Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De

Page 70

GA

ED IG AET

H

OL

LW

GA

LW

OL

EDIGAETH

Chwaraeon Mae’r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus gyda galw sy’n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol. Mae gan y Coleg enw da sefydledig am lwyddiant mewn chwaraeon, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn ennill anrhydeddau rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o gampau yn cynnwys Duncan Jones, Adam Beard, Daniel James a Chelsea Lewis. Rydym yn falch o’n canlyniadau rhagorol, a hynny ar y cae chwaraeon ac oddi arno a’r addysgu o ansawdd uchel sy’n sylfaen i’n llwyddiant. Ynghyd â gofal bugeiliol rhagorol, mae adran chwaraeon y Coleg yn ymgorffori’n harwyddair ‘mwy nag addysg yn unig’. Mae gan lawer o’r staff chwaraeon brofiad yn chwarae a hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf sy’n amhrisiadwy wrth ddatblygu galluoedd chwaraeon myfyrwyr.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Gallwch ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyflogaeth neu gwrs prifysgol addas.

69

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae’r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn defnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy’n cynnwys trac athletau, cae astro turf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofio. Ar y safle, mae gan yr Academi Chwaraeon ei chae hyfforddi ei hun a chanolfan cryfder a chyflyru o’r radd flaenaf, sydd wedi bod o fudd i ddatblygiad llawer o athletwyr dros y blynyddoedd, er enghraifft Dan Lydiate. Mae darlithwyr yn hyfforddwyr cymunedol sy’n cynnig hoci a gymnasteg, gyda Rhian Davies yn chwarae hoci dros Feistri Cymru.

Gellir addysgu rhai modiwlau o’r BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon a CBC trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd modd i fyfyrwyr gwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle y bo’n bosibl.

Academi Chwaraeon Llandarcy

Mae gan Academi Chwaraeon Llandarcy neuadd chwaraeon ryngwladol, wal ddringo, ystafell cryfder a chyflyru, trac dan do 60m, cyfleuster amlchwaraeon dan do, llain 4G ac ystafelloedd addysgu gyda’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf. Os ydych chi o ddifrif am chwaraeon, fel rhan o’r Academi Chwaraeon byddwch yn elwa o: b rhaglen hyfforddi strwythuredig sy’n cael ei goruchwylio

gan hyfforddwyr profiadol; b perfformiad personol yn cael ei fonitro’n rheolaidd gan

ein tîm b mae sesiynau hyfforddi a darlithoedd wedi’u cynllunio i

osgoi gwrthdaro diangen b y cyfle i gystadlu yn nhimau chwaraeon llwyddiannus

Grŵp Colegau NPTC b bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer

eich dewis gamp.

Cyfleoedd gyrfa

Gallai’r ystod eang o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig arwain at lawer o yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro addysg gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegwr chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog datblygu chwaraeon. Mae dilyniant academaidd yn cynnwys addysg uwch yn y Coleg neu mewn sefydliad arall. Gall rhai athletwyr elît ennill ysgoloriaethau i astudio dramor e.e. golff yn America.

Chwilio NPTC Group


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.