
7 minute read
Celfyddydau Perfformio
GALWEDIGAETHOL
GAETHOL GALWEDI


Dawns, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio
Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu’r Cyfryngau a’r Celfyddydau Perfformio wedi’u lleoli yng Ngholegau Castell-nedd ac Afan.
Addysgir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar fl aen y gad o fewn cyfl eusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Canolfan y Celfyddydau Nidum.
Byddwn yn rhoi’r cyfl e i chi ymestyn eich dysgu a’ch sgiliau yn ein hacademi cerddoriaeth a chwmnïau theatr a dawns. Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a’r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicach oll, maent yn gyfl ogadwy iawn – rydym yn anelu at eich helpu i fod yn barod am yrfa!
Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni allgyrsiol helaeth gan gynnwys côr y Coleg, Bank Funk, a Chwmni Dawns LIFT a Gwobr Dug Caredin a llawer mwy.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae ein cyrsiau yn darparu cyfl eoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn cerddoriaeth, cyfansoddi, dawns, drama, canu a theatr gerddorol. Byddwch yn cael y cyfl e i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Chanolfan y Celfyddydau Nidum sydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol.
Rhagolygon gyrfa
b Actor b Gweinyddwr y celfyddydau b Coreograffydd b Dawnsiwr b Therapydd cerddoriaeth neu ddrama b Perfformiwr theatr gerddorol b Cerddor b Hyfforddwr Pilates/Ioga b Sgriptiwr b Athro b Cyfarwyddwr theatr
Enillion blynyddol cyfartalog Coreograffydd £50k+ Sgriptiwr £30k+ Cerddor £35k+ Dawnsiwr £37k+ Athro £50k+ Cyfarwyddwr Theatr £60k+



Cyrsiau
Safon U Dawns Drama Cerddoriaeth Lefel Gofynion Mynediad 3 6 TGAU A*-C
3 6 TGAU A*-C
3 6 TGAU A*-C. Dylech fod yn berfformiwr hyderus, gyda gallu sy’n cyfateb i Radd 5 O LEIAF ar eich offeryn/ llais ar gyfer UG a gallu sy’n cyfateb i Radd 6 O LEIAF ar gyfer U2. Mae’r gallu i ddarllen hen nodiant yn ddymunol, neu o leiaf awydd i wneud hynny. Mae Gradd 5 theori (ABRSM) yn ddull delfrydol o ymbaratoi ar gyfer y cwrs, er nad yw’n hanfodol.
Hyd Lleoliad 2 Flynedd Castell-nedd
2 Flynedd Castell-nedd
2 Flynedd Castell-nedd
Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
TGAU Dawns
Cwmni Theatr Grass Roots Diploma OCR yn y Celfyddydau Perfformio Cwmni Theatr Impact Diploma Estynedig mewn Celfyddydau Perfformio gyda CBC BTEC Diploma Estynedig mewn Dawns gyda CBC Gall myfyrwyr ddewis astudio cymhwyster Lefel 3 ochr yn ochr â Safon Uwch Dawns a/neu Fagloriaeth Cymru.
BTEC Diploma Technegol mewn Cerddoriaeth
BTEC Diploma Estynedig mewn Cerddoriaeth Gall myfyrwyr ddewis astudio cymhwyster Lefel 3 wrth ochr Safon Uwch. Er enghraifft, BTEC Diploma Estynedig mewn Cerddoriaeth gyda Cherddoriaeth Safon Uwch. 3 5 TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy gyfweliad a chlyweliad. Bydd hyn yn cynnwys cael eu barnu ar eu diddordeb a’u profi ad mewn cerddoriaeth ynghyd â chlyweliad ar offeryn neu lais o gwmpas safon gradd 5. 2 Flynedd Castell-nedd
2 Nid oes angen cymwysterau ffurfi ol. Mae profi ad dawns yn ddymunol.
2 2 TGAU A*-C neu gymhwyster lefel 1 priodol
3 5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol. Mae profi ad blaenorol o berfformio yn ddymunol. 2 Flynedd Castell-nedd
3 5 TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol. Mae profi ad dawns blaenorol yn ddymunol iawn a dylai myfyrwyr fod â diddordeb mewn hyfforddi fel dawnsiwr aml-dalentog. Fe’ch cynghorir i fod yn barod i gymryd rhan mewn gweithgareddau dawns allgyrsiol mewn cydweithrediad â Chwmni Dawns LIFT.
2 2 TGAU gradd C neu uwch. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy gyfweliad a chlyweliad. Bydd y maen prawf yn cynnwys cael eu barnu ar eu diddordeb a’u profi ad mewn cerddoriaeth ynghyd â chlyweliad ar offeryn neu lais o gwmpas safon gradd 3. Blwyddyn Castell-nedd
Blwyddyn Castell-nedd
2 Flynedd Castell-nedd
Blwyddyn Castell-nedd



Llwyddiant Myfyrwyr
Mae Rosie Sullivan wedi bod yn cyd-redeg Academi Dawns Raie Copp ac mae ar fi n dechrau prentisiaeth cynhyrchu yn y BBC.
Mae Maisie Davies yn astudio BA Anrh mewn Drama ym Mhrifysgol Bryste.
Mae Jaimee Fraser-Ivett yn astudio Theatr Gerddorol ym Mhrifysgol Falmouth. Mae Bethan Michael yn astudio Theatr Gerddorol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Ffi on Weston bellach yn gweithio i ‘People Speak Up’ yn cynnal gweithdai llesiant creadigol.
Mae Megan Thomas yn Chichester yn astudio cerddoriaeth a theatr gerddorol.
Mae Sophie Ludlaim yn mynychu Chichester i astudio BA mewn Theatr Gerddorol.
Rosie Sullivan Maisie Davies
Jaimee Fraser-Ivett Bethan Michael
Ffion Weston Sophie Ludlaim Megan Thomas
Byddwch yn fynegiannol... gyda gyrfa mewn dawns, eatr a cherddoriae


