GA
ED IG AET
H
OL
LW
GA
LW
OL
EDIGAETH
Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig Adeiladu’r Dyfodol
Bydd cyfres newydd o gymwysterau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru sydd wedi’u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau’r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well. Nod y newid yw symleiddio’r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o’r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen at waith o addysg.
O fis Ionawr 2022 ymlaen, cynigiwn ddiploma lefel 1 mewn sgiliau Adeiladwaith ar gyfer y rheiny sy’n gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y diwydiant adeiladu. O fis Medi 2022, cynigiwn gwrs amser llawn Lefel 2 mewn adeiladwaith a’r amgylchedd adeiledig. Byddwch yn dewis o ddau brofiad crefft, gwaith coed, gosod brics a gweithiau tir. (Construction Civils).
Mae Sgiliau Adeiladwaith Lefel 1 yn gwrs amser llawn, addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith. Mae’r cwrs yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a diogelwch, a sesiynau ymarferol a theori o rai o’r canlynol yn dibynnu ar y Coleg o’ch dewis Gosod Brics, Plastro, Gwaith Saer, Peintio neu Deilsio.
Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig
Mae’r Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig yn gymhwyster newydd sbon lle rydych yn astudio dau brofiad crefft o’r canlynol: Gweithio gyda brics, blociau a cherrig Galwedigaethau pren Paentio ac Addurno Plastro a systemau mewnol Teilsio waliau a lloriau Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy’n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi’u hyfforddi o’r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyflogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â’r diwydiant gwerth chweil hwn. Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â’r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.
Unwaith eich bod wedi cyflawni’r cymhwyster hwn, efallai y bydd modd i chi gamu ymlaen i astudiaethau amser llawn neu brentisiaeth.
Chwilio NPTC Group
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Mae gan y Ganolfan Rhagoriaeth Adeiladwaith Maesteg ystod o gyrsiau amser llawn a rhan-amser mewn adeiladwaith ar bob lefel. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu ynghyd ag hyfforddiant i helpu pob myfyriwr i gyflawni hyd ei eithaf. Rydym yn frwdfrydig ynghylch eich helpu i gyflawni eich amcanion addysgol a dod o hyd i’ch swydd berffaith! Mae ein cyrsiau adeiladu yn canolbwyntio ar sgiliau y gellir eu cymhwyso’n uniongyrchol at y gweithle neu astudiaethau pellach, gan roi’r wybodaeth i chi gychwyn ar yrfa yn y diwydiant adeiladu.
Sgiliau Adeiladwaith (Aml-Grefft - Cyn Sylfaen)
46