3 minute read

Garddio a Garddwriaeth

Next Article
Peirianneg

Peirianneg

Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy'n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a thirweddau a reolir.

Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy'n amrywio o ran maint o gwmnïau amlwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd llai. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyfl ogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi'u hyfforddi ym Mhrydain.

Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda'n cyfl eusterau gwych sy'n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi'u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau'r profi ad awyr agored go iawn. Mae'r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grewyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd Fedal Aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae gwersi'n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio'r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyfl ogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profi ad gwaith, gan ennill profi ad gwaith gwerthfawr. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfl e i ddatblygu sgiliau menter trwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y fl wyddyn!

Rhagolygon gyrfa

b Gwaith planhigfa b Canolfannau garddio manwerthu b Dylunio gerddi b Lluosogi planhigion b Gofal tir b Cynhyrchu planhigion

b Tirlunio b Cynnyrch organig b Gwyddoniaeth b Addysg b Meddyg coed b Hunangyfl ogaeth.

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfi ol Blwyddyn Bannau / Y Drenewydd

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol 2 Cymhwyster Lefel 1 mewn garddwriaeth Blwyddyn Bannau / Y Drenewydd

Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith 3 Cymhwyster lefel 2 mewn Garddwriaeth neu brofi ad priodol. Blwyddyn Bannau / Y Drenewydd

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed

Arloesi newydd - Wal Letys yng Ngholeg y Drenewydd

Mae Coleg Y Drenewydd yn dangos eu bysedd gwyrdd wrth iddo gyfl wyno cwrs Garddwriaeth newydd. Mae'r ychwanegiad newydd cyffrous hwn wedi dod â chydweithrediad newydd gyda Cultivate, a menter newydd wrth gyfl wyno wal letys i Gyntedd Coleg Y Drenewydd.

Mae ychwanegiad trawiadol y twr letys yng nghyntedd Coleg Y Drenewydd yn rhan o'r prosiect Cylch Cnydau, system Farm Urban i drin letys a llysiau gwyrdd eraill gan ddefnyddio system o dyrau fertigol heb bridd. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru i gyfl wyno CEA tyfu dan do o gnydau bwyd i mewn i gymunedau. Er ein bod yn byw mewn amgylchedd gwledig, mae ffyrdd newydd o feithrin planhigion, gan ddefnyddio'r hyn a elwir yn hydroponeg, yn chwyldroadol ac yn tyfu mewn poblogrwydd.

Mae bwyd lleol, wedi'i dyfu'n gynaliadwy, yn gwbl allweddol wrth fynd i'r afael â materion pwysig sy'n ymwneud â'n system fwyd, newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

Dywedodd Richard Edwards, rheolwr prosiect Cylch Cnydau Cultivate: "Maen nhw'n blasu'n wych, yn faethlon iawn ac yn hynod ffres, ymwelwch â'n Deli yn Y Drenewydd i roi cynnig arnyn nhw eich hun!"

Enillion blynyddol cyfartalog

This article is from: