4 minute read

Astudiaethau Sylfaen

GALWEDIGAETHOL

GAETHOL GALWEDI

Mae ein rhaglenni sylfaen yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau allweddol o ran byw’n annibynnol, iechyd a llesiant, y gymuned a chyfl ogadwyedd drwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae’r cyrsiau a gynigir yn amser llawn neu’n rhan-amser ac mae gan y staff sy’n eu darparu ystod eang o arbenigedd galwedigaethol yn ogystal â phrofi ad helaeth o weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pob cwrs yn cynnwys amserlen strwythuredig, cymorth astudio, ystafelloedd ymlacio/tawel, gweithgareddau cyfoethogi a chyfl wyniad i fywyd yn y Coleg ac Addysg Bellach. Mae’r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, ac o’r safbwynt hwn daw mwy o hyder a sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen ar gyfer dysgu a bywyd.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfi ol arnoch; dim ond awydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu a gynigiwn. Mae’n bosibl rhoi cynnig ar lawer o wahanol bynciau yn dibynnu ar eich diddordebau unigol. Mae hyn yn eich helpu i ddarganfod beth rydych chi’n ei fwynhau, beth ydych chi’n dda yn ei wneud a’ch helpu gyda’ch dewisiadau yn y dyfodol. Gallwch weithio ar eich lefel a’ch cyfl ymder eich hun, ond mae cymorth ychwanegol ar gael fel rhan o’r cwrs a, thrwy gymorth dysgu a thiwtorialau, rydym yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o anghenion. Mae’r staff yn athrawon cymwysedig, profi adol sydd â sgiliau arbenigol i gyfl wyno’r cyrsiau a gynigir mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar. Rydym yn cynnal digwyddiadau cyfl ogadwyedd a dilyniant gyda chyfl ogwyr ac asiantaethau cymorth. Mae’r ysgol yn cynnal nifer o weithgareddau menter a gwirfoddoli ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys cystadleuaeth sgiliau Cymru, twrnameintiau chwaraeon ILS ac, yn ddiweddar, Shed of the Year, Channel 4.

Mae ein myfyrwyr yn creu siopau sydyn a mentrau symudol ac rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin cysylltiadau â sefydliadau cyfl ogaeth â chymorth fel Bspoked Enterprises , Shine Cymru a Polestone Support Ltd. Mae profi ad gwaith hefyd wedi’i sefydlu drwy adran dysgu seiliedig ar waith y Coleg.

Mae myfyrwyr yn cynnal asesiad cychwynnol o anghenion addysgol a sgiliau bywyd yn ystod y broses bontio a sefydlu. Mae tiwtoriaid wedyn yn gweithio gyda myfyrwyr i nodi eu nodau tymor hir a thymor byr - ac wedyn cytunir ar dargedau a llwybrau addas ar gyfer dilyniant a fydd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

Mae ein cyrsiau’n cynnig cyfl wyniad i’r Coleg i ddysgwyr a chyfl eoedd i fl asu gwahanol feysydd galwedigaethol megis adeiladwaith, garddwriaeth ac arlwyo a bydd dysgwyr wedyn yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am lwybrau dilyniant yn y dyfodol.

Aeth dros 95% o fyfyrwyr ymlaen i gyrsiau astudiaethau sylfaen ar lefelau uwch, cyrsiau prif ffrwd yn y Coleg, cyfl ogaeth â chymorth neu wasanaethau gwirfoddol.

Byddwch yn ysbrydoledig gyda gyrfa mewn astudiae au sylfaen

Student Success

Cori Collins

Myfyriwr y fl wyddyn - Myfyriwr Arlwyo y Flwyddyn Porth 2020 yn ein sesiwn wobrwyo fl ynyddol yn yr Ysgol Astudiaethau Sylfaen.

Mae Cori yn fyfyriwr cydwybodol sydd bob amser wedi dangos agwedd gadarnhaol a rhoi’r ymdrech fwyaf posibl yn yr hyn mae’n ei wneud. Mae’n gwrtais, aeddfed, cyfrifol a dibynadwy. Mae’n fodel rôl rhagorol y mae ei gyfoedion yn ei hoffi a’i werthfawrogi - pleidleisiwyd drosto yn gynrychiolydd myfyrwyr ei grŵp. Mae Cori wedi ysgwyddo cyfrifoldebau a rolau ychwanegol yn ogystal â sefydlu grwpiau traws-golegol - bu’n Swyddog Undeb y Myfyrwyr, cymerodd ran yng Nghyfarfodydd y Senedd, bu’n cwrdd ag Estyn pan wnaethant arolygu’r coleg yn 2020 a dangosodd fenter wrth drefnu Grŵp LHDTQ NPTC.

Mae’n amyneddgar ac yn gyfeillgar - mae bob amser yn gwirfoddoli i gefnogi myfyrwyr sy’n newydd i’r Coleg yn ogystal â chynorthwyo cyd-fyfyrwyr pan fyddant yn cael anawsterau. Mae hefyd yn gweithio’n dda mewn tîm.

Cyrsiau

Cyrsiau Amser Llawn Gofynion Mynediad Sgiliau Bywyd Dim cymhwyster ffurfi ol

Hyd Lleoliad Blwyddyn Afan/Bannau

Addysg Gymdeithasol Dim cymhwyster ffurfi ol Blwyddyn Afan

Sgiliau Gwaith

Samplu Galwedigaethol a Pharatoi Galwedigaethol Paratoi Galwedigaethol a Phorth i Addysg Bellach

Porth Lefel 1 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Porth Lefel 1 Celfyddydau Creadigol Dim cymhwyster ffurfi ol Blwyddyn

Afan/Castellnedd/Bannau

Dim cymhwyster ffurfi ol ond rhaid dangos awydd i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd dysgu yn y cyfweliad Blwyddyn Afan/ Castell-nedd/ Bannau

Nid oes angen gwybodaeth fl aenorol ar gyfer y cyrsiau hyn. Bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn drwy gyfrwng proses ymgeisio a chyfweld y Coleg. Mae angen i ddysgwyr allu dangos eu bod yn gallu gweithio ar lefel Mynediad 3 o leiaf cyn y cwrs hwn. Rhaid bod gan ddysgwyr etheg gwaith cadarnhaol a diddordeb mewn datblygu sgiliau. Mae’r cyrsiau’n cynnwys crefftau ymarferol, celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, arlwyo, TG ac iechyd a gofal cymdeithasol. Blwyddyn Afan/Bannau/ Castell-nedd

Graddau TGAU E/F neu gwblhau cymwysterau Mynediad 3 yn llwyddiannus. Blwyddyn Castell-nedd

TGAU gradd E/F neu gwblhau cymhwyster Mynediad 3 yn llwyddiannus Blwyddyn Castell-nedd

This article is from: