3 minute read

Trin Gwallt

Croeso i Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford, y cyntaf a o'i math a'r unig un yng Nghymru.

Yn fwy nag ardystiad gan rywun enwog, mae'r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hunan ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff gwallt a gwaith barbwr profi adol ein hunain. Byddwch yn dysgu 'ryseitiau' sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ac sy'n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o'r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU. Mae'r rhain yn hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol na allwch eu cael yn unrhyw le arall.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn hyd at 22 o sgiliau a thechnegau sylfaenol y byddwch yn eu dysgu i'r hyn y mae Lee yn ei alw'n 'safon Michelin'. Unwaith y byddwch wedi meistroli'r technegau hyn, cewch eich annog i ddefnyddio eich creadigrwydd yn rhydd.

Gellir profi 'r sgiliau hyn mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda myfyrwyr Academi Lee Stafford eraill mewn colegau AB ledled y DU yn ystod y fl wyddyn academaidd.

Rydyn ni'n anelu at sicrhau bod ein myfyrwyr trin gwallt a gwaith barbwr gyda'r rhai mwyaf cyfl ogadwy yn y wlad, felly os ydych chi o ddifri am wallt, Grŵp Colegau NPTC yw'r lle i chi!

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyfl yru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu. Wedi cyrraedd lefel 3, byddwch yn cyfl awni sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae'n rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf un diwrnod yr wythnos neu bythefnos gyfan ynghyd â sesiwn fasnachol gyfnos/gyda'r hwyr yn y Coleg.

Rhagolygon gyrfa

Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant gwallt yn cynnig cyfl eoedd gwych gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn a gweithio y tu ôl i'r llenni mewn ffi lm, theatr a theledu. Mae hefyd yn cynnig yr annibyniaeth i ddechrau eich salon eich hun.

b Gwaith barbwr b Technegwyr lliw b Perchennog salon b Uwch steilydd b Triniwr gwallt priodas b Gweithio ar fordeithiau.

"Yr hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl gan Academi Lee Stafford yw ryseitiau o ansawdd da sy'n hawdd ac yn arbennig o effeithiol, y gallwch eu defnyddio i fynd allan i'r byd mawr a chael swydd wych." Lee Stafford

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Cyflwyniad i Wasanaethau Gwallt a Harddwch 1 2 TGAU gradd D neu uwch

VTCT Diploma mewn Trin Gwallt Menywod VTCT VRQ Diploma mewn Trin Gwallt Atebion creadigol - Trin Gwallt Carlam 2

3

1/2 Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt, a 2 TGAU gradd D neu uwch

18 oed neu drosodd ac wedi cyfl awni'r Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

2 TGAU neu gyfweliad llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr aeddfed.

Hyd Lleoliad

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Blwyddyn

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Bannau/Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Perchennog Salon hyd at£100k Uwch Steilydd £30k - emsi Triniwr Gwallt Priodasau £34 - £50 y person (heb gynnwys treialon) Barbwr Gall barbwr proffesiynol ennill cymaint â £1,000 yr wythnos

https://www.londonschoolofbarbering.com/much-can-barber-make/

This article is from: