Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De

Page 12

Eich Cais Eich Taith Eich Coleg Croeso i'r system ymgeisio ar-lein yma yng Ngrŵp Colegau NPTC. O drefnu dyddiadau ar gyfer cyfweliadau i ymchwilio i'r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi a chwblhau'r ffurflen gais mae gennych y gallu i reoli pob cam o'ch taith. Gallwch hefyd fewngofnodi i'ch cyfrif unrhyw bryd i weld lle'r ydych yn y broses.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cwrs iawn, dewis iawn! Gyda chynifer o ddewisiadau ar gael, deallwn y gall ddod at benderfyniad fod yn anodd. Rydym yma i'ch cefnogi drwy'r broses p'un a yw'n gymwysterau Safon U, cyrsiau galwedigaethol, dysgu rhan-amser neu brentisiaeth!

11

Felly sut ydych yn dewis? Gallwch ddarllen ein prosbectws cyrsiau amser llawn i ymchwilio i’ch opsiynau, pori ein gwefan ar gyfer syniadau, dod i ddiwrnod agored, neu fanteisio ar ein ap gyrfa anhygoel o'r enw 'Career Coach'. CADW MEWN CYSYLLTIAD Peidiwch ag anghofio bod modd i chi newid eich dewis gwrs ar unrhyw gam yn y broses, hyd at ymrestru!

Gwneud Cais am Safon U 1

Gwneud cais ar-lein yn: nptcgroup.ac.uk Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau Safon Uwch yr ydych am wneud cais amdano e.e. Ffrangeg. Cliciwch ar y botwm 'Dod o hyd i gwrs a gwneud cais' gwyn ar yr ochr dde i ddechrau'ch cais. Byddwch yn astudio tair neu bedair Safon Uwch, ond dim ond am un y mae angen i chi wneud cais. Gallwch naill ai glicio ‘Gwneud Cais Nawr’ o dudalen pwnc benodol neu gallwch wneud cais o’r dudalen Safon Uwch / Safon UG - Pob Cwrs. Bydd opsiwn i ychwanegu eich pynciau ychwanegol ar y ffurflen gais. Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r coleg, bydd angen i chi greu cyfrif ‘Prospect’ felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod. Defnyddir eich enw defnyddiwr i ffurfio rhan gyntaf eich cyfeiriad bost (cyn y @). Rhaid i’r Cyfrinair gynnwys o leiaf naw nod a chynnwys o leiaf un briflythyren, un llythyren fechan ac un rhif. Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurflen ac wedi clicio ‘cofrestru’, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arni - ond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais. Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol! E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen.

2

Trefnu eich cyfweliad

Rydym wrthi’n cynllunio ein cyfweliadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ar hyn o bryd, gweler y wefan os gwelwch yn dda. Mae cyfweliad yn gyfle i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio.

3

Cynnig Amodol

Pob lwc yn eich arholiadau TGAU, welwn ni chi ym mis Medi!

Wedi i chi drafod ein gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn rhoi eich cynnig amodol ar Prospect, y gallwch ei dderbyn ar unwaith.

4

Dod o hyd i’ch cais

Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen hafan. Bydd modd i chi weld pa gam yn y broses ymgeisio yr ydych wedi ei gyrraedd wrth edrych ar eich hafan!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn 22/23 Grŵp Colegau NPTC - De by NPTC Group of Colleges - Issuu