
4 minute read
Cyfrifiadura, Dylunio'r We a Gemau


Gyda chyfl ogaeth yn y diwydiant TG a thelegyfathrebu yn tyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y degawd nesaf, mae TG a thechnoleg ddigidol yn prysur ddod yn un o'r gyrfaoedd sy'n denu'r tâl uchaf yn y DU. Yn 2018, tyfodd y diwydiannau 32% yn gyfl ymach na gweddill economi'r DU, gan greu cyfl eoedd swyddi sy'n talu'n dda gyda 1.58 miliwn o swyddi ledled y DU.
Y prif sectorau i weithio ynddynt yw datblygu meddalwedd ac apiau, rheoli data, seiberddiogelwch, dadansoddi data, caledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae ein holl gyrsiau amser llawn wedi'u hanelu at fyfyrwyr sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn cyfrifi adura a TG. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyfl ogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau cyfrifi adura.
Mae cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio fel: datblygwyr meddalwedd, datblygwyr CRM deinamig, dadansoddwyr data, technegwyr cymorth a gweithrediadau TG, datblygwyr y we ac e-fasnach, dadansoddwyr warws data, a dadansoddwyr systemau.
Mae gan ein darlithwyr ymroddedig brofi ad o'r sector ynghyd â gwybodaeth benodol am y pwnc. Mae'r gwersi'n datblygu mewn ffyrdd creadigol gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Gall y myfyrwyr ymgymryd â phrofi ad gwaith mewn diwydiant.
Mae'r adran yn defnyddio caledwedd a meddalwedd gyfoes, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio NET, Java NetBeans, Brackets, BFXR, Audacity a Game Maker. Darperir pob un o’r cyrsiau mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer adeiladu PC a datblygu rhwydweithiau.
Ar hyn o bryd, mae cyfl awniad ar ein rhaglenni yn 99%, ac mae 100% o fyfyrwyr BSc yn cael gwaith mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfrifi adura o fewn tri mis i raddio.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn archwilio sut mae TGCh yn cael ei defnyddio mewn diwydiant drwy ddatblygu gwybodaeth, sgiliau technegol ac ymarferol sy'n benodol i'r sector, ynghyd â sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylchedd cysylltiedig â gwaith.
Rhagolygon gyrfa
Mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr ar gyrsiau Cyfrifi adura a TG yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ac o fewn Grŵp Colegau NPTC, gallwn gynnig graddau i'n myfyrwyr ar garreg eu drws. Mae gennym lwybr dilyniant delfrydol lle, ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig Lefel 3 neu raglen safon Uwch mewn disgyblaeth gysylltiedig yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r HND mewn Cyfrifi adura (2 fl ynedd) ac yna'r BSc (Anrh) mewn Cyfrifi adura Cymhwysol (blwyddyn 3).
I symud ymlaen i Addysg Uwch neu i gael cyfl ogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau TGCh mae llawer o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau cyfrifi adurol. Ymhlith y sefydliadau sy'n cyfl ogi cyn-fyfyrwyr mae Fujitsu, CBSCNPT, The Good IT Company, DVLA, 15 Below, CGI, ALTech UK a Virgin Media.
Sylwer os gwelwch yn dda os ydych yn ysytyried addysgu fel gyrfa, mae prifysgolion yn gofyn am TGAU gradd B neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth ac yn achos rhai cyrsiau Cyfrifi adureg, mae rhai prifysgolion yn gofyn am o leiaf gradd B mewn Mathemateg TGAU.
Rhagolygon Gyrfa Posib: Dylunio a Datblygu Medalwedd/ Apiau, Dylunio a Datblygu Gemau, Dylunio a Datblygu'r We/ Dadansoddi Systemau, Datblygu/Gweinyddu Cronfeydd Data, Cymorth Technegol, Rhwydweithiau a Diogelwch.
Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa ym maes cyfrifiadura, dylunio ar y we ac apiau




Llwyddiant Myfyrwyr
Cymerodd saith o fyfyrwyr Cyfrifi adura a TG hynod o dalentog ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar, gan ennill bron hanner y prif safl eoedd yn y categorïau Seiberddiogelwch, Sgiliau Codio a Dylunio'r We. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy'n cael ei chyfl wyno gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth mewn Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau, wedi'i chynllunio i godi proffi l sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae'r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu'r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi'i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills UK. Arian, Seiberddiogelwch: Joshua Roberts Arian, Seiberddiogelwch: Mitchell Wilkes Efydd, Seiberddiogelwch: Alex Griffi ths Efydd, Seiberddiogelwch: Dylan Rogers Arian, Sgiliau Codio: Dewi James Arian, Dylunio'r We: Luke Wooley Efydd, Dylunio'r We: Jamie Mellin
"Rwy'n hynod o falch o'r holl fyfyrwyr a fu'n cystadlu. Mae'n gyfl awniad arbennig sy'n dangos y dalent sydd yma yng Ngrŵp Colegau NPTC ac mae hefyd yn tystio i'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan ein staff addysgu." Eira Williams Pennaeth Ysgol
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad
Diploma mewn TG
Tystysgrif Estynedig mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol
Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn TG 1 2 TGAU (Gradd E neu F)
2 3 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith, neu Ddiploma Lefel 1 mewn pwnc perthnasol (Teilyngdod neu Ragoriaeth) Blwyddyn
Bannau/Y Drenewydd
3 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith. Ymgeiswyr drwy gyfrwng Tystysgrif Estynedig Lefel 2 neu Ddiploma mewn pwnc perthnasol (Teilyngdod neu Ragoriaeth) 2 Flynedd
Bannau/Y Drenewydd
Hyd Lleoliad
Blwyddyn
Bannau/Y Drenewydd
Enillion blynyddol cyfartalog
Rhaglennydd Cyfrifiaduron 30k Technegydd TG £30k Dadansoddwr Busnes £49k Peiriannydd Meddalwedd £32k Pensaer Systemau £50k Technegydd Cymorth Cyfrifiaduron/Rhwydwaith £19k Gweithredydd Cyfrifiaduron £23k Gweinyddwr Systemau, Cyfrifiaduron / Rhwydwaith £26k Arbenigwr Cymorth Technegol £24k Peiriannydd Diogelwch Rhwydwaith £36k