GA
ED IG AET
H
OL
LW
GA
LW
OL
EDIGAETH
Coginio Proffesiynol, Celfyddydau Coginio, Lletygarwch, Bwyty a Becws A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar longau mordeithio, cychod hwylio moethus, gwestai rhyngwladol neu mewn bwytai seren Michelin? Neu efallai y byddwch am sefydlu eich busnes lletygarwch eich hun. Dim ond rhai o’r cyfleoedd a gynigir i chi yn y diwydiant lletygarwch yw’r rhain.
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Y diwydiant lletygarwch a’r celfyddydau coginio yw un o’r diwydiannau mwyaf yn y DU, gyda chyfoeth o gyfleoedd swyddi ar gael gartref a thramor. Mae llwybrau gyrfaol yn cynnwys cogyddion, gweini bwyd a diod, rheoli gwestai, rheoli digwyddiadau, rheoli bwytai, pobyddion a chogyddion patisserie, arlwyo contract, datblygu cynnyrch a gweithgynhyrchu bwyd.
65
Mae’r Coleg yn cynnal dau fwyty hyfforddi prysur sy’n cynnig y lefel uchaf o wasanaeth i’r cyhoedd: Themâu yng Ngholeg y Drenewydd a Blasus yng Ngholeg Castell-nedd. Rhyngddynt, mae’r bwytai’n darparu theatr fwrdd, gwasanaeth arian a rhost y dydd, wedi’i gerfio wrth y bwrdd ar ein troli arian. Rydym hefyd yn gweithredu lolfa goffi a siop fecws brysur. Mae pob un o’n safleoedd yn darparu amrywiaeth o gynnyrch lleol gan gynnwys cig eidion ac oen a fagwyd ar fferm y Coleg a llysiau a pherlysiau a dyfir gan yr adran garddwriaeth.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol a enillwyd o weithio yn y ceginau proffesiynol yn ein dau fwyty hyfforddi sy’n agored i’r cyhoedd, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith bywyd go iawn mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Byddwch yn dysgu oddi wrth staff sefydledig a phrofiadol sy’n gymwysedig ym mhob agwedd ar y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.
Rhagolygon gyrfa
Os ydych yn chwilio am yrfa ‘ymarferol’ gyda chyfleoedd cyflogaeth rhagorol, yna mae lletygarwch yn sicr yn yrfa i chi. Mae gennym gysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol a rhyngwladol, ac mae llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â chyflogaeth ran-amser ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mae gan y Coleg enw da am gynhyrchu myfyrwyr hynod brofiadol a chymwysedig sy’n cael cydnabyddiaeth dro ar ôl tro mewn cystadlaethau coginio ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd i swyddi ledled y byd yn ogystal â rhai yn cael uwch swyddi mewn sefydliadau lleol.
Mae Academi Pobi Blasus wedi bod yn darparu hyfforddiant pobi ers dros 50 o flynyddoedd. Gydag un o’r darpariaethau mwyaf sylweddol o’i fath a’r unig Academi Pobi yng Nghymru, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau sy’n eu galluogi i weithio yn y sector gweithgynhyrchu a phobi.
Chwilio NPTC Group