4 minute read

Peirianneg

Bydd gyrfa mewn peirianneg yn cynnig cyfl og ardderchog, llawer o amrywiaeth yn eich gwaith a lefelau uchel o foddhad yn y swydd. Pa bynnag ddisgyblaeth a ddewiswch, gall adeiladu sylfaen gref o wybodaeth gyda chwrs peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC eich roi ar ben ffordd ar eich taith i lwyddiant.

Byddwch yn ennill sgiliau eraill ehangach ar gyfer cyfl ogadwyedd, sef Saesneg, Mathemateg a TG, sgiliau dysgu personol a sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. Mae'r rhain yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyfl ogwyr a byddant yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol mwy cyfl awn a chyfl ogadwy. Mae ein perthynas agos gyda'r diwydiant yn sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan roi'r hyfforddiant gorau posibl i chi.

Beth fyddaf yn ei wneud?

PEIRIANNEG FECANYDDOL/CYNNAL A CHADW Mae Peirianneg Fecanyddol/Cynnal a Chadw yn cynnwys nifer o wahanol lwybrau gan gynnwys dadansoddi, dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau mecanyddol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol. Mae Peirianwyr Mecanyddol/ Cynnal a Chadw yn defnyddio'r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi cydrannau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau. Mae ein gweithdai a'n hystafelloedd dosbarth at y diben i safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar a chyfrifi aduron o'r radd fl aenaf. Mae'r gweithdai yn cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai ac ystafelloedd dosbarth arbenigol ar wahân yn cynnwys Peiriannau Rhifi adol Haas (CNC) soffi stigedig a reolir gan gyfrifi adur mewn melino a thurnio, Dylunio â Chymorth Cyfrifi adur (CAD) a thechnoleg argraffu 3D. Mae ein gweithdy hydroleg a niwmateg/electro-niwmateg yn gartref i lawer o rigiau prawf hanfodol sy'n hanfodol ar gyfer profi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau at ddefnydd diwydiannol. SAERNÏO A WELDIO Mae ar y diwydiant weldio a saernïo angen pobl fedrus iawn, a cheir llawer o gyfl eoedd cyfl ogaeth mewn meysydd fel ynni, olew a nwy, cynnal a chadw peirianneg a gweithgynhyrchu diwydiannol.

Bydd ein darlithwyr medrus iawn yn eich cefnogi a'ch tywys drwy sgiliau sylfaenol y diwydiant hwn a byddwch yn dysgu sut mae weldio yn integreiddio i mewn i system beirianneg. Mae ein gweithdai saernïo a weldio a adeiladwyd yn bwrpasol at safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar o ansawdd uchel, sy'n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio yn cynnwys Nwy Anadweithiol Metel (MIG), Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG), Arc Metel â Llaw (MMA) a Pheiriannau Plasma a reolir gan gyfrifi adur (CNC) Profi Dinistriol/Annistrywiol (DT/NDT).

Rhagolygon gyrfa

b Cysylltiadau cryf gyda dros 100 o gyfl ogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol b Cyfl eoedd dilyniant gwych i'r brifysgol a rhaglenni prentisiaeth ardderchog b Cyfl eusterau peirianneg gwych o'r radd fl aenaf b Cyrsiau yn cyfateb i safonau'r diwydiant i fodloni'r sgiliau sydd eu hangen b Sector diwydiant sy'n tyfu, y mae galw mawr amdano.

Sam Cottrell Curtis Rees

Llwyddiant Myfyrwyr

Sam Cotrell – Y Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol Sam Cottrell yw’r ‘Gorau yng Nghymru’ yn erbyn 40+ o Fyfyrwyr/Cystadleuwyr o’r 12 Coleg AB yng Nghymru a darparwyr dysgu eraill fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Mae Sam wedi sicrhau lle yn Sgwad Cymru a bydd bellach yn cystadlu yn erbyn enillwyr medalau eraill y Deyrnas Unedig yn uniongyrchol ar gyfer y safl e #1 i gynrychioli’r DU yn erbyn gweddill y byd.

Curtis Rees Prentis Weldio - Afon Engineering Roedd Curtis Rees, prentis weldio o Goleg Castell-nedd ymhlith y bobl ifanc â’r sgiliau gorau yn y wlad a gafodd eu cydnabod yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills y llynedd (2019). Curtis, sydd o Resolfen, yw’r myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill medal aur bwysig wrth iddo ddod i’r brig yn ei ddisgyblaeth yn yr NEC yn Birmingham. Roedd y gystadleuaeth fawreddog yn cynnwys mwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau i gael eu coroni’n oreuon y DU mewn llwybr galwedigaethol.

Cyfl awnodd Curtis sgôr gyffredinol o 92.25% allan o 100 i hawlio ei fedal aur, y gyntaf i Grŵp Colegau NPTC mewn unrhyw gystadleuaeth genedlaethol. Roedd Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith Hyfforddiant Pathways, Alec Thomas wrth ei fodd â llwyddiant Curtis a dywedodd: “Mae brwdfrydedd Curtis dros weldio ac am WorldSkills UK yn heintus ac mae eisoes yn annog prentisiaid newydd i gymryd rhan. Mae hyn yn wych i’r diwydiant a busnesau lleol, a bydd yn helpu i gefnogi datblygiad cyfl eoedd newydd i bobl ifanc yn yr ardal.” Mae gan Curtis gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol. Mae ennill y fedal aur wedi agor drysau iddo, ond mae ganddo ddyheadau i redeg ei fusnes ei hun ym maes weldio strwythurol, lle mae wedi gweld bwlch yn y farchnad.

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Peirianneg (Mecanyddol/Weldio) 2 4 TGAU gradd A*-D yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

BTEC Uwch mewn Peirianneg 3 5 TGAU gradd A*-C gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, Diploma 90 Credyd mewn Gwyddoniaeth a 2 o'r canlynol: Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Peirianneg â MM yn gyffredinol, teilyngdod mewn Mathemateg Peirianneg a TGAU Mathemateg gradd C/4 neu uwch. 2 Flynedd Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Hyd Lleoliad

Blwyddyn

Y Drenewydd

Peiriannydd Iau/Graddedig £30k Uwch Beiriannydd/Rheolwr £47k Cyfarwyddwr neu uwch £72k Weldiwr £16k - £31k

Sectorau Peirianneg y DU Modurol £48k

Cemegolion a Fferyllol/ Meddygol £50k Amddiffyn a Diogelwch/Morol £47k Ynni/Adnewyddadwy/Niwclear £52k Bwyd a Diod/Nwyddau Defnyddwyr £48k Olew a Nwy £53k

This article is from: