
7 minute read
Chwaraeon
GALWEDIGAETHOL
GAETHOL GALWEDI


Mae’r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffi trwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus gyda galw sy’n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol.
Mae gan y Coleg enw da sefydledig am lwyddiant mewn chwaraeon, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn ennill anrhydeddau rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o gampau yn cynnwys Duncan Jones, Adam Beard, Daniel James a Chelsea Lewis.
Rydym yn falch o’n canlyniadau rhagorol, a hynny ar y cae chwaraeon ac oddi arno a’r addysgu o ansawdd uchel sy’n sylfaen i’n llwyddiant. Ynghyd â gofal bugeiliol rhagorol, mae adran chwaraeon y Coleg yn ymgorffori’n harwyddair ‘mwy nag addysg yn unig’.
Mae gan lawer o’r staff chwaraeon brofi ad yn chwarae a hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf sy’n amhrisiadwy wrth ddatblygu galluoedd chwaraeon myfyrwyr.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Gallwch ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyfl ogaeth neu gwrs prifysgol addas.
Coleg Bannau Brycheiniog
Mae’r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn defnyddio cyfl eusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy’n cynnwys trac athletau, cae astro turf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofi o. Ar y safl e, mae gan yr Academi Chwaraeon ei chae hyfforddi ei hun a chanolfan cryfder a chyfl yru o’r radd fl aenaf, sydd wedi bod o fudd i ddatblygiad llawer o athletwyr dros y blynyddoedd, er enghraifft Dan Lydiate.
Mae darlithwyr yn hyfforddwyr cymunedol sy’n cynnig hoci a gymnasteg, gyda Rhian Davies yn chwarae hoci dros Feistri Cymru. Gellir addysgu rhai modiwlau o’r BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon a CBC trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd modd i fyfyrwyr gwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle y bo’n bosibl.
Academi Chwaraeon Llandarcy
Mae gan Academi Chwaraeon Llandarcy neuadd chwaraeon ryngwladol, wal ddringo, ystafell cryfder a chyfl yru, trac dan do 60m, cyfl euster amlchwaraeon dan do, llain 4G ac ystafelloedd addysgu gyda’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.
Os ydych chi o ddifrif am chwaraeon, fel rhan o’r Academi Chwaraeon byddwch yn elwa o:
b rhaglen hyfforddi strwythuredig sy’n cael ei goruchwylio gan hyfforddwyr profi adol; b perfformiad personol yn cael ei fonitro’n rheolaidd gan ein tîm b mae sesiynau hyfforddi a darlithoedd wedi’u cynllunio i osgoi gwrthdaro diangen b y cyfl e i gystadlu yn nhimau chwaraeon llwyddiannus Grŵp Colegau NPTC b bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich dewis gamp.
Cyfleoedd gyrfa
Gallai’r ystod eang o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig arwain at lawer o yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro addysg gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegwr chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog datblygu chwaraeon.
Mae dilyniant academaidd yn cynnwys addysg uwch yn y Coleg neu mewn sefydliad arall. Gall rhai athletwyr elît ennill ysgoloriaethau i astudio dramor e.e. golff yn America.


Chloe Evans Ffi on Maddock Hannah Garnett Victoria Powney


Llwyddiant Myfyrwyr
Mae wedi bod yn fl wyddyn arbennig arall i’n myfyrwyr yn Academi Chwaraeon Llandarcy wrth iddynt gyfl awni canlyniadau rhagorol, er gwaethaf yr heriau a berir gan y pandemig parhaus.
Ddeuddeg mis yn ôl, roedd Academi Chwaraeon Llandarcy yn nwylo Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn gweithredu fel ysbyty maes yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
Chloe Evans – Chwaraewr pêl-rwyd rhyngwladol a dderbyniodd fwrsariaeth chwaraeon yn ei blwyddyn gyntaf a dod yn Llysgennad Ieuenctid Aur. Mae Chloe wedi cael ei derbyn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ac mae’n gobeithio parhau â’i gyrfa pêl-rwyd ryngwladol.
Georgia Grange – Mae’r seren rygbi a phêl-rwyd yn un i’w chofi o ar gyfer y dyfodol! Mae Georgia wedi cael ei derbyn i’r enwog Goleg Hartpury i astudio am radd mewn Hyfforddi Chwaraeon.
Victoria Powney – Mae Victoria yn berfformiwr karate a phêl-rwyd ardderchog a gafodd fwrsariaeth chwaraeon yn ei blwyddyn gyntaf. Yn Llysgennad Ieuenctid Aur arall, mae hi’n mynd i astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd Victoria: “Dwy fl ynedd orau fy addysg heb os! O’r darlithwyr i’r cyfl eusterau, roedd Academi Chwaraeon Llandarcy yn anhygoel, ni fyddwn wedi gallu cael grŵp gwell o bobl o’m cwmpas. Mae wedi fy mharatoi ar gyfer bywyd prifysgol; rwy’n llawn cyffro i symud ymlaen ond byddaf yn gweld eisiau pawb cymaint!”
Scott Hawkins – Yn chwaraewr rygbi talentog ac yn aelod allweddol o dîm llwyddiannus Grŵp Colegau NPTC, roedd Scott yn aelod brwd o’r Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid Aur a gweithiodd yn ddifl ino, gan arwain llawer o sesiynau trwy’r pandemig. Mae Scott yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio ar gyfer gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio am radd mewn Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ac mae wedi bod yn hyfforddi gyda’r tîm rygbi enwog yr ‘Archers’ am y tri mis diwethaf.
Cafwyd rhai straeon llwyddiant nodedig hefyd ar y cwrs BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon (Hyfforddi a Datblygu), gyda chwe myfyriwr yn cyfl awni Rhagoriaeth Serennog Driphlyg.
Ffi on France – Yn aelod ymroddedig o sgwadiau pêldroed, rygbi a phêl-rwyd y menywod, fe ddaeth Ffi on o hyd i amser i ddod yn Llysgennad Ieuenctid Aur. Gan weithio ochr yn ochr â’r swyddogion PASS yn CBSCNPT, cyfl wynodd sgyrsiau i lysgenhadon ifanc newydd mewn digwyddiadau hyfforddi ac arwain sesiynau ar-lein wythnosol gyda myfyrwyr Astudiaethau Sylfaen. Mae Ffi on wedi ennill lle ar y cwrs Therapi Chwaraeon cystadleuol iawn ym Mhrifysgol Dinas Birmingham.
Connor Rees – Mae’r egin entrepreneur yn sefydlu ei fusnes Therapi Chwaraeon a Thylino ei hun.
Ffi on Maddock – Dyfarnwyd bwrsariaeth ysgoloriaeth chwaraeon i Ffi on, cricedwr rhyngwladol Cymru, yn ei blwyddyn gyntaf yn y coleg am ei thalent chwaraeon eithriadol a daeth yn Llysgennad Ieuenctid Aur. Yn dyst i’w gallu chwaraeon, derbyniodd Ffi on gynigion diamod gan amryw brifysgolion ac mae wedi derbyn cynnig i astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd darlithydd Ffi on, Jo Jones: “Mae Ffi on wedi bod yn fyfyriwr eithriadol sydd bob amser wedi cynnal arferion gwaith da, yn dilyn pob cyfarwyddyd ac ag agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu. Roedd Ffi on bob amser yn dangos meddylfryd gonest wrth ymgymryd â’r gweithgareddau allgyrsiol a bydd yn ffynnu yn ei thaith addysg uwch.”
Hannah Garnett– Mae’r cricedwr dros Gymru, Hannah, yn ymuno â Katelyn ar y cwrs gradd Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Georgia Howells – Mae’r pêl-droediwr talentog yn mynd i Brifysgol De Cymru i astudio Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff.



“Roedd y cwrs yn cynnig llawer o wahanol gy eoedd ac mae cy eusterau gwych ar y campws i fyfyrwyr eu defnyddio. Roedd y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais gan fy nhiwtor a’m darlithwyr trwy gydol yr amser anodd hwn yn anhygoel ac fe wthiodd i gwblhau fy nghwrs hyd eithaf fy ngallu. Bydd gen i atgo on melys o hyd am yr amser a dreuliais yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Ho wn ddweud diolch yn fawr i’m tiwtor Jo a gweddill y sta chwaraeon am y gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i mi dros y blynyddoedd, ac am fy ngwthio i wneud fy ngorau glas.” Cyrsiau
Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
Diploma Rhagarweiniol mewn Chwaraeon 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfi ol Blwyddyn Llandarcy/ Bannau
Tystysgrif Estynedig BTEC mewn Chwaraeon
Active Q mewn Hyfforddi Ffitrwydd ac Ymarfer Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon Diploma Cenedlaethol Estynedig BTEC mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon a CBC 2 2 TGAU A*-E neu gymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus Blwyddyn Llandarcy
2
3
3
3 4 TGAU (neu gyfwerth) graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg neu Fathemateg 2 Flynedd Bannau
4 TGAU yn cynnwys Mathemateg a Saesneg
5 TGAU yn cynnwys Mathemateg a Saesneg
5 TGAU (neu gyfwerth) ar radd C neu uwch Blwyddyn Llandarcy
2 Flynedd Llandarcy
2 Flynedd Llandarcy
Enillion blynyddol cyfartalog
Emsi: www.economicmodeling.com *www.prospects.ac.uk/job-profi les/exercise-physiologist
Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru £17k - £45k Athro Addysg Gorfforol Ysgol Uwchradd £25k+ Swyddog Datblygu Chwaraeon £18k-£23k Hyfforddi Chwaraeon £15k-£25k
Gwyddor Chwaraeon £20k - £30k
Os ydych yn gweithio ym maes gwyddor chwaraeon proffil uchel, gall eich cyflog fod yn fwy na £60,000 a gallai gyrraedd hyd at £100,000* Swyddog 5x30 £20k Dadansoddwr Chwaraeon £24k-£43k Byddwch yn egnïol gyda gyrfa mewn chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd