3 minute read

Lletygarwch, Bwyty a Becws

GALWEDIGAETHOL

GAETHOL GALWEDI

Coginio Proffesiynol, Celfyddydau Coginio, Lletygarwch, Bwyty a Becws

A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar longau mordeithio, cychod hwylio moethus, gwestai rhyngwladol neu mewn bwytai seren Michelin? Neu efallai y byddwch am sefydlu eich busnes lletygarwch eich hun. Dim ond rhai o’r cyfl eoedd a gynigir i chi yn y diwydiant lletygarwch yw’r rhain.

Y diwydiant lletygarwch a’r celfyddydau coginio yw un o’r diwydiannau mwyaf yn y DU, gyda chyfoeth o gyfl eoedd swyddi ar gael gartref a thramor. Mae llwybrau gyrfaol yn cynnwys cogyddion, gweini bwyd a diod, rheoli gwestai, rheoli digwyddiadau, rheoli bwytai, pobyddion a chogyddion patisserie, arlwyo contract, datblygu cynnyrch a gweithgynhyrchu bwyd.

Mae’r Coleg yn cynnal dau fwyty hyfforddi prysur sy’n cynnig y lefel uchaf o wasanaeth i’r cyhoedd: Themâu yng Ngholeg y Drenewydd a Blasus yng Ngholeg Castell-nedd. Rhyngddynt, mae’r bwytai’n darparu theatr fwrdd, gwasanaeth arian a rhost y dydd, wedi’i gerfi o wrth y bwrdd ar ein troli arian. Rydym hefyd yn gweithredu lolfa goffi a siop fecws brysur. Mae pob un o’n safl eoedd yn darparu amrywiaeth o gynnyrch lleol gan gynnwys cig eidion ac oen a fagwyd ar fferm y Coleg a llysiau a pherlysiau a dyfi r gan yr adran garddwriaeth.

Mae Academi Pobi Blasus wedi bod yn darparu hyfforddiant pobi ers dros 50 o fl ynyddoedd. Gydag un o’r darpariaethau mwyaf sylweddol o’i fath a’r unig Academi Pobi yng Nghymru, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau sy’n eu galluogi i weithio yn y sector gweithgynhyrchu a phobi.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol a enillwyd o weithio yn y ceginau proffesiynol yn ein dau fwyty hyfforddi sy’n agored i’r cyhoedd, yn ogystal â chyfl eoedd ar gyfer profi ad gwaith bywyd go iawn mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Byddwch yn dysgu oddi wrth staff sefydledig a phrofi adol sy’n gymwysedig ym mhob agwedd ar y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.

Rhagolygon gyrfa

Os ydych yn chwilio am yrfa ‘ymarferol’ gyda chyfl eoedd cyfl ogaeth rhagorol, yna mae lletygarwch yn sicr yn yrfa i chi.

Mae gennym gysylltiadau cryf â chyfl ogwyr lleol a rhyngwladol, ac mae llawer o gyfl eoedd i fyfyrwyr ymgymryd â chyfl ogaeth ran-amser ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

Mae gan y Coleg enw da am gynhyrchu myfyrwyr hynod brofi adol a chymwysedig sy’n cael cydnabyddiaeth dro ar ôl tro mewn cystadlaethau coginio ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd i swyddi ledled y byd yn ogystal â rhai yn cael uwch swyddi mewn sefydliadau lleol.

Cyrsiau

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfa Lefel Gofynion Mynediad Cyflwyniad i Letygarwch Agored 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfi ol

Hyd Lleoliad Blwyddyn Castellnedd

C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd FDQ Diploma mewn Sgiliau Pobi y Diwydiant Bwyd C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd C&G VRQ Diploma mewn Pobi Proffesiynol (Patisserie a Melysion) C&G VRQ Coginio Proffesiynol Uwch 1 Yn amodol ar gyfweliad Blwyddyn

1 Yn amodol ar gyfweliad

2

2 Cymhwyster arlwyo Lefel 1 neu TGAU priodol Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofi ad perthnasol Blwyddyn

Blwyddyn

Blwyddyn

3 Cymhwyster Lefel 2 neu brofi ad perthnasol Blwyddyn Castellnedd Castellnedd Castellnedd Castellnedd Castellnedd

C&G VRQ Diploma mewn Sgiliau Pobi, Patisserie a Melysion Uwch C&G Diploma mewn Goruchwylio Lletygarwch (Blaen Tŷ) 3 Cymhwyster lefel 2 neu brofi ad perthnasol Blwyddyn

3 Cymhwyster lefel 2 neu brofi ad perthnasol Blwyddyn Castellnedd Castellnedd

Enillion blynyddol cyfartalog (Prospects.ac.uk) Cogydd Commis £12k - £16k Cogydd Sous hyd at£30k Prif Gogydd £25k - £55k Pobydd £14k - £23k (£37k yn Llundain)

This article is from: