Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De

Page 44

GA

ED IG AET

H

OL

LW

GA

LW

OL

EDIGAETH

Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol Gyda chyflogaeth yn y diwydiant TG a thelegyfathrebu yn tyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y degawd nesaf, mae TG a thechnoleg ddigidol yn prysur ddod yn un o’r gyrfaoedd sy’n denu’r tâl uchaf yn y DU. Yn 2018, tyfodd y diwydiannau 32% yn gyflymach na gweddill economi’r DU, gan greu cyfleoedd swyddi sy’n talu’n dda gyda 1.58 miliwn o swyddi ledled y DU. Y prif sectorau i weithio ynddynt yw datblygu meddalwedd ac apiau, rheoli data, seiberddiogelwch, dadansoddi data, caledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p’un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu’n dymuno gwella eich sgiliau cyfrifiadura. Mae cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio fel datblygwyr meddalwedd, datblygwyr CRM deinamig, dadansoddwyr data, technegwyr cymorth a gweithrediadau TG, datblygwyr y we ac e-fasnach, dadansoddwyr warws data, a dadansoddwyr systemau.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae gan ein darlithwyr ymroddedig brofiad o’r sector TG ynghyd â gwybodaeth benodol am y pwnc. Mae’r gwersi’n datblygu mewn ffyrdd creadigol gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o fywyd go iawn.

43

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn archwilio sut mae TGCh yn cael ei defnyddio mewn diwydiant drwy ddatblygu gwybodaeth, sgiliau technegol ac ymarferol sy’n benodol i’r sector, ynghyd â sut i gymhwyso’r sgiliau hyn mewn amgylchedd cysylltiedig â gwaith.

Rhagolygon gyrfa

Mae mwyafrif y myfyrwyr ar gyrsiau cyfrifiadurol a TG yn symud ymlaen i addysg uwch ac o fewn Grŵp Colegau NPTC, gallwn gynnig graddau i’n myfyrwyr ar garreg eu drws. Mae gennym lwybr dilyniant delfrydol lle, ar ôl cwblhau’r rhaglen Diploma Estynedig Lefel 3 Safon Uwch mewn disgyblaeth gysylltiedig yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i HND Cyfrifiadura (dwy flynedd) ac yna’r BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol (y drydedd flwyddyn). Er mwyn mynd ymlaen i addysg uwch neu sicrhau cyflogaeth mewn ystod o sefydliadau busnes a TGCh mae llawer o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau sy’n gysylltiedig â chyfrifiaduron. Mae rhai o’r sefydliadau sy’n cyflogi cyn-fyfyrwyr a graddedigion yn cynnwys Fujitsu, CBSCNPT, The Good IT Company, DVLA, 15 Below, CGI, ALTech UK a Virgin Media.

Mae’r adran yn defnyddio caledwedd a meddalwedd gyfoes, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio NET, Java NetBeans, Brackets, BFXR, Audacity a Game Maker. Darperir pob un o’r cyrsiau mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer darparu adeiladu PC a datblygu rhwydweithiau.

Sylwch, os ydych chi’n ystyried addysgu fel gyrfa, mae prifysgolion yn gofyn am TGAU gradd B neu uwch ar gyfer Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Ar gyfer cyrsiau Cyfrifiadureg mae rhai prifysgolion yn gofyn am isafswm o radd B mewn TGAU Mathemateg.

Mae cyflawniad ar ein rhaglenni ar hyn o bryd yn 99%, ac mae 100% o’r myfyrwyr BSc yn cael gwaith mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â chyfrifiadura o fewn tri mis ar ôl graddio.

Cyfleoedd gyrfa posib: datblygwyr meddalwedd, datblygwyr CRM deinamig, dadansoddwyr data, technegwyr cymorth a gweithrediadau TG, datblygwyr gwe ac eFasnach, dadansoddwyr warws data, a dadansoddwyr systemau.

Chwilio NPTC Group


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De by NPTC Group of Colleges - Issuu