
2 minute read
Cyfl eusterau Arobryn
Y CWTCH

Y CWTCH - Hyb y Coleg o Fewn y Gymuned
Mae ychwanegiad diweddaraf Coleg Bannau Brycheiniog, Hyb Y Coleg o fewn y Gymuned – ‘Y CWTCH’ – wedi agor ei ddrysau yn swyddogol.
Bydd y ganolfan groeso gynt yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o’r gymuned gyda mynediad agored i bawb.
Dadorchuddiwyd plac gan yr cyn aelod o’r Senedd dros Frycheiniog a Maesyfed, Kirsty Williams i nodi’r achlysur.
Dywedodd Ms Williams: “Mae’r adeilad hwn wedi cael diben newydd a bydd yn ehangu gweithgarwch y coleg drwy fod mor hygyrch a chanolog. Bydd yn ganolbwynt ac yn dod â phobl ynghyd. Rwy’n gweld yr adeilad hwn a’r hyn sy’n digwydd yn ysbrydoledig.” Mae’r CWTCH wedi cael ei adnewyddu ac mae’n cynnwys ardaloedd gweithio hyblyg, cyfl eusterau cynadledda fi deo, sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol a mynediad i ryngrwyd hynod gyfl ym 1GB, ynghyd â chyfl eusterau cyfrifi adura o’r radd fl aenaf at ddefnydd myfyrwyr a’r cyhoedd.
Yn ogystal â darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr y Coleg, bydd croeso i’r gymuned ddefnyddio’r cyfl eusterau TG yn ogystal ag ymuno â rhai o’r cyrsiau rhan-amser newydd a fydd yn cael eu cynnig o’r adeilad y mae’n ei lesio gan yr awdurdod lleol. Hefyd ar gael fydd cyngor ar chwilio am swyddi, sefydlu eich busnes eich hun, technegau cyfweld ac ysgrifennu CV.

Mae cynlluniau ychwanegol i ail-leoli Coleg Bannau Brycheiniog i dref Aberhonddu. Cynhelir trafodaethau ar hyn o bryd ynghylch prynu dau adeilad yn y dref. Bydd y dref a’r cyfl eusterau a ddarparir gan fusnesau lleol wrth wedyn law i’w myfyrwyr eu defnyddio bob dydd.
Buddsoddiad i wella profiad myfyrwyr yn dod i'r brig i Goleg Castell-nedd
Mae Canolfan Academi'r Chweched Dosbarth yng Ngholeg Castell-nedd wedi ennill prif wobr am wella profi ad myfyrwyr yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2019.
Mae'r wobr yn cydnabod sefydliad dysgu sydd wedi buddsoddi mewn gwella adeiladau sy'n gwella profi ad myfyrwyr yn sylweddol. Bellach mae man cyfarfod ac astudio newydd ar gyfer myfyrwyr, ardal Goffi Starbucks, pencadlys gwasanaethau myfyrwyr, ac amgylchedd gwaith cynllun agored. Defnyddir y gofod hefyd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.
Roedd y gwaith yn cynnwys gosod estyniad gwydr cyfoes newydd a drawsnewidiodd yr adeilad, gan gynyddu golau dydd a chreu lle. Roedd y dyluniad hefyd yn cynnwys cladin allanol newydd a phod mynediad lliw bywiog sy'n dynodi prif fynedfa'r coleg ac yn cysylltu'r hen a'r newydd yn ddidor.
Dywedodd Pennaeth Grŵp Colegau NPTC, Mark Dacey: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r wobr a’r cy euster newydd sy’n arddangos ein hymrwymiad i fuddsoddi yng nghy eusterau’r coleg a darparu’r pro ad gorau posib i’n myfyrwyr.”
Port Talbot
Rhoddwyd cymeradwyaeth dros dro i Grŵp Colegau NPTC gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Campws y Coleg gwerth miliynau, a fydd yn dod â’r sefydliad addysgol cyntaf i Harbourside ym Mhort Talbot. Gyda chost amcangyfrifedig o £28m, bydd y Campws yn cynnig yr holl gyfl eusterau technolegol a Chanolfan Chweched Dosbarth arbenigol; bydd y safl e newydd yn rhoi hwb a groesawir yn gynnes gan y ganolfan siopa yn y rhanbarth wrth ddenu mwy na 1,000 o fyfyrwyr bob dydd. Cynlluniwyd y datblygiad hwn i gyd-fynd â Strategaeth Datblygiad Glannau’r Harbwr yr awdurdod lleol.