SAFON
Academi’r 6ed Dosbarth
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Mae Academi'r Chweched Dosbarth yng Ngholeg Castell-nedd yn lle bywiog a deinamig i astudio gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf gan gynnwys ein canolfan Academi'r Chweched Dosbarth newydd arobryn. Mae Academi'r Chweched Dosbarth yn rhoi amgylchedd cefnogol, meithringar ac academaidd i'n myfyrwyr yn ogystal i sicrhau eich bod yn cael eich herio i gyflawni eich llawn botensial. Mae Academi'r Chweched Dosbarth wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ochr yn ochr â'u prif gwrs astudio. Felly, bydd y rhan fwyaf o'n dysgwyr yn cwblhau'r Dystysgrif Her Sgiliau ochr yn ochr â'u prif gymhwyster. Byddwn yn eich paratoi ar gyfer bywyd prifysgol drwy annog dysgu annibynnol mewn amgylchedd chweched dosbarth.
17
Un o'r nifer fawr o fanteision o ran astudio yn Academi'r Chweched Dosbarth yw'r ystod eang o ddewisiadau pwnc. Rydym yn cynnig dros 40 o bynciau Safon Uwch ynghyd â Chyrsiau Galwedigaethol, TGAU a chyrsiau mynediad i Addysg Uwch a'r cymhwyster TBAR. Cyflwynir ein cyrsiau Safon Uwch gan staff profiadol sy'n arbenigwyr pwnc ac sy'n sicrhau cyfraddau llwyddo sy'n gyson uchel flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r cymorth y maent yn ei gynnig i fyfyrwyr heb ei ail gyda safonau uchel yn cael eu cynnal yn barhaus. Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudiaethau pellach ac yn symud i Addysg Uwch ac mae llawer ohonynt yn mynychu rhai o'r prifysgolion gorau yn y DU gan gynnwys Grŵp Russell ac Oxbridge. Gall gwneud y dewis cywir ar gyfer astudiaethau safon UG/U fod yn allweddol i'ch llwyddiant. Bydd staff Academi'r Chweched Dosbarth yn rhoi cyngor ac arweiniad cynhwysfawr i chi ynghylch y cyfuniadau o bynciau safon UG. Byddwn yn eich helpu i ddewis pynciau yr ydych yn eu mwynhau ac y mae gennych y cymhelliad i'w dysgu, a bydd hynny'n eich galluogi i symud ymlaen ar hyd eich llwybr gyrfa dewisedig.
Coleg Castell-nedd Canlyniadau Safon U/UG 2020/21
SAFON
L
SAFON
SAFON
SAFON U
A*- C %
A-E %
Hanes yr Henfyd Bioleg Astudiaethau Busnes Cemeg Cyfrifiadureg Troseddeg Dawns Drama/Astudiaethau Theatr Economeg Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg Iaith Saesneg Llenyddiaeth Astudiaethau Ffilm Celfyddyd Gain Ffrangeg Daearyddiaeth Almaeneg Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyfathrebu Graffeg Hanes TGCh Y Gyfraith Mathemateg Mathemateg (Bellach) Astudiaethau'r Cyfryngau Cerddoriaeth Addysg Gorfforol Ffotograffiaeth Ffiseg Seicoleg Astudiaethau Crefyddol Cymdeithaseg Sbaeneg Tecstilau Dylunio Tri Dimensiwn Teithio/Twristiaeth Cymraeg (2il Iaith)
50 84.7 79.5 67.4 78.6 88.1 100 100 80 79.2 70 100 66.7 85.7 100 64.7 100 85.2 100 96.9 78.6 81.8 64.3 100 80 85.7 91.7 100 76.5 85.1 89.5 74.6 77.8 87.5 100 100 83.3
100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100
CYFRADD LWYDDO
81.6% 100%