
4 minute read
Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu'r Dyfodol
Bydd cyfres newydd o gymwysterau yn cael eu cyfl wyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyfl ogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well.
Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi’ch paratoi'n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o'r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen at waith o addysg.
Sgiliau Adeiladwaith (Aml-Grefft - Cyn Sylfaen)
Mae Sgiliau Adeiladwaith Lefel 1 yn gwrs amser llawn, addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith. Mae'r cwrs yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a diogelwch, a sesiynau ymarferol a theori o rai o'r canlynol yn dibynnu ar y Coleg o'ch dewis - Gosod Brics, Plastro, Gwaith Saer, Peintio neu Deilsio.
Mae Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig yn gymhwyster newydd sbon lle rydych yn astudio dau brofi ad crefft o'r canlynol: Gweithio gyda brics, blociau a cherrig Galwedigaethau pren Paentio ac Addurno Plastro a systemau mewnol Teilsio waliau a lloriau Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyfl ogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyfl ogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.
Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â'r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfl e i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofi ad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r myfyriwr. Mae llawer o'n staff yn gyn-fyfyrwyr y coleg ac yn deall sut i wneud dysgu'n ddiddorol ac yn ddifyr ac yn gallu cael y gorau allan o'r myfyrwyr.
Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch yn eich dewis lwybr. Byddwch hefyd yn dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.
Asesu
I gyfl awni'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau: Un prawf amlddewis sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn allanol Un prosiect yn cwmpasu dau faes crefft, sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi'i gosod yn allanol, a'i marcio yn fewnol Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol.



Llwyddiant Myfyrwyr
Mae'r Ysgol Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig ar ben ei digon, gan i'w chasgliad o fedalau gyrraedd ffi gyrau dwbl yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar. Enillwyd medalau aur ym mhob un o'r pedair crefft a gynigir yn y Coleg gan gynnwys y myfyriwr Peintio ac Addurno Paul Mason, Kellan Marney o Waith Brics, y Plastrwr Johnny Donaldson a'r saer benywaidd Sammy Young. Yna daeth medalau arian i Thomas Morgan, Gwaith Saer, Kian Brown, Plastro a Craydon Rive o Waith Brics ac yna Efydd gan Mai Ball mewn Peintio ac Addurno, Thomas Johns o blastro a'r saer Dafydd Jenkins. Enillwyd deg medal anhygoel i gyd, gan wneud y canlyniadau hyn y gorau y mae'r ysgol wedi'u cyfl awni erioed. Mae Cystadlaethau Sgiliau yn ffordd wych o ymestyn a herio myfyrwyr y tu hwnt i'w gwaith cwrs.
Dilyniant
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladu neu'r amgylchedd adeiledig ynghyd â gwybodaeth a sgiliau rhagarweiniol mewn dau lwybr o’ch dewis. Mae'r cymhwyster yn darparu'r wybodaeth i symud ymlaen i astudiaeth bellach: Dilyniant mewn Adeiladwaith Lefel 2 (Amser llawn) - City & Guilds Adeiladwaith Lefel 3 Dwy fl ynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds Adeiladwaith Lefel 3 Tair blynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds Mae'r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth yn y sector yn eu dewis grefft.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Mae'n addas ar gyfer: Dysgwyr 16+ oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector adeiladwaith a'r amgylchedd adeiledig neu'n bwriadu gwneud hynny. Gweithwyr safl eoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol. Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyfl awni, neu fod yn gweithio tuag at eu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol eraill ar gyfer y cymhwyster hwn.
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Tystysgrif mewn Adeiladwaith (Aml-Grefft / Cyn-sylfaen) 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfi ol
Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig 2 TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch.
DEWISWCH O DDAU BROFIAD CREFFT ISOD: Gwaith Coed a Gwaith Saer/Toeon
Gwaith Brics / Adeiladwaith Sifil Peintio ac Addurno / Teilsio Waliau a Lloriau Hyd Lleoliad
Blwyddyn Bannau Y Drenewydd
Blwyddyn Bannau Y Drenewydd
Bannau Y Drenewydd
Bannau Y Drenewydd
Y Drenewydd
Enillion blynyddol cyfartalog