5 minute read

Eich Cais

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

Eich Taith

Eich Coleg Gwneud Cais am Safon U

Croeso i'r system ymgeisio ar-lein yma yng Ngrŵp Colegau NPTC. O drefnu dyddiadau ar gyfer cyfweliadau i ymchwilio i'r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi a chwblhau'r ffurflen gais mae gennych y gallu i reoli pob cam o'ch taith. Gallwch hefyd fewngofnodi i'ch cyfrif unrhyw bryd i weld lle'r ydych yn y broses. Cwrs iawn, dewis iawn! Gyda chynifer o ddewisiadau ar gael, deallwn y gall ddod at benderfyniad fod yn anodd. Rydym yma i'ch cefnogi drwy'r broses p'un a yw'n gymwysterau Safon U, cyrsiau galwedigaethol, dysgu rhan-amser neu brentisiaeth!

Felly sut ydych yn dewis? Gallwch ddarllen ein prosbectws cyrsiau amser llawn i ymchwilio i’ch opsiynau, pori ein gwefan ar gyfer syniadau, dod i ddiwrnod agored, neu fanteisio ar ein ap gyrfa anhygoel o'r enw 'Career Coach'.

CADW MEWN CYSYLLTIAD Peidiwch ag anghofi o bod modd i chi newid eich dewis gwrs ar unrhyw gam yn y broses, hyd at ymrestru!

Pob lwc yn eich arholiadau TGAU, welwn ni chi ym mis Medi! 1

Gwneud cais ar-lein yn: nptcgroup.ac.uk

Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau Safon Uwch yr ydych am wneud cais amdano e.e. Ffrangeg. Cliciwch ar y botwm 'Dod o hyd i gwrs a gwneud cais' gwyn ar yr ochr dde i ddechrau'ch cais.

Byddwch yn astudio tair neu bedair Safon Uwch, ond dim ond am un y mae angen i chi wneud cais. Gallwch naill ai glicio ‘Gwneud Cais Nawr’ o dudalen pwnc benodol neu gallwch wneud cais o’r dudalen Safon Uwch / Safon UG - Pob Cwrs. Bydd opsiwn i ychwanegu eich pynciau ychwanegol ar y ffurfl en gais.

Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r coleg, bydd angen i chi greu cyfrif ‘Prospect’ felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod.

Defnyddir eich enw defnyddiwr i ffurfi o rhan gyntaf eich cyfeiriad bost (cyn y @).

Rhaid i’r Cyfrinair gynnwys o leiaf naw nod a chynnwys o leiaf un brifl ythyren, un llythyren fechan ac un rhif. Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurfl en ac wedi clicio ‘cofrestru’, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arni - ond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais. Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol! E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen.

2

Trefnu eich cyfweliad

Rydym wrthi’n cynllunio ein cyfweliadau ar gyfer y fl wyddyn academaidd nesaf ar hyn o bryd, gweler y wefan os gwelwch yn dda. Mae cyfweliad yn gyfl e i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio.

3

Cynnig Amodol

Wedi i chi drafod ein gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn rhoi eich cynnig amodol ar Prospect, y gallwch ei dderbyn ar unwaith.

4

Dod o hyd i’ch cais

Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen hafan. Bydd modd i chi weld pa gam yn y broses ymgeisio yr ydych wedi ei gyrraedd wrth edrych ar eich hafan!

Gwneud Cais am bob cwrs arall

1

Gwneud cais ar-lein yn: www. nptcgroup.ac.uk

Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau yr ydych am wneud cais amdano e.e. Gwaith brics, Dawns, Chwaraeon neu Trin Gwallt. Cliciwch ar y botwm 'Dod o hyd i gwrs a gwneud cais' gwyn ar yr ochr dde i ddechrau eich cais. Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r coleg, bydd angen i chi greu cyfrif ‘Prospect’ felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod.

Defnyddir eich enw defnyddiwr i ffurfi o rhan gyntaf eich cyfeiriad bost (cyn y @).

Rhaid i’r Cyfrinair gynnwys o leiaf 9 nod a chynnwys o leiaf un brifl ythyren, un llythyren fechan ac un rhif.

Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurfl en ac wedi clicio ‘cofrestru’, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arni - ond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais. Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol! E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen.

2

Trefnu eich cyfweliad

Rydym wrthi’n cynllunio ein cyfweliadau ar gyfer y fl wyddyn academaidd nesaf ar hyn o bryd, gweler y wefan os gwelwch yn dda. Mae cyfweliad yn gyfl e i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio.

3

Cynnig Amodol

Wedi i chi drafod ein gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn rhoi eich cynnig amodol ar Prospect, y gallwch ei dderbyn ar unwaith.

4

Dod o hyd i’ch cais

Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen hafan. Bydd modd i chi weld pa gam yn y broses ymgeisio yr ydych wedi ei gyrraedd wrth edrych ar eich hafan!

Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru

Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar lefel Uwch yn galluogi myfyrwyr Lefel 3 i gadarnhau a gwella’u sgiliau hanfodol a’u sgiliau cyfl ogadwyedd hanfodol ar yr un pryd â hyrwyddo a datblygu sgiliau ymchwil o safon uchel.

Drwy adeiladu ar y cyfl awniadau ar Lefel 2, bydd y cymhwyster yn helpu i ddatblygu sgiliau, agweddau ac ymddygiadau mwy cymhleth. Bydd yn darparu profi adau a fydd yn eich ymbaratoi ar gyfer prifysgol, hyfforddiant pellach neu gyfl ogaeth.

“Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) yn anarferol fel cymhwyster y mae ei gynnwys yn cael ei arwain i raddau helaeth gan y myfyrwyr eu hunain. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr hunangymhelliant, chwilfrydedd a’r meddwl annibynnol y mae’r dull hwn o ddysgu yn datblygu. Y nodweddion hyn, ynghyd â thair Safon Uwch ardderchog, yw’r hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn prifysgolion cystadleuol fel Rhydychen.” Dr Matthew Williams, Cymrawd Mynediad a Datblygu Gyrfa yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

This article is from: