Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De

Page 57

GA

ED IG AET

H

OL

LW

GA

LW

OL

EDIGAETH

Astudiaethau Sylfaen Mae ein rhaglenni sylfaen yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau allweddol o ran byw’n annibynnol, iechyd a llesiant, y gymuned a chyflogadwyedd drwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r cyrsiau a gynigir yn amser llawn neu’n rhan-amser ac mae gan y staff sy’n eu darparu ystod eang o arbenigedd galwedigaethol yn ogystal â phrofiad helaeth o weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pob cwrs yn cynnwys amserlen strwythuredig, cymorth astudio, ystafelloedd ymlacio/tawel, gweithgareddau cyfoethogi a chyflwyniad i fywyd yn y Coleg ac Addysg Bellach. Mae’r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, ac o’r safbwynt hwn daw mwy o hyder a sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen ar gyfer dysgu a bywyd.

Mae ein myfyrwyr yn creu siopau sydyn a mentrau symudol ac rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin cysylltiadau â sefydliadau cyflogaeth â chymorth fel Bspoked Enterprises , Shine Cymru a Polestone Support Ltd. Mae profiad gwaith hefyd wedi’i sefydlu drwy adran dysgu seiliedig ar waith y Coleg. Mae myfyrwyr yn cynnal asesiad cychwynnol o anghenion addysgol a sgiliau bywyd yn ystod y broses bontio a sefydlu. Mae tiwtoriaid wedyn yn gweithio gyda myfyrwyr i nodi eu nodau tymor hir a thymor byr - ac wedyn cytunir ar dargedau a llwybrau addas ar gyfer dilyniant a fydd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd. Mae ein cyrsiau’n cynnig cyflwyniad i’r Coleg i ddysgwyr a chyfleoedd i flasu gwahanol feysydd galwedigaethol megis adeiladwaith, garddwriaeth ac arlwyo a bydd dysgwyr wedyn yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am lwybrau dilyniant yn y dyfodol. Aeth dros 95% o fyfyrwyr ymlaen i gyrsiau astudiaethau sylfaen ar lefelau uwch, cyrsiau prif ffrwd yn y Coleg, cyflogaeth â chymorth neu wasanaethau gwirfoddol.

Byddwch yn ysbrydoledig gyda gyrfa mewn astudiaethau sylfaen Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch; dim ond awydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu a gynigiwn. Mae’n bosibl rhoi cynnig ar lawer o wahanol bynciau yn dibynnu ar eich diddordebau unigol. Mae hyn yn eich helpu i ddarganfod beth rydych chi’n ei fwynhau, beth ydych chi’n dda yn ei wneud a’ch helpu gyda’ch dewisiadau yn y dyfodol. Gallwch weithio ar eich lefel a’ch cyflymder eich hun, ond mae cymorth ychwanegol ar gael fel rhan o’r cwrs a, thrwy gymorth dysgu a thiwtorialau, rydym yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o anghenion. Mae’r staff yn athrawon cymwysedig, profiadol sydd â sgiliau arbenigol i gyflwyno’r cyrsiau a gynigir mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

Rydym yn cynnal digwyddiadau cyflogadwyedd a dilyniant gyda chyflogwyr ac asiantaethau cymorth. Mae’r ysgol yn cynnal nifer o weithgareddau menter a gwirfoddoli ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys cystadleuaeth sgiliau Cymru, twrnameintiau chwaraeon ILS ac, yn ddiweddar, Shed of the Year, Channel 4.

56


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.