Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd

Page 48

Chwaraeon

Mae'r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus gyda galw sy'n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol. Mae gan y Coleg enw da sefydledig am lwyddiant mewn chwaraeon, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn ennill anrhydedd rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o gampau yn cynnwys Duncan Jones, Adam Beard, Daniel James a Chelsea Lewis. Rydym yn falch o'n canlyniadau rhagorol, a hynny ar y cae chwaraeon ac oddi arno a'r addysgu o ansawdd uchel sy'n sylfaen i’n llwyddiant. Ynghyd â gofal bugeiliol rhagorol, mae adran chwaraeon y Coleg yn ymgorffori’n harwyddair 'mwy nag addysg yn unig'. Mae gan lawer o'r staff chwaraeon brofiad yn chwarae a hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf sy'n amhrisiadwy wrth ddatblygu galluoedd chwaraeon myfyrwyr.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Beth fyddaf yn ei wneud?

47

Gallwch ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyflogaeth neu gwrs prifysgol addas.

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae'r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn defnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy'n cynnwys trac athletau, cae astro turf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofio. Ar y safle, mae gan yr Academi Chwaraeon ei chae hyfforddi ei hun a chanolfan cryfder a chyflyru o'r radd flaenaf, sydd wedi bod o fudd i ddatblygiad llawer o athletwyr dros y blynyddoedd, er enghraifft Dan Lydiate. Mae cefn gwlad o amgylch Bannau Brycheiniog hefyd yn cynnig llawer o weithgareddau anturus awyr agored fel cerdded mynyddoedd, canŵio a beicio mynydd; gall

pob myfyriwr gymryd rhan ar y cyd mewn gweithgareddau amrywiol naill ai fel rhan o'u cwrs, drwy'r rhaglen gyfoethogi neu'r cymhwyster Dug Caeredin sydd newydd ei sefydlu. Mae darlithwyr yn hyfforddwyr cymunedol sy'n cynnig hoci a gymnasteg, gyda Rhian Davies yn chwarae hoci dros Feistri Cymru. Gellir addysgu rhai modiwlau o'r BTEC Diploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon a CBC trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd modd i fyfyrwyr gwblhau eu haseiniadau yn ddwyieithog lle y bo'n bosibl.

Coleg Y Drenewydd

Mae Academi Pêl-droed Coleg y Drenewydd yn hyfforddi ac yn chwarae gemau cartref ar y cae 3G newydd ym Mharc Latham. Rydym hefyd yn defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn sy'n cynnwys y neuadd chwaraeon, y cae astroturf, stiwdio ffitrwydd ac ystafell ffitrwydd. b Byddwch yn elwa o staff sy'n ymroddedig i'r proffesiwn chwaraeon. Mae Gareth Watkins yn hyfforddwr pêl-droed gweithredol yn y gymuned ac mae Andrew Davies yn athletwr presennol tîm Prydain Fawr yn cynrychioli Cymru. b Mae ein partneriaethau â chlybiau busnes a chwaraeon lleol yn darparu cyfleoedd sy'n cyfateb eich cwrs â gyrfaoedd yn y dyfodol yn lleol neu ymhellach i ffwrdd.

Cyfleoedd Gyrfa

Gallai'r ystod eang o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig arwain at lawer o yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro addysg gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegwr chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog datblygu chwaraeon. Mae dilyniant academaidd yn cynnwys addysg uwch yn y Coleg neu mewn sefydliad arall. Gall rhai athletwyr elît ennill ysgoloriaethau i astudio dramor e.e. golff yn America.

Chwilio NPTC Group


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.