3 minute read

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Plymio, Astudiaethau Trydanol ac Ynni

GALWEDIGAETHOL

GAETHOL GALWEDI

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profi ad o’r diwydiant sy’n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â’r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn. Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr ym maes gofal iechyd. Gellir cyfl ogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu gallant ddod yn warchodwyr plant. Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo. Mae Pennaeth yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn cadeirio Rhwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol Colegau Cymru ac yn eistedd ar weithgorau yn yr ardal leol mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol a sefydliadau cysylltiedig. O fewn y cyrsiau ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd unedau dwyieithog ar gael i fyfyrwyr.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr iechyd a gofal plant, ac yn y Coleg byddwn yn datblygu eich sgiliau drwy leoliadau seiliedig ar waith cysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyfl ogadwyedd. Byddwch yn cael eich annog i gwblhau cwrs iaith Gymraeg a gwella eich sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian.

Rhagolygon gyrfa

Gall ein cyrsiau arwain at yrfa fel athro, cynorthwyydd addysgu, ymarferydd gofal plant, therapydd iaith a lleferydd, nyrs, parafeddyg, a gwaith cymdeithasol. Mae llawer yn camu ymlaen i’r nifer fawr o raglenni gradd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn y Coleg cyn dechrau gweithio.

Byddwch yn fei ringar gyda gyrfa ym maes gofal, iechyd a erapi

Enillion blynyddol cyfartalog Nyrsio Plant, Oedolion, Iechyd Meddwl £30k + Gwaith Cymdeithasol £23k-£47k Therapydd Iaith a Lleferydd £24k-£49k Therapi Galwedigaethol £21k-£41k

Llwyddiant Myfyrwyr

Mae’r Myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ffi on Jones wedi ennill y Categori Galwedigaethol yng Ngwobrau Addysg Prydain (BEA) clodfawr.

Hi oedd y fyfyrwraig gyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill yn y gwobrau.

Mae’r BEA yn nodi ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn system addysg Prydain. Wrth wneud hynny, mae’r gwobrau hyn yn cydnabod mai ymdrech a phenderfyniad personol sy’n arwain at lwyddiant. Enillodd Ffi on y wobr o ganlyniad i’w chanlyniadau academaidd gwych a’i llwyddiant allgyrsiol. Cyfunodd astudio gyda dwy swydd ran-amser yn ogystal â bod yn Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia, codi arian i’r Gymdeithas Alzheimer, a bod yn Arweinydd Cadetiaid yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys. Yn ystod ei hamser fel cadet yng Nghanolfan Sant Ioan, Y Drenewydd, mae hi wedi ymgymryd â lleoliadau gwaith yng Nghartref Nyrsio Bethshan ac Ysbyty’r Drenewydd. Yn ogystal â hyn, mae hi rywsut wedi dod o hyd i’r amser i gwblhau gwobrau efydd ac arian Dug Caeredin ac ennill Rhagoriaeth Serennog Driphlyg gyda phresenoldeb o 100% yn ei BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cyrsiau

Safon U

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel Gofynion Mynediad 3 6 TGAU gradd C neu uwch.

Hyd Lleoliad 2 Flynedd Castellnedd

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfa Lefel Gofynion Mynediad Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a chyd-destunau

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a chyd-destunau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Egwyddorion a Chyd-destun 2 2 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg/Mathemateg a Gwyddoniaeth Blwyddyn

Afan/ Bannau

3 5 TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg Iaith neu Wyddoniaeth. 2 Flynedd Afan/ Bannau/ Castell-nedd

2 2 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Egwyddorion a Chyd-destun

Mynediad i AU - Gofal Iechyd 3

3 5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr 19 oed ac hŷn sy’n gobeithio dychwelyd i addysg. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfweliad llwyddiannus.

Hyd Lleoliad

Blwyddyn Afan

2 Flynedd Afan/ Bannau/ Castell-nedd

Blwyddyn Afan

This article is from: