2 minute read

Gwyddoniaeth Gymhwysol

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

GALWEDIGAETHOL

GAETHOL

GALWEDI Gwyddoniaeth Gymhwysol

Mae’r cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol yn eich arfogi ag amrywiaeth o sgiliau gwahanol a sylfaen wybodaeth wyddonol eang sy’n rhychwantu bioleg, cemeg a ffi seg, gan roi cyfl eoedd i chi wneud cais i ystod eang o gyrsiau prifysgol. Mae gan y BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 lwybr cyffredinol cymhwysol a llwybr arbenigol dewisol rhwng uned fi omeddygol ac uned wyddor fforensig.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 60% o waith cwrs, tra bod 20% yn seiliedig ar arholiad ac 20% o waith cwrs wedi’i farcio’n allanol. Rhai o’r unedau y byddwch yn eu hastudio yw gwyddor fi ofeddygol, tystiolaeth fforensig, casglu a dadansoddi, egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth, geneteg, sgiliau ymchwilio gwyddonol, technegau labordy, ffi sioleg systemau’r corff dynol, materion cyfoes mewn gwyddoniaeth a chemeg organig. Bydd gofyn i chi ymgymryd â rhaglen o aseiniadau drwy gydol y cwrs, ac arholiadau allanol mewn dwy uned. Bydd y rhain yn cynnwys asesu sgiliau ymarferol a’r gallu i weithio’n ddiogel. Mae’n hanfodol eich bod yn drefnus iawn ac yn cwrdd â therfynau amser.

Rhagolygon gyrfa

Mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys biocemegydd, radiolegydd, radiograffydd, awdiolegydd, cemegydd, biolegydd, parafeddyg, ceiropractydd, gofal iechyd, gwyddor fforensig.

Llwyddiant Myfyrwyr

Ellie Pits: Lefel 3 mewn Gwyddor Fforensig Pam dewisoch chi’r cwrs yma? “I ddechrau roeddwn i eisiau astudio troseddeg yn y brifysgol felly penderfynais gymryd gwyddor fforensig i gael y profi ad ymarferol yn ogystal â’r profi ad yn y llys. Yn y coleg, fe gyrhaeddais rowndiau terfynol World Skills Cenedlaethol y DU yn yr NEC yn Birmingham, lle cefais ganmoliaeth uchel, sy’n golygu fy mod i’n un o’r goreuon yn y DU. Roedd yn un o brofi adau gorau fy mywyd, a byddwn yn argymell bod unrhyw fyfyriwr sy’n meddwl am gystadlu yn mynd amdani. Mae’n edrych yn wych ar eich CV neu gais UCAS ac yn rhoi llawer o hyder i chi. Ar ôl y Coleg rwy’n bwriadu mynd i’r brifysgol i astudio Gwyddor Fforensig, yna Meddygaeth i ddod yn Batholegydd Fforensig yn y pen draw.”

Enillion blynyddol cyfartalog Gwyddonwyr Biolegol a Biocemegwyr £45k Archwiliwr Safleoedd Troseddau £17k-£35k Troseddegydd £25k-£28k Ymchwilydd Tân £70k Gwyddonydd Fforensig £20k Radiograffydd £40k Parafeddyg £36k

Cyrsiau

Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad BTEC Diploma Estynedig mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC Tystysgrif Estynedig mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol 3

3 6 TGAU A-C, yn cynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth Ychwanegol a Saesneg gradd C neu uwch. 2 Flynedd

5 TGAU A-C, yn cynnwys graddau C mewn Gwyddoniaeth Ddwbl.

Mynediad i AU – Gofal Iechyd 3 Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr 19 oed ac hŷn sy’n gobeithio dychwelyd i addysg. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfweliad llwyddiannus. Blwyddyn

Hyd Lleoliad

2 Flynedd Castellnedd

Castellnedd

Castellnedd

This article is from: