MAE'N TALU I DDYSGU
Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyflawni cymwysterau swyddbenodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen. Dyma'r llwybrau: b Cyfrifeg b Mecaneg Amaethyddol b Gweinyddiaeth Busnes b Adeiladwaith b Gwasanaethau Cwsmeriaid b Lletygarwch ac Arlwyo b Manwerthu b Atgyweirio Cyrff Cerbydau
b Amaethyddiaeth b Gofal b Gofal Plant a Gwaith b b b b
Chwarae Peirianneg Cerbydau Modur Arwain Tîm Rheolaeth.
Hyfforddeiaethau
Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddi i fyfyrwyr 16 i 18 oed sy'n canolbwyntio ar ddarparu: b Sgiliau cyflogadwyedd b Cyfle i roi cynnig ar wahanol swyddi b Mynediad i brofiad gwaith o ansawdd uchel.
Ar ddiwedd yr hyfforddeiaeth bydd modd i chi: b Symud ymlaen i hyfforddeiaeth neu brentisiaeth lefel 1 b Camu ymlaen i gwrs academaidd b Cyflawni gwaith gwirfoddol b Dilyn dewis gyrfa amgen.
b Ennill cyflog wrth ddysgu - cael eich talu b Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac wynebu
heriau newydd b Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol b Cyfleoedd rhagorol o ran dilyniant. Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael? b Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol: b Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2 b Prentisiaeth - Lefel 3 b Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.
Prentisiaethau
Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio. Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am brentisiaeth.
Prentisiaethau Gradd
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Grŵp Colegau NPTC wedi cael cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen Beilot Prentisiaethau Gradd newydd ar gyfer Cymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data ar gyfer y Fframwaith Prentisiaethau Gradd Digidol newydd.
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Beth yw manteision ymgymryd â hyfforddeiaeth? b Lwfans hyfforddi wythnosol b Teithio â chymhorthdal b Meithrin profiad hanfodol gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol b Cyfle i wella sgiliau Saesneg a Mathemateg b Adeiladu hyder b Gwella eich rhagolygon hirdymor a'ch potensial i ennill cyflog.
Pam dod yn Brentis?
14