5 minute read

O Ddifri am Chwaraeon

Mae gan fyfyrwyr hefyd fynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel ym myd pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a rygbi. Cyfl wynir sesiynau hyfforddi fel rhan o raglen y Coleg ac maent yn ymwneud â datblygu technegau, sgiliau a thactegau ar lefel unigolyn, uned a thîm. Lle na ddarperir disgyblaeth chwaraeon benodol, mae cysylltiadau â chlybiau a sefydliadau lleol yn darparu'r arbenigedd hyfforddi.

Mae gan y Coleg record o lwyddiant chwaraeon wrth ennill pencampwriaethau cenedlaethol mewn amrywiaeth o chwaraeon a gall hefyd frolio 50+ o gapiau rhyngwladol ar draws ystod o chwaraeon: jiwdo, tenis bwrdd, hoci, rygbi, pêl-rwyd, pêl-droed, hwylio, beicio mynydd a badminton.

Os ydych o ddifri am chwaraeon, fel rhan o'r Academi Chwaraeon byddwch yn elwa o'r canlynol: b rhaglen hyfforddi strwythuredig sy'n cael ei goruchwylio gan hyfforddwyr profi adol; perfformiad personol sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm b cynllunnir sesiynau hyfforddi a darlithoedd i osgoi gwrthdaro diangen b y cyfl e i gystadlu yn nhimau chwaraeon llwyddiannus Grŵp Colegau NPTC b bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich dewis chwaraeon.

Os ydych yn cystadlu'n rheolaidd mewn camp ar gyfer timau clwb, sir neu genedlaethol ac â diddordeb mewn ymuno â'n Hacademïau Chwaraeon, cysylltwch â: www.nptcgroup.ac.uk RYGBI

b Enillwyr Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith) b Enillwyr Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith) b Enillwyr Cwpan Colegau Prydain b Enillwyr Rosslyn Park 7s b Enillwyr Coleg Super 15s

Myfyrwyr Rhyngwladol

b Ashley Beck b Justin Tipuric b Dan Lydiate b Adam Beard b James Hook b Lloyd Peers b James King b Eli Walker b Dan Baker b Dafydd Howells b Adam Jones b Duncan Jones b Darren Morris b Spencer John b Paul James b Leigh Davies b Arwel Thomas b Gwyn Jones b Craig Mitchell PÊL-RWYD

b Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru b Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out

Myfyrwyr Rhyngwladol

b Helen Jones (Case) b Chelsea Lewis b Amanda Cooper b Nicola James

PÊL-DROED

b Pencampwyr Cynghrair Cymru 2010-2011 a 2012-2013 b Pencampwyr Cymru 5 bob ochr 2013-2014 b Ail yn y Bencampwriaeth Gymreig 5 bob ochr 2011-2012 a 2012-2013

Myfyrwyr Rhyngwladol

b Daniel James b Ben Davies b Joe Allen b Connor Roberts b Joe Rodon b Jazz Richards

GEMAU PARALYMPAIDD

b Rob Davies (Tenis Bwrdd)

Daniel Jervis

Daniel Jervis

O Grŵp Colegau NPTC i’r Gemau Olympaidd

Cyrhaeddodd cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC, Daniel Jervis, rownd derfynol Olympaidd yn ei Gemau cyntaf yr haf hwn yn Tokyo. Daeth y nofi wr 25 oed o Resolfen yn 5ed yn rownd derfynol y dull rhydd 1500 metr yng ngemau gohiriedig yr haf hwn yn Japan.

Gwnaeth Jervis, a adawodd Grŵp Colegau NPTC yn 2014 ar ôl cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Peintio ac Addurno, ddechrau nofi o i gadw cwmni i’w dad-cu ar ôl iddo ddioddef trawiad ar y galon. Ymunodd Daniel ag ef yn y pwll ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.

Nid yw Jervis yn anghyfarwydd â chystadlu ar y lefel uchaf mewn Nofi o. Cystadlodd yn ei Gemau’r Gymanwlad cyntaf yn 2014 o fewn wythnos i raddio o Grŵp Colegau NPTC.

