Mae Popeth Yn Dda gan Estyn Mae Grŵp Colegau NPTC yn cyflawni ei waith yn dda iawn, ac mae hyn yn swyddogol yn ôl Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Dyma’r arolygiad cyntaf ers yr uno, ac yn ôl Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth, ‘roedd cyflawni’r radd yn deyrnged wirioneddol i waith caled, ymroddiad a thalent staff a myfyrwyr.’ Nododd yr adroddiad fod ‘tîm arweinyddiaeth y coleg yn sefydledig a chydlynol’ a bod ‘cyfeiriad clir ac uchelgeisiol i waith y coleg.’ Dywedodd yr adroddiad fod arweinwyr yn gweithio’n fedrus i nodi a manteisio ar gyfleoedd i integreiddio gwaith y coleg â gweithgareddau cymunedol a chefnogi cyfleusterau lleol.
Beth ddywedodd yr arolygwyr… Mae dysgwyr yn datblygu ymddygiadau sy’n cefnogi eu dyheadau gyrfa ac yn teimlo bod y coleg yn eu paratoi’n dda ar gyfer dilyniant i ddysgu ar lefel uwch ac ar gyfer cyflogaeth.
Mae fforymau cyflogwyr y coleg a dargedwyd yn dod â rhanddeiliaid perthnasol at ei gilydd i fynd i’r afael ag anghenion datblygu economaidd a chymdeithasol.
Mae athrawon yn meddu ar gymwysterau a phrofiad da, gyda phrofiad defnyddiol ym maes diwydiant, masnach a busnes y maent yn ei gymhwyso’n dda i’w rolau.
Mae mwy na 7,250 o fyfyrwyr yn teimlo’n ddiogel yn y coleg ac yn gwybod ble i droi am ystod eang o gymorth.
Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o’u dysgwyr ac maent yn eu herio i ddatblygu gwybodaeth, cynhyrchu gwaith ymarferol a chwblhau tasgau theori i safon uchel.
Gwrandewir ar anghenion a phryderon.
Mae myfyrwyr yn teimlo bod eu rhaglen ddysgu yn eu helpu i wella eu medrau bywyd, eu rhagolygon cyflogaeth.
Mae dysgwyr yn cynhyrchu gwaith o safon gref yn eu gwersi a’u sesiynau ymarferol. Maent yn meithrin eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ac yn datblygu eu medrau academaidd, galwedigaethol ac ymarferol yn dda.
Mewn dosbarthiadau Safon Uwch, mae’r athrawon yn cyflwyno sesiynau bywiog sy’n ennyn diddordeb y dysgwyr yn dda. Maent yn helpu i strwythuro dealltwriaeth dysgwyr o gysyniadau, ac yn eu hannog i ddatblygu diddordebau pynciol ehangach.
Ar raglenni galwedigaethol, mae dysgwyr yn datblygu ac yn cymhwyso cymwyseddau ymarferol a galwedigaethol defnyddiol ac yn datblygu medrau galwedigaethol ar lefel uwch ac yn gwella eu hyder personol trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau.
Mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi gwerth chweil i wella eu hiechyd a’u lles cyffredinol. Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol sy’n ‘cyfrannu’n werthfawr at weithgareddau â ffocws cymunedol’, fel codi arian ar gyfer elusennau iechyd meddwl a helpu ysgolion lleol gyda phrosiectau amrywiol.
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Ymgysylltiad rhagorol â chyflogwyr ar draws ei hardal ddaearyddol sy’n helpu i ffurfio darpariaeth y coleg i ddiwallu’r angen lleol.
4