5 minute read

Chwaraeon

Next Article
Trin Gwallt

Trin Gwallt

Mae'r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffi trwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus gyda galw sy'n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol.

Mae gan y Coleg enw da sefydledig am lwyddiant mewn chwaraeon, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn ennill anrhydedd rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o gampau yn cynnwys Duncan Jones, Adam Beard, Daniel James a Chelsea Lewis.

Rydym yn falch o'n canlyniadau rhagorol, a hynny ar y cae chwaraeon ac oddi arno a'r addysgu o ansawdd uchel sy'n sylfaen i’n llwyddiant. Ynghyd â gofal bugeiliol rhagorol, mae adran chwaraeon y Coleg yn ymgorffori’n harwyddair 'mwy nag addysg yn unig'.

Mae gan lawer o'r staff chwaraeon brofi ad yn chwarae a hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf sy'n amhrisiadwy wrth ddatblygu galluoedd chwaraeon myfyrwyr.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gallwch ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyfl ogaeth neu gwrs prifysgol addas.

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae'r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn defnyddio cyfl eusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy'n cynnwys trac athletau, cae astro turf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofi o. Ar y safl e, mae gan yr Academi Chwaraeon ei chae hyfforddi ei hun a chanolfan cryfder a chyfl yru o'r radd fl aenaf, sydd wedi bod o fudd i ddatblygiad llawer o athletwyr dros y blynyddoedd, er enghraifft Dan Lydiate. Mae cefn gwlad o amgylch Bannau Brycheiniog hefyd yn cynnig llawer o weithgareddau anturus awyr agored fel cerdded mynyddoedd, canŵio a beicio mynydd; gall pob myfyriwr gymryd rhan ar y cyd mewn gweithgareddau amrywiol naill ai fel rhan o'u cwrs, drwy'r rhaglen gyfoethogi neu'r cymhwyster Dug Caeredin sydd newydd ei sefydlu. Mae darlithwyr yn hyfforddwyr cymunedol sy'n cynnig hoci a gymnasteg, gyda Rhian Davies yn chwarae hoci dros Feistri Cymru. Gellir addysgu rhai modiwlau o'r BTEC Diploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon a CBC trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd modd i fyfyrwyr gwblhau eu haseiniadau yn ddwyieithog lle y bo'n bosibl.

Coleg Y Drenewydd

Mae Academi Pêl-droed Coleg y Drenewydd yn hyfforddi ac yn chwarae gemau cartref ar y cae 3G newydd ym Mharc Latham. Rydym hefyd yn defnyddio'r cyfl eusterau yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn sy'n cynnwys y neuadd chwaraeon, y cae astroturf, stiwdio ffi trwydd ac ystafell ffi trwydd.

b Byddwch yn elwa o staff sy'n ymroddedig i'r proffesiwn chwaraeon. Mae Gareth Watkins yn hyfforddwr pêl-droed gweithredol yn y gymuned ac mae Andrew Davies yn athletwr presennol tîm Prydain Fawr yn cynrychioli Cymru.

b Mae ein partneriaethau â chlybiau busnes a chwaraeon lleol yn darparu cyfl eoedd sy'n cyfateb eich cwrs â gyrfaoedd yn y dyfodol yn lleol neu ymhellach i ffwrdd.

Cyfleoedd Gyrfa

Gallai'r ystod eang o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig arwain at lawer o yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro addysg gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegwr chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog datblygu chwaraeon.

Mae dilyniant academaidd yn cynnwys addysg uwch yn y Coleg neu mewn sefydliad arall. Gall rhai athletwyr elît ennill ysgoloriaethau i astudio dramor e.e. golff yn America.

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Tystysgrif Gyfun BTEC mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC Cyfun Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon gyda CBC 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfi ol.

2 Y detholiad priodol o TGAU Graddau A*-E. Cymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

3 4 TGAU (neu gyfwerth) ar radd C neu'n uwch i gynnwys Saesneg neu Fathemateg.

Hyd Lleoliad

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

2 Flynedd

Bannau/Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru £17k - £45k Athro Addysg Gorfforol Ysgol Uwchradd £25k+ Swyddog Datblygu Chwaraeon £18-£23k Hyfforddi Chwaraeon £15-25k

Gwyddor Chwaraeon £20k - £30k

Os ydych yn gweithio mewn gwyddor chwaraeon proffil uchel, gall eich cyflog fod yn fwy na £60,000 a gall gyrraedd hyd at £100,000* Swyddog 5x30 £20k Ffisiotherapydd £24-43k Dadansoddwr Chwaraeon £24-43k

“Os ydych chi am dorri i wrdd a gwneud rhywbeth gwahanol mae'r coleg yn wych. Gadewais yr ysgol a dod i wneud chwaraeon yma yng Ngholeg Y Drenewydd ac mae wedi bod yn wych. Mae'r gefnogaeth a gefais gan y darlithwyr wedi bod yn amhrisiadwy fel Andy Davies sy'n athletwr Prydain Fawr a Gareth sydd hefyd yn hy orddi. Maent wedi rhoi llwyth o arweiniad imi ar ddod yn hy orddwr”. Jennifer Jarvie.

Llwyddiant Myfyrwyr

Cyfl awnodd Courtney Ashworth Rhagoriaeth Serennog Driphlyg (D* D* D*) ac mae'n mynd i astudio Adsefydlu Anafi adau Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Cyfl awnodd Owen Brunt Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Dywedodd Owen, 'Gweithiais yn galed iawn am y graddau a enillais ac rwy'n falch o gael lle yn Met Caerdydd i wneud Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon'.

Cyfl awnodd Elis Tudor Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Mae Elis wedi derbyn ysgoloriaeth o ganlyniad i'w graddau ac mae'n mynd i Brifysgol Aberystwyth i wneud Addysg Gynradd gan arwain at SAC.

Iwan Evans yn gadael tîm Cymru i ymuno â thîm beicio yr Iseldiroedd.

Prys Eckley a Conor Drain yn derbyn grantiau.

Iwan Evans a Caine Ballentine Price

yn cwblhau CBC yn Ysgol Y Bannau. Jack Jones yn gorffen gyda Rhagoriaethau yn y mwyafrif o unedau ond hefyd yn ennill dwy fedal arian ym Mhencampwriaethau Karate Cymru yn ddiweddar. Un mewn kumite ieuenctid unigol a'r llall yn kumite tîm y dynion.

Bu hefyd yn cystadlu dros Gymru eleni yn Serbia. Mae Jack yn llysgennad chwaraeon rhagorol i'r Coleg, ar ôl derbyn ysgoloriaeth yn ei fl wyddyn gyntaf am ei ragoriaeth ac mae wedi mynd ymlaen i arwain gweithgareddau yn y diwydiant chwaraeon a gwasanaeth cyhoeddus. Model rôl go iawn o fewn y gymuned!

Da iawn i dîm traws gwlad Grŵp Colegau NPTC, Finley Hines, Sam Lennox, Tom Callard, James Fishlock ac Evan Price-Davies

am ennill digwyddiad Tîm Rhyng-ysgolion Cymru yn Aberhonddu.

Yn Her y Barcud Coch ym Mhontarfynyach, gorffennodd Evan Price-Davies yn y pedwerydd safl e ar ôl bod 10 eiliad ar y blaen a dal i lwyddo i fachu Aur dan 20 ym Mhencampwriaethau Cymru. Da iawn.

This article is from: