ED IG AET
H
OL
GA
LW
GA
LW
OL
EDIGAETH
Garddio a Garddwriaeth Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy’n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a thirweddau a reolir.
Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy’n amrywio o ran maint o gwmnïau amlwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd llai. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyflogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi’u hyfforddi ym Mhrydain. Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy’n rhoi i chi’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda’n cyfleusterau gwych sy’n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi’u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau’r profiad awyr agored go iawn. Mae’r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grewyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd Fedal Aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.
Mae gwersi’n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio’r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profiad gwaith, gan ennill profiad gwaith gwerthfawr. Cewch hefyd gyfle i ddatblygu sgiliau menter trwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y flwyddyn! Bydd myfyrwyr hefyd yn mwynhau plannu a meithrin amrywiaeth o berlysiau a llysiau sy’n cael eu dewis yn ffres i’w gweini ym Mwyty Blasus yng Ngholeg Castell-nedd.
Rhagolygon Gyrfa b Gwaith Planhigfa b Dylunio gerddi b Lluosogi planhigion b Tirlunio b Gwyddoniaeth b Meddyg coed
b Canolfannau garddio manwerthu b Cynhyrchu planhigion b Gofal tir b Cynnyrch organig b Addysg b Hunangyflogaeth.
Y diwydiant garddio a garddwriaeth £30k - £60k 2384 o swyddi yng Nghymru erbyn 2024 (Gyrfa Cymru)
Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfa
Lefel Gofynion Mynediad
Hyd
Lleoliad
Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol
1
Dim cymhwyster ffurfiol.
Blwyddyn
Castell-nedd /Bannau
Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol
2
Cymhwyster Lefel 1 mewn Garddwriaeth
Blwyddyn
Castell-nedd /Bannau
Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith
3
Cymhwyster lefel 2 mewn Garddwriaeth neu brofiad priodol.
Blwyddyn
Castell-nedd
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed
Chwilio NPTC Group
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Enillion blynyddol cyfartalog
Beth fyddaf yn ei wneud?
58