Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De

Page 62

ED IG AET

H

OL

GA

LW

GA

LW

OL

EDIGAETH

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad o’r diwydiant sy’n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â’r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn.

Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr ym maes gofal iechyd. Gellir cyflogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu gallant ddod yn warchodwyr plant.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo. Mae Pennaeth yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn cadeirio Rhwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol Colegau Cymru ac yn eistedd ar weithgorau yn yr ardal leol mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol a sefydliadau cysylltiedig.

61

O fewn y cyrsiau ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd unedau dwyieithog ar gael i fyfyrwyr.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr iechyd a gofal plant, ac yn y Coleg byddwn yn datblygu eich sgiliau drwy leoliadau seiliedig ar waith cysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd. Byddwch yn cael eich annog i gwblhau cwrs iaith Gymraeg a gwella eich sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian.

Rhagolygon gyrfa

Gall ein cyrsiau arwain at yrfa fel athro, cynorthwyydd addysgu, ymarferydd gofal plant, therapydd iaith a lleferydd, nyrs, parafeddyg, a gwaith cymdeithasol. Mae llawer yn camu ymlaen i’r nifer fawr o raglenni gradd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn y Coleg cyn dechrau gweithio.

Byddwch yn feithringar gyda gyrfa ym maes gofal, iechyd a therapi Enillion blynyddol cyfartalog

Nyrsio Plant, Oedolion, Iechyd Meddwl £30k + Gwaith Cymdeithasol £23k-£47k

Therapydd Iaith a Lleferydd £24k-£49k Therapi Galwedigaethol £21k-£41k

Chwilio NPTC Group


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De by NPTC Group of Colleges - Issuu