ED IG AET
H
OL
GA
LW
GA
LW
OL
EDIGAETH
Gwasanaethau Cyhoeddus Mae’r Sector Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cynnwys llawer o broffesiynau sy’n amddiffyn ac yn gwasanaethu’r boblogaeth ledled y byd. O achub dringwyr fel rhan o’r tîm Achub Mynydd, cael eu defnyddio yn y fyddin fel meddyg neu fynd i safle damwain fel parafeddyg, heddwas neu ddyn tân, mae’r gweithwyr proffesiynol hyfforddedig hyn yn barod ar gyfer gwasanaeth gweithredol mewn unrhyw argyfwng. Mae llawer o’r darlithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod ar ddyletswydd weithredol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol, eu teithiau a’u gweithgareddau i’ch ymgysylltu a sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o’r nifer fawr o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael.
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Beth fyddaf yn ei wneud?
67
Gall myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus fwynhau’r cyfleusterau chwaraeon sy’n arwain y sector yn Academi Chwaraeon Llandarcy sy’n cynnwys neuadd chwaraeon ryngwladol, wal ddringo, ystafell cryfder a chyflyru, trac dan do 60m, cyfleuster amlchwaraeon ysgubor dan do, llain 4G, ac ystafelloedd addysgu gyda’r dechnoleg ddigidol fwyaf diweddar. Gall y myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ffitrwydd ochr yn ochr â’r myfyrwyr chwaraeon a pharatoi eu hunain yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer eu dewis yrfaoedd.
Coleg Bannau Brycheiniog
Mae Coleg Bannau Brycheiniog wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amgylchedd anhygoel i fyfyrwyr ymwneud ag ystod eang o weithgareddau
gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr â’u cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus. Cynhelir ymweliadau addysgol a theithiau er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu’r sgiliau y mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gellir addysgu rhai modiwlau o’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle y bo’n bosibl.
Academi Chwaraeon Llandarcy
Yn ein Hacademi Chwaraeon Llandarcy cynhelir ymweliadau a theithiau addysgol er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu’r sgiliau y mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Cyfleoedd gyrfa b Byddin b Gwylwyr y Glannau b Gwasanaethau Brys b Gwasanaeth Tân b Llynges b Swyddog yr Heddlu b Yr Awyrlu Brenhinol.
Enillion blynyddol cyfartalog
Swyddog Ambiwlans Awyr £36k Swyddog y Fyddin £20k Diffoddwr Tân £21k - £36k
Swyddog yr Heddlu £25k (Cyflog Cychwynnol) Parafeddyg £36k Triniwr Cŵn yr Heddlu £16k - £25k
Chwilio NPTC Group