GA
ED IG AET
H
OL
LW
GA
LW
OL
EDIGAETH
Atgyweirio Cerbydau a Chyrff Cerbydau Mae dechrau gyrfa mewn atgyweirio mecanyddol neu gerbydau yn golygu gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirywiad yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gerbydau bob amser. Os ydych yn mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, gwneud gwaith ymarferol, gweithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, neu fod gennych lygad creadigol neu gariad at waith adfer – yna mae gyrfa yn gweithio gydag unrhyw gerbyd yn aros amdanoch chi. Mae’r adran Academi Fodurol yng Ngholeg Pontardawe’n gartref i Academi Cerbydau Modur o’r radd flaenaf, a noddir a hyrwyddir gan Snap-On Tools, sef Rolls Royce offer.
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Mae'r gweithdy hwn o'r radd flaenaf yn cynnwys deg ramp ceir, ramp alinio pob olwyn, bae profi ATL ar ffurf MOT a bae glanhau, ac amrywiaeth o offer diagnosteg SNAP-on a Pico.
35
Mae ein cyfleuster newydd sbon yng Ngholeg Pontardawe wedi’i adeiladu at y diben i fanyleb y diwydiant, ac rydym yn ddiweddar wedi lansio gweithdy atgyweirio cyrff cerbydau modur newydd yno, gyda bythau chwistrellu modern, ystafell cymysgu paent, bwth adnewyddu olwynion a bae gwresogi dwysedd uchel o’r radd flaenaf a noddir a hyrwyddir gan gwmnïau megis offer DeVilbiss.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd ac atgyweirio difrod i’r cerbyd ei hun a’i gorff yn gywir yn barod i’w orffennu. Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleusterau rhagorol.
Rhagolygon Gyrfa
Fel arfer ceir cyflogaeth i beirianwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ffyrdd neu sefydliadau mawr gyda fflyd o gerbydau. Ar lefel technegydd byddwch yn cyflawni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifiadur. Mae’r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, ac yn cynnwys llawer o waith datrys problemau. Mewn cwmnïau mwy o faint, mae fel arfer yn bosibl ennill dyrchafiad i swyddi goruchwylio a rheoli. Mae gyrfaoedd ar yr ochr Atgyweirio Cyrff ac Ailorffennu Cerbydau Modur fel arfer mewn garejys, busnesau cyrff cerbydau modur a’r diwydiant chwaraeon modur sy’n arbenigo mewn atgyweirio cerbydau ar ôl difrod mewn damweiniau. Mae’r sgiliau dan sylw o ran atgyweirio ac ailorffennu cerbydau modur yn amrywio o waith ar baneli i lanhau, weldio MIG ac unioni diffygion paent.
Mae gan yr adrannau cerbydau modur yng Ngholeg Bannau Brycheiniog hefyd weithdai â’r holl gyfarpar angenrheidiol gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a ffurf siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel a chyfleusterau glanhau chwistrellwyr uwchsain ASNU.
Chwilio NPTC Group