
3 minute read
Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Creadigol


Byddwn yn eich helpu, eich cefnogi a'ch arwain ar eich ffordd i fod yn rhan o'r sector deinamig hwn sy'n symud yn gyfl ym iawn. Mae nifer y swyddi yn niwydiannau creadigol y DU nawr yn fwy na dwy fi liwn am y tro cyntaf o dan y system bresennol o gyfrif ar ôl ehangu'n gyfl ymach na gweddill yr economi.
Pan ychwanegir swyddi creadigol sydd y tu allan i'r diwydiannau creadigol hefyd - i gyfrif cyfanswm swyddi yr hyn a elwir yn economi greadigol y DU - mae'r cyfanswm wedi cyrraedd 3.12 miliwn sy'n golygu bod 1 o bob 11 swydd yn rhan o'r diwydiant hwn.
Mae ein darlithwyr yn artistiaid gweithredol felly byddwch yn dysgu gan y rhai sy'n dal i chwarae rhan hanfodol yn sector y diwydiannau creadigol. Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn rhoi cyfl e i chi archwilio eich talent greadigol bersonol yng nghyd-destun maes diwylliannol ehangach ac i'w llywio, ei newid, a gwneud gwahaniaeth.
Rydym yn ganolfan ddysgu greadigol lle mae myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicach oll, yn dod yn gyfl ogadwy iawn – rydym yn anelu at eich helpu i fod yn barod am yrfa!
https://cvp.nptcgroup.ac.uk
Beth fyddaf yn ei wneud?
Dysgir gwersi mewn amgylchedd creadigol, gan ddefnyddio'r cyfarpar diweddaraf at safon y diwydiant o fewn cyfl eusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol. Darperir nifer o gyfl eoedd ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio, Ffotograffi aeth ac Amlgyfrwng i arddangos gwaith o fewn y Coleg ac mewn digwyddiadau cyhoeddus allanol.
Mae myfyrwyr y cyfryngau yn gweithio ar brosiectau 'byw', gan gysylltu â chleientiaid a sgrinio eu darn olaf o waith.
Rhagolygon gyrfa
b Penseiri b Celfyddydau treftadaeth b Crefftwyr b Dylunydd b Cyfarwyddwr b Cynhyrchydd ffi lmiau b Artistiaid cain b Dylunwyr graffeg b Ffotograffydd b Gwneuthurwr printiadau b Dylunwyr cynnyrch b Dylunio propiau a setiau b Dylunio gofodol, mewnol a thirlun b Tatŵydd b Addysgu ac addysg b Fideograffydd b Dylunydd y we.
Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa mewn celf, dylunio a'r cyfryngau



Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn
Mae myfyrwyr celf Coleg Y Drenewydd wedi dadorchuddio cerfl un pry cop newydd i'w arddangos yn y dref, fel rhan o brosiect ymddiriedolaeth bywyd gwyllt. Mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, helpodd myfyrwyr i ddylunio'r cerfl un wyth coes gyda Brandon Cadwallader, yn dilyn eu cyfl wyniad buddugol ar gyfer prosiect 'Oasis Celf' yr Ymddiriedolaeth.
Yna, bu'r arlunydd a'r gof lleol Spike Blackhurst yn bwrw ymlaen â'r cynllun a ddewiswyd er mwyn cwblhau a gosod y pry cop, a fydd bellach wedi'i leoli yn Oriel Davies yng Ngerddi Neuadd y Dref yn Y Drenewydd. Bu'r myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda Spike i greu'r pry cop, gan gymryd rhan mewn gweithdy gwaith gof ymarferol yn stiwdio Spike wrth iddynt ehangu eu gwybodaeth am grefftau a thechnegau i ddod â natur yn fyw. Nod y prosiect, a ariannwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r fenter "Arwain" a gefnogwyd gan yr UE yw dod â phobl a bywyd gwyllt ynghyd drwy'r celfyddydau ac mae wedi cyfl wyno gweithgareddau creadigol seiliedig ar gelf a phrosiectau allgymorth gyda nifer o sefydliadau yn ystod y ddwy fl ynedd ddiwethaf.
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Diploma UAL mewn Celf a Dylunio
Diploma UAL mewn Celf a Dylunio 2
3 Cymhwyster Lefel 2 perthnasol neu 5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys TGAU Saesneg. 2 Flynedd
Y Drenewydd
2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.
Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg a Chyfryngau Creadigol 2 2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.
Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg a Chyfryngau Creadigol 3 5 TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol.
Hyd Lleoliad Blwyddyn Y Drenewydd
Blwyddyn
2 Flynedd
Y Drenewydd
Y Drenewydd
“Fe wnaeth fy mlwyddyn yn y Coleg roi pro ad unigryw i mi a chwrs hamddenol gyda thiwtoriaid eithriadol a arhosodd mewn cyswllt ac yn ysgogol er gwaethaf cyfnod clo Covid. Rydw i’n hapus iawn ac yn ddiolchgar am eleni.” Tobias Williams, Myfyriwr FAD. “Mae'r tiwtoriaid yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer y dyfodol ac mae'r cyrsiau'n cynnig ystod eang o gy eusterau i'w harchwilio ac rydych chi'n dysgu gwybodaeth ddefnyddiol.” Kate Poole, myfyriwr Lefel 3 yn yr ail fl wyddyn.
Cyfarwyddwr Creadigol Uwch Ddylunydd Graffeg
Llawrydd £500i£700+ y dydd Llawrydd £200i£400y dydd
Cyflogedig £100ki£160k+
Cyflogedig £35 i£55k