2 minute read

Therapi Harddwch

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

Therapïau Cymhwysol yn cynnwys Therapi Harddwch

Mae'r diwydiant harddwch a therapïau cymhwysol heddiw yn sector hynod ddiddorol, sy'n ehangu ac yn newid yn barhaus. Os ydych yn arloesol ac yn uchelgeisiol, nid oes unrhyw gyfyngiad ar eich potensial, boed mewn cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, coluro, perchennog salon, therapydd harddwch neu sefydlu eich cwmni harddwch eich hun!

Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant harddwch/therapïau cymhwysol yn cynnig cyfl eoedd disglair gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn fel artist coluro neu steilydd. Yr annibyniaeth i ddechrau eich salon neu'ch sba eich hun neu hyd yn oed ddod yn hyfforddwr yn y coleg ac ysbrydoli eraill i ymuno â'r busnes.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel rhan o Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol, byddwch yn cael eich addysgu mewn salonau blaenllaw y diwydiant gan weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant harddwch. Bydd cyrsiau'n ymdrin â choluro, therapïau tylino a chymwysiadau esthetig technegol megis siapio aeliau, lliwio amrannau ac aeliau, cwyro, trin dwylo, trin traed yn ogystal ag anatomeg a ffi sioleg, y croen a thwf gwallt.

Rhagolygon gyrfa

Dermatolegydd, technegydd amrannau, technegydd ewinedd, perchennog sba, therapydd harddwch llawrydd, ysgrifennwr harddwch, fl ogiwr harddwch.

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad VTCT NVQ Diploma mewn Therapi Harddwch VTCT VRQ mewn Triniaethau Therapi Harddwch VTCT mewn Therapïau Cymhwysol 2 5 TGAU gradd C neu uwch

3

3 Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gymhwyster cyfatebol Cymwysterau lefel 2 mewn therapi harddwch neu therapïau Cyfl enwol

Hyd Lleoliad

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Blwyddyn Bannau

Blwyddyn

Y Drenewydd

Mae Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford wedi bod yn dathlu llwyddiant eu myfyrwyr Therapi Harddwch yn seremoni wobrwyo rithwir cystadlaethau Sgiliau Cymru yn ddiweddar.

Yn ystod y ddwy rownd o Therapydd Harddwch (Dwylo ac Wyneb) ac ymarferydd Therapi Harddwch (Corff) cymerodd dwy fyfyrwraig o Goleg Y Drenewydd fedalau adref gyda hwy.

Diolchodd enillydd medal efydd, Ariyarnna Tidbury ei thiwtor cwrs Charlotte Smith am am ei chefnogaeth. "Diolch i'm tiwtor Charlotte a wnaeth fy annog yn fawr a rhoi hyder imi gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu cymryd rhan gan ei fod yn gyfl e anhygoel." Ymatebodd Charlotte, "Rwy'n falch iawn bod Ariyarnna wedi derbyn medal Efydd, mae'n gy awniad gwych iddi yn ystod blwyddyn heriol iawn."

Arweiniodd ail ragras y gystadleuaeth ymarferydd Therapi Harddwch (Corff) at Lucy Lewis, myfyrwraig Diploma Lefel 3 mewn Therapïau Cymhwysol o Goleg Y Drenewydd yn ennill medal efydd.

Dywedodd Lucy, "Rydw i ar ben fy nigon fy mod i wedi ennill medal am yr ail wyddyn yn olynol yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru. Diolch enfawr i'm tiwtor, Lisa Brandon, sydd nid yn unig wedi dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnaf i mi ond sydd hefyd wedi rhoi hyder i mi gystadlu mewn cystadlaethau fel hyn. Rwy'n edrych ymlaen at gystadlu mewn cystadlaethau yn y dyfodol."

“Roeddem yn falch iawn o gael myfyrwyr Ariyarnna Tidbury a Lucy Lewis yn ennill medalau Efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni". Darlithydd, Lisa Brandon

Byddwch yn awn steil... gyda gyrfa mewn harddwch a erapi cymhwysol

Enillion blynyddol cyfartalog

This article is from: