1 minute read

Addysgu Arobryn

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

Yma yng Ngrŵp Colegau NPTC, cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth sy'n benodol i'r diwydiant ynghyd â chysylltiadau cadarn â'r cyflogwyr gorau, gan roi'r ansawdd addysgu a dysgu uchaf i chi. Mewn gwirionedd, mae ein haddysgu mor dda fel ein bod wedi cael ein henwi fel y Coleg gorau yng Nghymru ar gyfer addysgu ac yn ddegfed yn y DU gyfan*. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi'r cymorth unigol sydd ei hangen ar bob myfyriwr i lwyddo, boed hynny'n symud ymlaen i'r prifysgolion gorau, prentisiaethau neu i'ch gyrfa ddelfrydol gyda'r cyfl ogwyr gorau.

Ar ba lefel bynnag y byddwch yn ymuno â ni, byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd i gefnogi eich taith addysgol, ac yn addo, pryd bynnag y byddwch yn penderfynu ein gadael, byddwch yn gadael gyda'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i ffynnu.

O fewn pob maes pwnc ceir rhaglen asesu a chymorth rheolaidd. Byddwch yn ymwneud â chynllunio eich dysgu unigol a gosod targedau ar gyfer gwella sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'ch tiwtoriaid. Rydym yn darparu cymorth tiwtorial yn ogystal â gwersi wedi'u hamserlennu i gynorthwyo'r gwaith o baratoi ar gyfer arholiadau, ceisiadau UCAS a chymorth bugeiliol. Mae gan ein llyfrgell adnoddau da ac mae'n darparu mynediad i'r gwasanaethau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau. Yn ogystal â chasgliadau helaeth o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a DVDs, mae ein canolfannau hefyd yn cynnig mynediad i wybodaeth ar-lein, cyngor ar ddulliau ymchwil a gallant helpu gyda chyfeirnodi.

Rydym yn meithrin myfyrwyr dawnus a thalentog gyda chymorth a mentora arbenigol gan gynnwys cyngor ac arweiniad cynhwysfawr ar y broses ymgeisio UCAS gymhleth i'r prifysgolion gorau a chyrsiau cystadleuol fel Meddygaeth, Deintyddiaeth, Gwyddor Filfeddygol, a'r Gyfraith. Byddwch yn cael siaradwyr gwadd, gan gynnwys sgyrsiau blynyddol a gyfl wynir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Ysgol Feddygol Caerdydd a thiwtoriaid derbyn Oxbridge ynghyd â llawer o gyfl eoedd i wella eich cais drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi fel yr Her Fathemateg, yr Olympiad Bioleg, Med-link a digwyddiadau STEM’.

This article is from: