4 minute read

Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae'r Sector Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cynnwys llawer o broffesiynau sy'n amddiffyn ac yn gwasanaethu'r boblogaeth ledled y byd. O achub dringwyr fel rhan o'r tîm Achub Mynydd, cael eu defnyddio yn y fyddin fel meddyg neu fynd i safl e damwain fel parafeddyg, heddwas neu ddyn tân, mae'r gweithwyr proffesiynol hyfforddedig hyn yn barod ar gyfer gwasanaeth gweithredol mewn unrhyw argyfwng.

Mae llawer o'r darlithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod ar ddyletswydd weithredol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol, eu teithiau a'u gweithgareddau i'ch ymgysylltu a sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'r nifer fawr o gyfl eoedd gyrfa sydd ar gael.

Mae'r adran yn cynnal ymweliadau addysgol ar draws y wlad i dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd posibl sydd ar gael yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan roi i fyfyrwyr ein hethos o 'fwy nag addysg yn unig'. mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gellir addysgu rhai modiwlau o'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle y bo'n bosibl.

Coleg Y Drenewydd

Ar gampws y Drenewydd gall y myfyrwyr astudio o'r cwrs cyfun L1 hyd at gwrs L3 UPS sy'n cynnwys y Lefel Uwch ym Magloriaeth Cymru. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cael eu hysgogi gan amrywiaeth o ddulliau addysgu ac yn yr un modd â Bannau Brycheiniog gallant ddefnyddio'r cefn gwlad o'u hamgylch ar gyfer eu halldeithiau niferus ac ymweliadau a phrofi adau â'r gwasanaethau brys lleol. Mae staff yn meithrin eu datblygiad ac mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu yrfaoedd addas yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Astudiwch yn amser llawn ar y gwahanol gampysau, gan gwblhau eich prif gwrs gan gynnwys llawer o asesiadau rhyngweithiol ac ymarferol, ynghyd ag ymgysylltu â'r llu o weithgareddau sydd ar gael ar draws y campysau.

Cyfleoedd Gyrfa

b Byddin b Gwylwyr y Glannau b Gwasanaethau brys b Gwasanaeth tân b Llynges b Swyddog yr Heddlu b Yr Awyrlu Brenhinol

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae Coleg Bannau Brycheiniog wedi'i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amgylchedd anhygoel i fyfyrwyr ymwneud ag ystod eang o weithgareddau gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr â'u cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus. Cynhelir ymweliadau addysgol a theithiau er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu'r sgiliau y Enillion blynyddol cyfartalog

Swyddog y Fyddin £20k Diffoddwr Tân £21k - £36k Parafeddyg £36k Swyddog Heddlu £25k

(Cyflog cychwynnol)

Ymuno â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu

Yn ddiweddar croesawodd Coleg y Drenewydd Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn. Ymunodd y Comisiynydd Troseddu â chydweithwyr o'r Uned Plismona Ffyrdd gan ddarparu sesiwn holi ac ateb gyda myfyrwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Yna, aeth i ymweld â myfyrwyr o'r adran Porth i Addysg bellach a gwelodd y gwaith yr oeddent wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar ar y cyd â Chwnstabl Jennings, heddwas lleol. Gwnaethon nhw greu arddangosiad trawiadol iawn i ymgyrchu yn erbyn troseddau casineb. Bu'r grŵp hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn adran cyfryngau'r Coleg i greu ffi lm fer i godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â throseddau casineb. Siaradodd y Comisiynydd yn gadarnhaol iawn am eu gwaith da, gan atgyfnerthu'r negeseuon a gwerth yr ymgyrch. Yna, aeth y Comisiynydd i ymweld â Theatr Hafren sydd wedi'i lleoli yng Ngholeg y Drenewydd. Gwelodd drosto'i hun y defnydd a wneir o'r cyfl eusterau a oedd yn cael eu defnyddio ar y pryd gan Wasanaeth Gwaed Cymru, ffaith a oedd yn tynnu sylw at y rôl amlbwrpas y mae'r theatr yn ei chyfl awni. Aeth Sara Clutton, Rheolwr y Theatr hefyd â'r Comisiynydd ar daith o amgylch y lleoliad gan ddangos ardal y llwyfan iddo a thaith nid i'r rhai gwan eu calon i ben y tŵr hefan.

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad

BTEC Tystysgrif Gyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai BTEC Tystysgrif Gyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

BTEC Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai a CBC 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfi ol. Blwyddyn Y Drenewydd

2

3 Cymwysterau TGAU mewn pynciau penodol yn ôl y gofyn a/neu Gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Amrediad priodol o gymwysterau TGAU A*-E neu Gymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Blwyddyn

2 Flynedd Bannau/ Y Drenewydd

Bannau / Y Drenewydd

Gellir dysgu rhai modiwlau trwy gyfrwng Cymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau asesiadau yn ddwyieithog pan fo hynny'n bosibl.

This article is from: