ED IG AET
H
OL
GA
LW
GA
LW
OL
EDIGAETH
Therapïau Chwaraeon Mae therapyddion chwaraeon yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i drin anafiadau chwaraeon, rhoi cyngor ar atal anafiadau a chefnogi adsefydlu, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau corfforol a therapïau. O ddydd i ddydd fel therapydd tylino chwaraeon, gallwch fod yn gweithio gydag ystod o wahanol gleientiaid. Yn dibynnu ar a ydych yn gyflogedig neu’n llawrydd, gallech fod yn gweithio gyda chwaraewyr campau proffesiynol neu bobl sy’n mynd i’r gampfa bob dydd. Gallech fod yn trin anafiadau, a allai fod yn hirsefydlog, yn adnabod ardaloedd problemus yn gynnar neu’n helpu i atal anafiadau cyn iddynt ddigwydd.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Nod ein cyrsiau yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu amrywiaeth o sgiliau ymarferol sydd eu hangen ym maes rheoli ac atal anafiadau chwaraeon. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys tylino chwaraeon, strapio a thapio, profi ffitrwydd ac adfer anafiadau chwaraeon cyffredin. Mae’r wybodaeth sylfaenol yn cynnwys anatomeg a ffisioleg, gweithio mewn amgylchedd chwaraeon a dyletswyddau cymorth cyntaf ar y cae chwarae.
Rhagolygon gyrfa
Mae therapi chwaraeon a thylino chwaraeon wedi mynd yn sgiliau y mae galw mawr amdanynt o fewn y diwydiant ffitrwydd. Gall therapyddion tylino chwaraeon helpu unrhyw un - o athletwyr i ddefnyddwyr achlysurol y gampfa a bydd angen iddynt atal anafiadau llawn cymaint â’u trin.
Cyrsiau Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa
3
16-18 oed: o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch (neu gyfwerth). Myfyrwyr aeddfed: cyfweliad cyn ymrestru.
Hyd
Lleoliad
Blwyddyn
Afan
Byddwch yn iachaol gyda gyrfa mewn chwaraeon, therapi a ffitrwydd Chwilio NPTC Group
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
VTCT Diploma mewn Therapi Chwaraeon - Atal a Rheoli Anafiadau Chwaraeon mewn Hamdden Egnïol
Lefel Gofynion Mynediad
72