ED IG AET
H
OL
GA
LW
GA
LW
OL
EDIGAETH
Dawns, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu’r Cyfryngau a’r Celfyddydau Perfformio wedi’u lleoli yng Ngholegau Castell-nedd ac Afan. Addysgir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar flaen y gad o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Canolfan y Celfyddydau Nidum.
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Byddwn yn rhoi’r cyfle i chi ymestyn eich dysgu a’ch sgiliau yn ein hacademi cerddoriaeth a chwmnïau theatr a dawns. Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a’r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicach oll, maent yn gyflogadwy iawn – rydym yn anelu at eich helpu i fod yn barod am yrfa!
49
Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni allgyrsiol helaeth gan gynnwys côr y Coleg, Bank Funk, a Chwmni Dawns LIFT a Gwobr Dug Caredin a llawer mwy.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae ein cyrsiau yn darparu cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn cerddoriaeth, cyfansoddi, dawns, drama, canu a theatr gerddorol. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Chanolfan y Celfyddydau Nidum sydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol.
Rhagolygon gyrfa b b b b b b b b b b b
Actor Gweinyddwr y celfyddydau Coreograffydd Dawnsiwr Therapydd cerddoriaeth neu ddrama Perfformiwr theatr gerddorol Cerddor Hyfforddwr Pilates/Ioga Sgriptiwr Athro Cyfarwyddwr theatr
Enillion blynyddol cyfartalog
Coreograffydd £50k+ Sgriptiwr £30k+ Cerddor £35k+
Dawnsiwr £37k+ Athro £50k+ Cyfarwyddwr Theatr £60k+
Chwilio NPTC Group