Daeth Daniel yn 3ydd yn y dull rhydd 1500 metr yng ngemau Glasgow yn 2014. Yna fe wellodd ar hynny yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia gan ennill medal arian eto yn y dull rhydd 1500 metr. Yn yr un gemau, fe fethodd o drwch blewyn i ennill ail fedal, gan orffen yn 4ydd agos yn y dull rhydd 400 metr. Mae Daniel hefyd wedi cael profi ad o gystadlu ym Mhencampwriaethau’r Byd ac Ewrop ar sawl achlysur ers gadael y coleg.

Ar ôl colli allan ar gystadlu yng Ngemau Olympaidd Rio 2016, cafodd Daniel gyfl e o’r diwedd i wireddu ei freuddwyd o gystadlu yn y Gemau Olympaidd yr haf hwn.

Dywedodd Jervis wrth gael ei gyfweld gan y BBC ar ôl ei rownd derfynol: “Ydw, rydw i’n rhan o Dîm Prydain Fawr ac rwy’n Brydeiniwr ond rwy’n Gymro, ac rwy’n falch iawn o gynrychioli Cymru yno,” gan gyfeirio at y pwll y tu ôl iddo.

Yna aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi gobeithio torri record Prydain yn rownd derfynol y 1500 metr, ond ni wnaeth hynny ddigwydd ar y noson. Ychwanegodd Jervis ei fod yn anelu at dorri’r record Brydeinig sydd ar hyn o bryd yn eiddo i’w gyd-Gymro David Davies. Dan Lydiate

Dan Lydiate

Y Gweilch, Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon

Roedd y cyn-fyfyriwr Chwaraeon Dan Lydiate yn fyfyriwr BTEC Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Lefel 3 yng Ngholeg Powys. Yn fab i ffermwr lleol o Abaty Cwm Hir, Llandrindod, aeth ymlaen i astudio Gradd Sylfaen mewn Cryfder a Chyfl yru yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.

Yn fl aenasgellwr talentog, symudodd ymlaen i yrfa rygbi broffesiynol gan ymuno â Dreigiau Casnewydd lle, yn ei fl wyddyn gyntaf, cafodd ei gapio gyda Chymru dan 20 oed.

Enwyd Dan yng ngharfan Genedlaethol Cymru ar gyfer cyfres ryngwladol Tachwedd 2009, gan ymddangos am y tro cyntaf fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn yr Ariannin ar 21 Tachwedd 2009.

Chwaraeodd bob gêm yn ymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad Cymru 2011 yn ogystal â phob un o'r pedair gêm gynhesu. Ym mis Awst 2011, cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd. Roedd hefyd yn ddiweddarach yn aelod o garfan Cwpan y Byd 2015 yn Lloegr.

Chwaraeodd yn nwy gêm agoriadol Cymru yn erbyn De Affrica a Samoa, ynghyd â chwarae rhan allweddol ym muddugoliaeth Cymru dros Iwerddon yn y rownd gogynderfynol.

Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012, derbyniodd wobr Chwaraewr y Twrnamaint ar ôl chwarae ym mhob gêm ar wahân i'r un agoriadol yn erbyn Iwerddon a derbyn gwobrau Chwaraewr y Gêm. Yn yr union fl wyddyn hon y cafodd ei enwebu hefyd ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru.

Ym mis Ebrill 2013, fe'i enwyd yn y garfan ar gyfer taith Llewod Prydain ac Iwerddon 2013 i Awstralia. Gadawodd Dreigiau Casnewydd Gwent ar ddiwedd tymor 2012/13 i ymuno â’r clwb Racing Métro 92 cyn dod yn aelod o'r Gweilch yn 2014, y mae eu maes hyfforddi, mewn gwirionedd, yw Academi Chwaraeon Llandarcy y Coleg.

Wrth siarad am ei amser yn y Coleg dywedodd Dan Lydiate: "Heb raglen cryfder a chyfl yru’r coleg ni fyddwn wedi gallu cyfl awni’r lefelau hyn, dyna wnaeth y gwahaniaeth, ac mae cystal ag unrhyw system yn y byd rygbi proffesiynol."

This article is from: