
5 minute read
Prentisiaethau
MAE'N TALU I DDYSGU
Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfl e i chi ennill profi ad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyfl awni cymwysterau swydd-benodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfl eoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen.
Dyma'r llwybrau: b Cyfrifeg b Amaethyddiaeth b Mecaneg Amaethyddol b Gofal b Gweinyddiaeth Busnes b Gofal Plant a b Adeiladwaith Gwaith Chwarae b Gwasanaethau Cwsmeriaid b Peirianneg b Lletygarwch ac Arlwyo b Cerbydau Modur b Manwerthu b Arwain Tîm b Atgyweirio Cyrff Cerbydau b Rheolaeth.
Hyfforddeiaethau
Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddi i fyfyrwyr 16 i 18 oed sy'n canolbwyntio ar ddarparu: b Sgiliau cyfl ogadwyedd b Cyfl e i roi cynnig ar wahanol swyddi b Mynediad i brofi ad gwaith o ansawdd uchel.
Beth yw manteision ymgymryd â hyfforddeiaeth? b Lwfans hyfforddi wythnosol b Teithio â chymhorthdal b Meithrin profi ad hanfodol gyda chyfl ogwyr lleol a chenedlaethol b Cyfl e i wella sgiliau Saesneg a Mathemateg b Adeiladu hyder b Gwella eich rhagolygon hirdymor a'ch potensial i ennill cyfl og.
Ar ddiwedd yr hyfforddeiaeth bydd modd i chi: b Symud ymlaen i hyfforddeiaeth neu brentisiaeth lefel 1 b Camu ymlaen i gwrs academaidd b Cyfl awni gwaith gwirfoddol b Dilyn dewis gyrfa amgen.
Pam dod yn Brentis?
b Ennill cyfl og wrth ddysgu - cael eich talu b Ennill sgiliau, gwybodaeth, profi ad ac wynebu heriau newydd b Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol b Cyfl eoedd rhagorol o ran dilyniant.
Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael? b Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol: b Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2 b Prentisiaeth - Lefel 3 b Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.
Prentisiaethau
Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyfl ogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio.
Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyfl og wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am brentisiaeth.
Prentisiaethau Gradd
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Grŵp Colegau NPTC wedi cael cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen Beilot Prentisiaethau Gradd newydd ar gyfer Cymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data ar gyfer y fframwaith prentisiaethau gradd digidol newydd.
A oes gennych ddiddordeb?
Cysylltwch â'r tîm anfonwch e-bost: pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk
Y Prentis Ollie yn Rhan o Gwmni Arobryn Compact Orbital Gears.

Roedd Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o glywed bod Compact Orbital Gears (COG) yn Rhaeadr wedi eu cyhoeddi fel enillwyr Cyfl ogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. "Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori trwy raglenni prentisiaethau a hy orddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail lltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail a heriol iawn hwn." “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau adfer uchelgeisiol i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth inni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru sy’n dod yn beiriant ar gyfer twf cynaliadwy, cynhwysol. Rwy'n credu y bydd prentisiaethau'n hanfodol wrth i ni ddod allan o'r pandemig." “Dyna pam mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o leoedd prentisiaeth pellach dros y pum mlynedd nesaf. Rydym yn wlad fach, ond mae gennym uchelgeisiau mawr, a'n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn dod yn norm i gy ogwyr.”
Mae gan y cwmni hanes hir o weithio gyda Choleg Y Drenewydd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) i gefnogi a hyfforddi prentisiaid newydd. Maent yn arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu a datblygu datrysiadau geriau pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid awyrofod, modurol ac ynni glân. Roedd y Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd yn rhithiol yn arddangos 35 o gystadleuwyr yn y rownd derfynol sydd wedi rhagori, llawer yn mynd y tu hwnt i'r disgwyliadau i sicrhau llwyddiant yn ystod cyfnod digynsail.
Y Prentis Hyfforddiant Pathways diweddaraf i ddilyn cyfres o leoliadau llwyddiannus yn Compact Orbital Gears (COG) yw Ollie Leadbetter. Mae Ollie, sy'n 16 oed ac o Y Fan Llanidloes, yn astudio Diploma Cyfl awni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2. Mae'n mynychu'r coleg dri diwrnod yr wythnos ac yn gweithio yn COG fel Gweithredwr Peiriant Turnio dau ddiwrnod yr wythnos yn ystod y tymor a phum diwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau'r coleg. Bydd yn symud ymlaen i Beirianneg Fecanyddol Lefel 3 ym mis Medi eleni. Mae ein hadran Hyfforddiant Pathways yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a chymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith sy'n cael eu cydnabod gan y diwydiant mewn ystod eang o sectorau. Mae gan lwybrau prentisiaeth mewn Peirianneg opsiwn dilyniant i wneud y Diploma Cyfl awni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2, Peirianneg Fecanyddol Lefel 3, HNC Lefel 4 mewn Peirianneg ac yna ymlaen i Lefel Gradd.
Mae hwn yn llwybr cadarnhaol iawn i lawer sydd dros 16 oed, ac eisiau ennill cyfl og wrth dderbyn buddion eraill gweithwyr mewn gyrfa o'u dewis. Mae datblygu gweithlu aml-sgil a hyblyg wedi helpu Compact Orbital Gears i ddod yn enw blaenllaw mewn trawsyriant geriau arbenigol ers mwy na 50 mlynedd.
Cafodd y cwmni, sydd â gweithlu o 43 ei sefydlu yn y 1960au ac mae'n falch o'i weithlu medrus iawn, ethos teuluol a hanes hir o recriwtio prentisiaid o ganolbarth Cymru.
Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: Mae ffocws ar dyfu ei gronfa ei hun o beirianwyr medrus yn talu ar ei ganfed i Compact Orbital Gears ar adeg pan mae prinder yn y DU. Mae ei Raglen Prentisiaethau yn darparu hyfforddiant technegol, wedi'i gefnogi gan gyfarwyddyd arbenigol mewnol gyda gweithwyr profi adol yn rhannu eu sgiliau a'u gwybodaeth â phrentisiaid.
Dywedodd Tricia Evans, rheolwr ariannol Compact Orbital Gears: “Mae'n hanfodol i lwyddiant ein cwmni yn y dyfodol ein bod ni'n datblygu ac yn annog recriwtiaid newydd, wrth iddyn nhw ddod â dysgu newydd a syniadau res gyda nhw.” “Rydym yn hynod falch ein bod wedi cael ein cydnabod fel Cy ogwr Busnes Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Mae rhaglen brentisiaeth yn hanfodol i sicrhau bod gweithlu medrus yn cael ei ddarparu yn Compact Orbital Gears. Rydym yn ddiolchgar am y ^ gefnogaeth a ddarperir gan Grwp Colegau NPTC, Coleg Y Drenewydd a hy orddiant Myrick i sicrhau bod ein rhaglen prentisiaethau yn diwallu anghenion y dysgwr a'r cy ogwr.” Rheolwr Cynhyrchu COG Rob Price.