GA
ED IG AET
H
OL
LW
GA
LW
OL
EDIGAETH
Plymio, Astudiaethau Trydanol ac Ynni Adnewyddadwy Adeiladu’r Dyfodol
Cafodd cyfres newydd o gymwysterau eu cyflwyno ledled Cymru sydd wedi’u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau’r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well. Nod y newid yw symleiddio’r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o’r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Mae’r Cymhwyster Sylfaen ar gyfer Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn gymhwyster newydd sbon lle rydych chi’n astudio dau brofiad crefft:
63
b Plymio a Gwresogi Domestig b Systemau ac offer electro-dechnegol (Gosodwaith Trydanol). Mae gan y diwydiant Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy’n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi’u hyfforddi o’r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyflogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â’r diwydiant gwerth chweil hwn.
Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â’r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o’r diwydiant sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau’r myfyriwr. Er y byddwch yn astudio crefft drydanol a chrefft blymio yn y lle cyntaf, byddwch yn dewis un llwybr nes ymlaen. Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch mewn plymio a gosodwaith trydanol. Byddwch hefyd yn dysgu dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.
Asesiad
I gyflawni’r cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn cwblhau ystod o brosiectau/tasgau, trafodaethau dan arweiniad a phrofion amlddewis a osodir yn fewnol ac yn allanol.
Dilyniant
Gallwch symud ymlaen i raglen amser llawn ail flwyddyn yn y ddau faes crefft neu sicrhau prentisiaeth fel plymwr neu drydanwr a datblygu’ch astudiaethau gyda ni ar hyd un llwybr penodol.
Chwilio NPTC Group