Llwyddiant Myfyrwyr
Lauren Drew Fe wnaeth cyn-fyfyrwraig Grŵp Colegau NPTC Lauren Drew, seren y West End, syfrdanu’r wlad wrth gyrraedd rownd gynderfynol The Voice. Roedd ei fersiwn drawiadol o gân Jessie J, ‘Mama Knows Best’ yn ystod ei pherfformiadau cyntaf yn y clyweliadau dall yn berfformiad anhygoel. Tarodd y pedwar beirniad eu botymau a throi o gwmpas, sef y tro cyntaf i’r pedwar beirniad droi yn ystod y tymor hwnnw. Gwnaeth Lauren y fath argraff ar Tom Jones (Beirniad), a anwyd ym Mhontypridd fe dagiodd Jessie J mewn Trydar er mwyn iddi allu gwylio Lauren yn canu ei chân.
Nid yw Lauren yn ddieithr i’r llwyfan ac mae wedi cyfl awni nifer o berfformiadau clodwiw. Mae hi wedi perfformio mewn llawer o sioeau theatr fel Six, Evita, Sweet Charity, Heathers The Musical, Kinky Boots, a Ghost. Fel myfyriwr graddedig o Academi Celfyddydau Theatr Mountview (2016), mae Lauren yn gyson yn gwthio ei hun ac yn datblygu ei gyrfa broffesiynol. Yn hanu o Bort Talbot, cychwynnodd Lauren ar ei thaith i’r llwyfan trwy ddilyn TGAU Drama a Cherddoriaeth. Dewisodd ddod i Grŵp Colegau NPTC i astudio ar gyfer Diploma BTEC yn y Celfyddydau Perfformio a’i gosododd ar y llwybr cywir i ennill lle yn Academi Mountview.
Dyma Vicky Burroughs, Pennaeth yr Ysgol Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, yn sôn am ei chynfyfyrwraig: “Pan astudiodd Lauren BTEC Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Castell-nedd, gwelodd y tîm darlithio gymaint o botensial, talent amrwd ac ymrwymiad oedd gan Lauren. Roedd yn amlwg yn ôl bryd hynny fod gan Lauren ddyfodol gwych o’i blaen yn y diwydiant celfyddydau perfformio. Mae wedi bod yn bleser gweld gyrfa perfformio broffesiynol Lauren yn mynd o nerth i nerth.” Myfyriwr y Flwyddyn - Thomas Howell Fe wnaeth y myfyriwr Cerddoriaeth Safon Uwch, Thomas Howell, sefyll ei Ddiploma Piano ABRSM a Llais Gradd 8 ychydig ddyddiau cyn y cyfnod clo. Cyfl awnodd Tom 48/50 anhygoel yn ei ddiploma Piano a Rhagoriaeth yn ei Lais Gradd 8. Yn ystod y cyfnod clo, mae Tom wedi parhau i weithio’n galed i ennill cymwysterau pellach, gan gynnwys Diploma Anrhydedd mewn Cyfansoddi, ac fe safodd ei arholiad theori Gradd 8 ym mis Gorffennaf. Dywedodd Tom, a symudodd i Chichester ym mis Awst i gymryd ei le fel yr Ysgolor Organ yn Eglwys Gadeiriol Chichester: “Nid yw dweud fy mod i wedi mwynhau fy amser yn yr Academi Cerddoriaeth yn dod yn agos ati. Mae Coleg Castell-nedd hefyd yn darparu hyfforddiant offerynnol a llais gyda thiwtoriaid sy’n ymweld, sy’n arbenigwyr yn eu maes. Trwy’r cynllun hwn, rydw i wedi ennill rhagoriaethau yn y Diploma Llais Gradd 8 ABRSM a’r Diploma Piano ARSM. Anogir myfyrwyr i weithio’n annibynnol ac mae caffael y sgil hon yn berthnasol ar gyfer gweithio yn y diwydiant ehangach. Cymryd rhan mewn llu o weithgareddau allgyrsiol sydd wedi gwneud y cyfnod a dreuliais yma mor werthfawr”. Mae hon yn swydd a gynigir fel rheol i fyfyrwyr hŷn a mwy profi adol ond mae ei ragoriaeth lwyr fel cerddor a’i ymroddiad i’w astudiaethau wedi ennill y lle hwn iddo.
Parhaodd: “Mae creu cerddoriaeth ar y cyd yn agwedd ganolog ar fywyd y coleg gan gynnwys band mawr, ensembles bach, côr a chôr siambr i enwi ond rhai. Rwyf hefyd wedi cael cyfl e i ddatblygu fy sgiliau arwain trwy arwain y côr siambr yng ngŵyl genedlaethol Music for Youth yn Neuadd y Dref, Birmingham. Fe wnaethom gyfl wyno rhaglen amrywiol o ragoriaeth gorawl. Cefais gyfl eoedd fel gweithio mewn cerddorfeydd pwll a hyd yn oed berfformio concerto organ Handel yn F a Symudiad Cyntaf Symffoni yn G leiaf Mozart. Ni allaf argymell yr Academi Cerddoriaeth yn ddigon cryf - mae’n amhosibl sôn am yr holl brofi adau rydw i wedi’u cael yn ystod fy nwy fl ynedd yng Ngholeg Castellnedd. Rwy’n gwybod yn sicr fy mod i wedi ennill ffrindiau gydol oes a’r dulliau angenrheidiol i wynebu bywyd cyffrous mewn creu cerddoriaeth broffesiynol”.