
1 minute read
Career Coach
Career Coach - cyngor gyrfaol wedi’i deilwra gan ddefnyddio gwybodaeth leol am y farchnad swyddi
Pan fydd gan fyfyrwyr weledigaeth glir o’r dyfodol, maen nhw’n fwy tebygol o ragori yn eu hastudiaethau a mynd ymlaen i greu gyrfaoedd llwyddiannus. Mae Career Coach yn offeryn ar-lein am ddim sydd ar gael gan Grŵp Colegau NPTC a all helpu i lunio’r weledigaeth honno.
Gan ddefnyddio data cynhwysfawr am y farchnad swyddi, gall Career Coach eich helpu i ddod o hyd i’ch swydd berffaith a’r cyrsiau a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno!
Mae asesiad ar-lein manwl Career Coach yn awgrymu gyrfaoedd sy’n seiliedig ar eich diddordebau a’ch sgiliau. Gyda gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur, enillion disgwyliedig a nifer y swyddi yn yr ardal, mae Career Coach yn tynnu sylw at y cyrsiau gorau i’ch helpu i symud ymlaen i’r yrfa o’ch dewis.
Mae Career Coach hefyd yn cysylltu â menter Barod am Yrfa y Coleg sydd wedi’i chynllunio’n benodol er mwyn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith. Mae Barod am Yrfa yn cynnig gweithdai ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau ac ymarfer, lleoliadau profi ad gwaith a chymorth gyda phob agwedd ar y broses ymgeisio.