GA
ED IG AET
H
OL
LW
GA
LW
OL
EDIGAETH
Gwyddoniaeth Gymhwysol
Mae’r cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol yn eich arfogi ag amrywiaeth o sgiliau gwahanol a sylfaen wybodaeth wyddonol eang sy’n rhychwantu bioleg, cemeg a ffiseg, gan roi cyfleoedd i chi wneud cais i ystod eang o gyrsiau prifysgol. Mae gan y BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 lwybr cyffredinol cymhwysol a llwybr arbenigol dewisol rhwng uned fiomeddygol ac uned wyddor fforensig.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 60% o waith cwrs, tra bod 20% yn seiliedig ar arholiad ac 20% o waith cwrs wedi’i farcio’n allanol. Rhai o’r unedau y byddwch yn eu hastudio yw gwyddor fiofeddygol, tystiolaeth fforensig, casglu a dadansoddi, egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth, geneteg, sgiliau ymchwilio gwyddonol, technegau labordy, ffisioleg systemau’r corff dynol, materion cyfoes mewn gwyddoniaeth a chemeg organig. Bydd gofyn i chi ymgymryd â rhaglen o aseiniadau drwy gydol y cwrs, ac arholiadau allanol mewn dwy uned. Bydd y rhain yn cynnwys asesu sgiliau ymarferol a’r gallu i weithio’n ddiogel. Mae’n hanfodol eich bod yn drefnus iawn ac yn cwrdd â therfynau amser.
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Rhagolygon gyrfa
39
Mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys biocemegydd, radiolegydd, radiograffydd, awdiolegydd, cemegydd, biolegydd, parafeddyg, ceiropractydd, gofal iechyd, gwyddor fforensig.
Llwyddiant Myfyrwyr Ellie Pits: Lefel 3 mewn Gwyddor Fforensig
Pam dewisoch chi’r cwrs yma? “I ddechrau roeddwn i eisiau astudio troseddeg yn y brifysgol felly penderfynais gymryd gwyddor fforensig i gael y profiad ymarferol yn ogystal â’r profiad yn y llys. Yn y coleg, fe gyrhaeddais rowndiau terfynol World Skills Cenedlaethol y DU yn yr NEC yn Birmingham, lle cefais ganmoliaeth uchel, sy’n golygu fy mod i’n un o’r goreuon yn y DU. Roedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd, a byddwn yn argymell bod unrhyw fyfyriwr sy’n meddwl am gystadlu yn mynd amdani. Mae’n edrych yn wych ar eich CV neu gais UCAS ac yn rhoi llawer o hyder i chi. Ar ôl y Coleg rwy’n bwriadu mynd i’r brifysgol i astudio Gwyddor Fforensig, yna Meddygaeth i ddod yn Batholegydd Fforensig yn y pen draw.”
Enillion blynyddol cyfartalog
Gwyddonwyr Biolegol a Biocemegwyr £45k Archwiliwr Safleoedd Troseddau £17k-£35k Troseddegydd £25k-£28k Ymchwilydd Tân £70k Gwyddonydd Fforensig £20k Radiograffydd £40k Parafeddyg £36k
Cyrsiau Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa
Lefel Gofynion Mynediad
Hyd
Lleoliad
BTEC Diploma Estynedig mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
3
5 TGAU A-C, yn cynnwys graddau C mewn Gwyddoniaeth Ddwbl.
2 Flynedd
Castellnedd
BTEC Tystysgrif Estynedig mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
3
6 TGAU A-C, yn cynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth Ychwanegol a Saesneg gradd C neu uwch.
2 Flynedd
Castellnedd
Blwyddyn
Castellnedd
Blwyddyn
Castellnedd
Mynediad i AU – Gofal Iechyd
3
Mynediad i AU - Gwyddoniaeth
3
Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr 19 oed ac hŷn sy’n gobeithio dychwelyd i addysg. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfweliad llwyddiannus. Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr 19 oed ac hŷn sy’n gobeithio dychwelyd i addysg. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfweliad llwyddiannus.