6 minute read

Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig

Next Article
Peirianneg Sifi l

Peirianneg Sifi l

GALWEDIGAETHOL

GAETHOL GALWEDI

Adeiladu’r Dyfodol

Bydd cyfres newydd o gymwysterau yn cael eu cyfl wyno ledled Cymru sydd wedi’u datblygu gyda chyfl ogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau’r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well.

Nod y newid yw symleiddio’r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o’r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen at waith o addysg.

Mae gan y Ganolfan Rhagoriaeth Adeiladwaith Maesteg ystod o gyrsiau amser llawn a rhan-amser mewn adeiladwaith ar bob lefel. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu ynghyd ag hyfforddiant i helpu pob myfyriwr i gyfl awni hyd ei eithaf. Rydym yn frwdfrydig ynghylch eich helpu i gyfl awni eich amcanion addysgol a dod o hyd i’ch swydd berffaith! Mae ein cyrsiau adeiladu yn canolbwyntio ar sgiliau y gellir eu cymhwyso’n uniongyrchol at y gweithle neu astudiaethau pellach, gan roi’r wybodaeth i chi gychwyn ar yrfa yn y diwydiant adeiladu.

O fi s Ionawr 2022 ymlaen, cynigiwn ddiploma lefel 1 mewn sgiliau Adeiladwaith ar gyfer y rheiny sy’n gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y diwydiant adeiladu.

O fi s Medi 2022, cynigiwn gwrs amser llawn Lefel 2 mewn adeiladwaith a’r amgylchedd adeiledig. Byddwch yn dewis o ddau brofi ad crefft, gwaith coed, gosod brics a gweithiau tir. (Construction Civils).

Unwaith eich bod wedi cyfl awni’r cymhwyster hwn, efallai y bydd modd i chi gamu ymlaen i astudiaethau amser llawn neu brentisiaeth. Sgiliau Adeiladwaith (Aml-Grefft - Cyn Sylfaen)

Mae Sgiliau Adeiladwaith Lefel 1 yn gwrs amser llawn, addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith. Mae’r cwrs yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a diogelwch, a sesiynau ymarferol a theori o rai o’r canlynol yn dibynnu ar y Coleg o’ch dewis - Gosod Brics, Plastro, Gwaith Saer, Peintio neu Deilsio.

Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig

Mae’r Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig yn gymhwyster newydd sbon lle rydych yn astudio dau brofi ad crefft o’r canlynol:  Gweithio gyda brics, blociau a cherrig  Galwedigaethau pren  Paentio ac Addurno  Plastro a systemau mewnol  Teilsio waliau a lloriau

Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy’n golygu ei fod yn un o gyfl ogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi’u hyfforddi o’r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyfl ogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â’r diwydiant gwerth chweil hwn. Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â’r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfl e i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofi ad o’r diwydiant sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau’r myfyriwr. Mae llawer o’n staff yn gyn-fyfyrwyr y coleg ac yn deall sut i wneud dysgu’n ddiddorol ac yn ddifyr ac yn gallu cael y gorau allan o’r myfyrwyr. Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch yn eich dewis lwybr. Byddwch hefyd yn dysgu dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesiad

I gyfl awni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:  Un prawf amlddewis sydd wedi’i osod yn allanol, a’i farcio yn allanol  Un prosiect yn cwmpasu dau faes crefft, sydd wedi’i osod yn allanol, a’i farcio yn fewnol  Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi’i gosod yn allanol, a’i marcio yn fewnol  Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi’i osod yn allanol, a’i farcio yn fewnol.

Dilyniant

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladwaith neu amgylchedd adeiledig ynghyd â gwybodaeth a sgiliau rhagarweiniol mewn dau lwybr o’ch dewis. Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth i symud ymlaen i astudiaeth bellach:  Dilyniant mewn Adeiladwaith Lefel 2 (Amser llawn) - City & Guilds  Adeiladwaith Lefel 3 Dwy fl ynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds  Adeiladwaith Lefel 3 Tair blynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds

Mae’r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth yn y sector yn eu dewis grefft.

Ar gyfer pwy mae’r cymhwyster?

Mae’n addas ar gyfer:  Dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio yn y sector adeiladwaith a’r amgylchedd adeiledig neu’n bwriadu gwneud hynny. Gweithwyr safl eoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol  Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyfl awni, neu fod yn gweithio tuag at eu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol eraill ar gyfer y cymhwyster hwn.

Enillion blynyddol cyfartalog

Briciwr £52k Saer ac Asiedydd £50k Plastrwr £48k Teilsiwr Waliau a Lloriau £48k Rheolwr Safle £60k Rheolwr Prosiect £70k Peiriannydd Sifil £70k

Byddwch yn ymarferol .gyda gyrfa mewn plastro, gosod brics a gwai saer

Llwyddiant Myfyrwyr

Mae'r Ysgol Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig ar ben ei digon, gan i'w chasgliad o fedalau gyrraedd ffi gyrau dwbl yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar. Enillwyd medalau aur ym mhob un o'r pedair crefft a gynigir yn y Coleg gan gynnwys y myfyriwr Peintio ac Addurno Paul Mason, Kellan Marney o Waith Brics, y Plastrwr Johnny Donaldson a'r saer benywaidd Sammy Young. Yna daeth medalau arian i Thomas Morgan, Gwaith Saer, Kian Brown, Plastro a Craydon Rive o Waith Brics ac yna Efydd gan Mai Ball mewn Peintio ac Addurno, Thomas Johns o blastro a'r saer Dafydd Jenkins.

Enillwyd deg medal anhygoel i gyd, gan wneud y canlyniadau hyn y gorau y mae'r ysgol wedi'u cyfl awni erioed.

Mae Cystadlaethau Sgiliau yn ffordd wych o ymestyn a herio myfyrwyr y tu hwnt i'w gwaith cwrs.

Cyrsiau

Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad

Sgiliau Adeiladwaith (Aml-Grefft / Cyn-sylfaen) 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfi ol Blwyddyn Maesteg Castell-nedd Abertawe

Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig 2 TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch. Blwyddyn Bannau Mesteg Castell-nedd Abertawe

LLWYBRAU CREFFT AR GAEL:

Gwaith Coed a Gwaith Saer / Toeon

Gwaith Brics / Adeiladwaith Sifil

Plastro / Adeiladwaith Sifil

Peintio a Addurno / Teilsio Lloriau ac Waliau

BTEC Lefel 3 Diploma Estynedig mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) 3 5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys naill ai Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg ac un pwnc Gwyddonol (6 TGAU os mai dim ond Mathemateg, Saesneg a Chymraeg a gyfl awnir). BTEC Tystysgrif Gyntaf neu Ddiploma mewn Adeiladwaith ar Deilyngdod neu Ragoriaeth. 2 Flynedd Castell-nedd

Bannau Castell-nedd Abertawe Bannau Maesteg Castell-nedd Abertawe Bannau Castell-nedd Abertawe Castell-nedd

This article is from: