Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De

Page 43

ED IG AET

H

OL

GA

LW

GA

LW

OL

EDIGAETH

Peirianneg Sifil a Rheoli Adeiladwaith Mae Peirianwyr Sifil yn creu, gwella a diogelu’r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Mae’r ddisgyblaeth yn ymwneud â dylunio, adeiladu a rheoli ein hamgylchedd adeiledig a naturiol, gan gynnwys ffyrdd, adeiladau a phontydd. Mae Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Adeiladwaith a Pheirianneg Sifil, yn cyfateb i 3 Safon Uwch ac mae’n gam gwych tuag at y brifysgol i’r rhai sy’n hoff iawn o fathemateg, yn mwynhau ffordd fwy ymarferol o ddysgu a sydd â diddordeb mewn Pensaernïaeth, Adeiladau, Dylunio neu sydd efallai’n ystyried dod yn Syrfëwr Meintiau. Mae’r cwrs yn cynnwys 18 uned, sy’n cynnwys lluniadu CAD, Arolygu Safleoedd, Adeiladwaith Cynaliadwy, Gwyddoniaeth a Deunyddiau ym maes Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, Mathemateg, ac Iechyd, Diogelwch a Lles. Rydym yn disgwyl y bydd ein myfyrwyr yn gyflogedig ar sail ran-amser. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro fel bod gwaith rhan-amser yn ymarferol, ac yn dal i adael amser i gwblhau gwaith coleg gartref. Mae asesu ar ffurf profion, aseiniadau ac ymarferion ymarferol cyfnodol yn ystod y cwrs.

Cyfleoedd gyrfa Mae’r cyfleoedd gyrfa yn y sector adeiladwaith a pheirianneg sifil yn ddiddiwedd, gan gynnwys proffesiynau fel Pensaernïaeth, Pensaernïaeth Fewnol, Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu, Arolygu Meintiau, Rheoli Safleoedd ac Arolygu Adeiladau. Mae’r galwedigaethau technegol a phroffesiynol yn y sector yn symud yn gyflym ac yn heriol. Gallech fod yn rhan o weithio ar brosiect yn ei gyfanrwydd, o’r cam dylunio i’r adeiladu a’r cwblhau. Gallai’r prosiectau hyn gynnwys datblygu ac adeiladu pontydd, twneli, ffyrdd, rheilffyrdd, argaeau, adeiladau mawr, prosiectau arfordirol, gorsafoedd pŵer a safleoedd ynni adnewyddadwy newydd. At hynny, fe allech chi barhau â phrentisiaeth dechnegol neu broffesiynol ar Lefel 3 a 4, Addysg Uwch, HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil), HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Arolygu Meintiau).

Cwrs Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad

3

Lleoliad

2 Flynedd

Castellnedd

Enillion blynyddol cyfartalog

Hyfforddeion a Phrentisiaid Graddedig £18k-£28k Peiriannydd Sifil Graddedig £23k-£28k Peiriannydd Sifil Siartredig (ICE) £50k

Chwilio NPTC Group

Cymrawd Peiriannydd Sifil (ICE) £81k Rheolwr Prosiect £45k-£60k Syrfëwr Meintiau £35k-£60k Pensaer £45k-£80k

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

BTEC Diploma Estynedig mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil/Rheoli Adeiladwaith)

5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys naill ai Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a Gwyddoniaeth. 6 TGAU os mai dim ond Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a gyflawnwyd. BTEC Tystysgrif Gyntaf neu Ddiploma mewn Adeiladwaith ar lefel Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Hyd

42


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.