3 minute read

Therapïau Tylino Chwaraeon

GAETHOL GALWEDI

Therapïau Chwaraeon

Mae therapyddion chwaraeon yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i drin anafi adau chwaraeon, rhoi cyngor ar atal anafi adau a chefnogi adsefydlu, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau corfforol a therapïau. O ddydd i ddydd fel therapydd tylino chwaraeon, gallwch fod yn gweithio gydag ystod o wahanol gleientiaid. Yn dibynnu ar a ydych yn gyfl ogedig neu’n llawrydd, gallech fod yn gweithio gyda chwaraewyr campau proffesiynol neu bobl sy’n mynd i’r gampfa bob dydd.

Gallech fod yn trin anafi adau, a allai fod yn hirsefydlog, yn adnabod ardaloedd problemus yn gynnar neu’n helpu i atal anafi adau cyn iddynt ddigwydd.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Nod ein cyrsiau yw rhoi cyfl e i fyfyrwyr ddysgu amrywiaeth o sgiliau ymarferol sydd eu hangen ym maes rheoli ac atal anafi adau chwaraeon. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys tylino chwaraeon, strapio a thapio, profi ffi trwydd ac adfer anafi adau chwaraeon cyffredin. Mae’r wybodaeth sylfaenol yn cynnwys anatomeg a ffi sioleg, gweithio mewn amgylchedd chwaraeon a dyletswyddau cymorth cyntaf ar y cae chwarae.

Rhagolygon gyrfa

Mae therapi chwaraeon a thylino chwaraeon wedi mynd yn sgiliau y mae galw mawr amdanynt o fewn y diwydiant ffi trwydd. Gall therapyddion tylino chwaraeon helpu unrhyw un - o athletwyr i ddefnyddwyr achlysurol y gampfa a bydd angen iddynt atal anafi adau llawn cymaint â’u trin.

Cyrsiau

Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad

VTCT Diploma mewn Therapi Chwaraeon - Atal a Rheoli Anafiadau Chwaraeon mewn Hamdden Egnïol 3 16-18 oed: o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch (neu gyfwerth). Myfyrwyr aeddfed: cyfweliad cyn ymrestru. Blwyddyn Afan

Byddwch yn iachaol gyda gyrfa mewn chwaraeon, erapi a ffitrwydd

Llwyddiant Myfyrwyr

Gwnaeth myfyriwr gyda Grŵp Colegau NPTC, Aiden Daniel o Flaendulais, y penderfyniad dewr i ymuno â’r frwydr yn erbyn COVID-19 trwy ddod yn Weithiwr Cefnogi Gofal Iechyd (GCGI) gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) ac yntau’n 16 oed.

Mae gan y Myfyriwr Tylino Chwaraeon Lefel 3 sydd wedi’i leoli yng Ngholeg Afan freuddwydion o fod yn ffi siotherapydd neu therapydd chwaraeon, ond cyn cychwyn ar gam nesaf ei hyfforddiant ar gyfer y Lefel 4 mewn Therapi Chwaraeon, dewisodd roi’r gorau i’w wyliau haf a rhoi o’i amser i ofalu am bobl eraill.

Mae gweithwyr cefnogi gofal iechyd yn rhan hanfodol o dîm gofal iechyd neu gymdeithasol, sy’n darparu gofal trugarog o safon uchel i unigolion. Maen nhw’n cyfl awni dyletswyddau clinigol rheolaidd a ddiffi nnir yn fanwl a hanfodion gofal megis gwirio tymheredd, cymoni gwelyau, cefnogi cleifi on, newid cleifi on a gofalu amdanynt. Pan ofynnwyd iddo pam y dewisodd ymgeisio am y rôl, esboniodd Aiden: “Penderfynais ymgeisio am y rôl GCGI gan i mi fwynhau’n fawr y lleoliad gwaith a gyfl awnais mewn ysbyty trwy Gynllun Cadetiaid Nyrsio RCN y Fyddin. ‘Dw i wedi bod â’r awydd i weithio fel ffi sotherapydd erioed, wedi i mi gael llawdriniaeth fawr yn naw mlwydd oed pan dreuliais chwe wythnos yn yr ysbyty, ac edmygu’r holl staff yno a fu’n gofalu amdana i. ‘Dw i bob amser wedi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl ym mha ffordd bynnag y gallaf.’’ Ychwanegodd fod ei amser yn y Coleg, lle mae’n llysgennad myfyrwyr ac yn gynrychiolydd myfyrwyr, hefyd wedi ei siapio fel unigolyn erbyn hyn:

“Ers dechrau yn y Coleg ‘dw i wedi ennill cymaint o hyder, gwybodaeth a phrofi ad. ‘Dw i wedi gwneud cynifer o ffrindiau ac ni allaf gredu pa mor lwcus yr wyf i astudio rhywbeth yr wyf yn angerddol drosto.’’

Enillion blynyddol cyfartalog

This article is from: