
2 minute read
Peirianneg Sifi l


Peirianneg Sifil a Rheoli Adeiladwaith
GAETHOL GALWEDI
Mae Peirianwyr Sifi l yn creu, gwella a diogelu’r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Mae’r ddisgyblaeth yn ymwneud â dylunio, adeiladu a rheoli ein hamgylchedd adeiledig a naturiol, gan gynnwys ffyrdd, adeiladau a phontydd. Mae Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Adeiladwaith a Pheirianneg Sifi l, yn cyfateb i 3 Safon Uwch ac mae’n gam gwych tuag at y brifysgol i’r rhai sy’n hoff iawn o fathemateg, yn mwynhau ffordd fwy ymarferol o ddysgu a sydd â diddordeb mewn Pensaernïaeth, Adeiladau, Dylunio neu sydd efallai’n ystyried dod yn Syrfëwr Meintiau. Mae’r cwrs yn cynnwys 18 uned, sy’n cynnwys lluniadu CAD, Arolygu Safl eoedd, Adeiladwaith Cynaliadwy, Gwyddoniaeth a Deunyddiau ym maes Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, Mathemateg, ac Iechyd, Diogelwch a Lles. Rydym yn disgwyl y bydd ein myfyrwyr yn gyfl ogedig ar sail ran-amser. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro fel bod gwaith rhan-amser yn ymarferol, ac yn dal i adael amser i gwblhau gwaith coleg gartref. Mae asesu ar ffurf profi on, aseiniadau ac ymarferion ymarferol cyfnodol yn ystod y cwrs.
Cyfleoedd gyrfa
Mae’r cyfl eoedd gyrfa yn y sector adeiladwaith a pheirianneg sifi l yn ddiddiwedd, gan gynnwys proffesiynau fel Pensaernïaeth, Pensaernïaeth Fewnol, Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu, Arolygu Meintiau, Rheoli Safl eoedd ac Arolygu Adeiladau. Mae’r galwedigaethau technegol a phroffesiynol yn y sector yn symud yn gyfl ym ac yn heriol. Gallech fod yn rhan o weithio ar brosiect yn ei gyfanrwydd, o’r cam dylunio i’r adeiladu a’r cwblhau. Gallai’r prosiectau hyn gynnwys datblygu ac adeiladu pontydd, twneli, ffyrdd, rheilffyrdd, argaeau, adeiladau mawr, prosiectau arfordirol, gorsafoedd pŵer a safl eoedd ynni adnewyddadwy newydd. At hynny, fe allech chi barhau â phrentisiaeth dechnegol neu broffesiynol ar Lefel 3 a 4, Addysg Uwch, HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifi l), HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Arolygu Meintiau).
Cwrs
Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad
BTEC Diploma Estynedig mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil/Rheoli Adeiladwaith) 3 5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys naill ai Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a Gwyddoniaeth. 6 TGAU os mai dim ond Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a gyfl awnwyd. BTEC Tystysgrif Gyntaf neu Ddiploma mewn Adeiladwaith ar lefel Teilyngdod neu Ragoriaeth. 2 Flynedd
Hyd Lleoliad
Castellnedd
Enillion blynyddol cyfartalog Hyfforddeion a Phrentisiaid Graddedig £18k-£28k Peiriannydd Sifil Graddedig £23k-£28k Peiriannydd Sifil Siartredig (ICE) £50k Cymrawd Peiriannydd Sifil (ICE) £81k Rheolwr Prosiect £45k-£60k Syrfëwr Meintiau £35k-£60k Pensaer £45k-£80k