abertawe.
Mae taith Josh ar y Rhaglen Ddoniau WorldSkills UK wedi ei weld yn cystadlu ledled Cymru a’r DU. Cymerodd arian yn rownd derfynol cystadleuaeth World Skills Cymru ym mis Ionawr 2019 ac yna aeth ymlaen i gystadlu yn rowndiau cymhwyso World Skills UK (un o ddim ond deunaw o’r prentisiaid gorau yn y DU). O ganlyniad i’w berfformiad yma, fe enillodd le yn Rownd Derfynol Fyw WorldSkills UK ym mis Tachwedd 2019 a arweiniodd yn y pen draw at gael ei ddewis ar gyfer Rhaglen Ddoniau WorldSkills UK.
Rhyw ddydd mae Josh yn gobeithio rhedeg ei weithdy cyrff ceir ei hun, ond tan hynny mae e’n mwynhau ennill arian wrth weithio ar ddysgu. Dywedodd: “Dwi wedi gweithio’n galed i gyrraedd lle ydw i nawr, gan wella fy nhechnegau yn gyson a hogi fy nghrefft, yn fy ngweithle ac yn ystod fy nyddiau astudio yn y Coleg. Bu’r gallu i weithio ar yr un pryd ag astudio yn amhrisiadwy, gan fy mod yn dysgu pethau newydd bob dydd yn Scuffed Up; mae gwahanol fathau o waith yn dod i mewn bob dydd ar bob math o geir, felly mae’n rhaid i chi allu addasu. Mae’r ymdeimlad o foddhad pan fydd cwsmer yn ein gadael ni’n hapus heb ei ail, rwy’n mwynhau hynny’n fawr.”
Cyrsiau
Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
Peirianneg Cerbydau Modur 1 Mae TGAU gradd D/E neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profi ad ymarferol hefyd. Blwyddyn
Bannau/ Pontardawe
Peirianneg Cerbydau Modur 2 Mae 4 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profi ad ymarferol hefyd. Blwyddyn
Bannau/ Pontardawe
Peirianneg Cerbydau Modur 3 Mae 5 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profi ad ymarferol hefyd.
Cerbydau Modur (Atgyweirio Cyrff) Atgyweirio ac Ailorffennu Cyrff Cerbydau (Paent) 1 Mae TGAU gradd D/E neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profi ad ymarferol hefyd. Blwyddyn Pontardawe
2 Mae 4 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profi ad ymarferol hefyd. Blwyddyn Pontardawe
Blwyddyn Bannau
Enillion blynyddol cyfartalog - Emsi: www.economicmodeling.com
Mecanydd £13k - £30k
Peiriannydd Cerbydau Modur £60k+ mewn uwch swyddi (Prospects.ac.uk) Technegwyr Paent Cerbydau £18k - £40k